Daeth Cymru yn chweched mewn adolygiad o ddeg rhanbarth a gwlad fach ar draws y byd o ran pa mor atyniadol yw hi'n rhyngwladol – ei grym 'cymell tawel'
Chwaraeon yw ased cymell tawel gorau Cymru – yn yr ail safle
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod Cymru'n trin Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan fel cyfle pwysig i hyrwyddo'r wlad dramor
Mae adroddiad newydd gan British Council Cymru (a gyhoeddwyd heddiw ar 26 Ebrill) yn dweud y dylai Cymru ddefnyddio apêl ei grym 'cymell tawel' yn well, sef ei sectorau diwylliant, addysg a chwaraeon, er mwyn cael mwy o gydnabyddiaeth a dylanwad ar lwyfan byd-eang.
Mae'r adroddiad, 'Baromedr Cymell Tawel Cymru 2018', yn cymharu Cymru â naw gwlad a rhanbarth ar draws y byd.
Yn gyffredinol, daeth Cymru yn chweched yn y Mynegai, y tu ôl i Québec, yr Alban, Fflandrys, Catalwnia a Hokkaido yn Japan, a daeth ar y blaen i Gorsica, Gogledd Iwerddon, Jeju yn Ne Corea a Phuerto Rico.
Mae'r adroddiad yn cyfuno dadansoddiad o ddata sydd eisoes yn bodoli ar lywodraeth pob ardal, eu defnydd o dechnoleg ddigidol, eu diwylliant, eu menter, eu hymgysylltiad a'u haddysg, gyda chanlyniadau arolwg a gomisiynwyd yn ddiweddar o 5000 o bobl mewn deg gwlad.
Roedd yr arolwg yn gofyn am safbwyntiau pobl ar fwyd, cyfeillgarwch tuag at dwristiaid, brandiau moethus, gwerthoedd gwleidyddol, sut le yw i fyw, diwylliant a chwaraeon ar gyfer Cymru a'r naw rhanbarth a gwlad gymaradwy.
Daeth Cymru'n ail yn yr arolwg ar gyfer chwaraeon, ychydig y tu ôl i Gatalwnia, ac yn nawfed ar gyfer bwyd, gyda dim ond Gogledd Iwerddon y tu ôl iddi yn y safle olaf.
Yn y dadansoddiad o ddata, ym maes technoleg ddigidol y gwnaeth Cymru orau, gan ddod yn drydydd y tu ôl i'r Alban a Jeju. Daeth hefyd yn bedwerydd am ei sector menter, gan wneud yn well na'r rhanbarthau mwy Catalwnia a Hokkaido. Addysg oedd maes gwannaf Cymru, a daeth yn y seithfed safle.
Meddai Pennaeth Addysg British Council Cymru, Chris Lewis: "Mae globaleiddio a datganoli yn cynnig cyfleoedd mawr newydd i wledydd fel Cymru, nad oes ganddynt yr un ysgogiadau polisi tramor â chenedl-wladwriaethau, i weithredu ar lwyfan byd-eang. Rydyn ni'n falch o weld bod yr adroddiad yn dangos bod gan Gymru adnoddau cymell tawel sylweddol. Mae apêl ein diwylliant chwaraeon yn amlwg wedi'i hybu gan berfformiad Cymru yn Ewro 2016, ac mae isadeiledd digidol ac amgylchedd buddsoddi'r wlad ymhlith ei chryfderau eraill.
"Yr her nawr, yn enwedig yng nghyd-destun Brecsit, yw adeiladu ar y perfformiad hwn a datgelu ein gwir botensial cymell tawel. Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd i Gymru, a fydd wir yn helpu i hybu ymgysylltiad byd-eang."
"Mae cenhedloedd bach, rhanbarthau a dinasoedd ar draws y byd yn gynyddol ymwybodol bod ganddynt yr hyn a elwir yn 'rym cymell tawel', ac maent yn ei ddefnyddio i ddenu buddsoddiad o'r tu allan, hybu masnach a chynyddu niferoedd twristiaid a myfyrwyr rhyngwladol."
Bydd yr adroddiad a dyfodol cymell tawel Cymru yn cael eu trafod mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ar 26 Ebrill, lle bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn rhoi'r brif araith. Trefnwyd y gynhadledd gan British Council Cymru ar y cyd â'r Sefydliad Materion Cymreig.
Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Jonathan McClory o gwmni Portland, sy'n cynhyrchu'r 'Soft Power 30', rhestr flynyddol o'r gwledydd â'r grym cymell tawel mwyaf dylanwadol yn y byd.