Adroddiad newydd - BAROMEDR CYMELL TAWEL CYMRU 2018

Mae British Council Cymru wedi comisiynu'r ymchwil cyntaf i rym cymell tawel Cymru, sydd wedi'i gyhoeddi yn ei adroddiad Baromedr Cymell Tawel Cymru 2018.

Cynhyrchwyd yr adroddiad gan Jonathan McClory o gwmni Portland, sy'n cynhyrchu'r ‘Soft Power 30’, rhestr flynyddol o'r gwledydd â'r grym cymell tawel mwyaf dylanwadol yn y byd.

Beth yw grym cymell tawel?

Mae grym Cymell Tawel yn adeiladu dylanwad rhyngwladol gwlad neu ranbarth drwy ddiwylliant, diplomyddiaeth gyhoeddus a chyfraniad byd-eang cadarnhaol.

 Mae gwledydd o amgylch y byd yn defnyddio grym cymell tawel i wella perthnasau rhyngwladol ac i hybu masnach a thwristiaeth.

Sut y gwnaed yr ymchwil Baromedr Cymell Tawel?

Cymharwyd data am lywodraeth Cymru, defnydd Cymru o dechnoleg ddigidol, ei diwylliant, ei masnach, ei hymgysylltiad rhyngwladol a'i haddysg gyda rhai naw gwlad/rhanbarth arall: Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Catalwnia, Québec, Corsica, Puerto Rica, Hokkaido yn Japan a Jeju yn Ne Corea.

Casglwyd safbwyntiau ar Gymru a'r naw gwlad/rhanbarth arall gan 5,000 o bobl yng Nghanada, Tsieina, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Ffrainc, yr Almaen, India, Iwerddon, Japan, Qatar ac Unol Daleithiau America.

Rhai canfyddiadau allweddol o Faromedr Cymell Tawel Cymru: 

•  Daeth Cymru'n chweched o ddeg gwlad/rhanbarth am ei dylanwad cymell tawel, y tu ôl i Québec, yr Alban, Fflandrys, Catalwnia a Hokkaido, ac o flaen Corsica, Gogledd Iwerddon, Jeju a Phuerto Rico.

•  Daeth Cymru'n ail am chwaraeon, y tu ôl i Gatalwnia'n unig

•  Yng nghanlyniadau'r dadansoddiad o ddata, am ei defnydd o dechnoleg ddigidol y gwnaeth Cymru orau, gan ddod yn drydydd y tu ôl i'r Alban a Jeju. 

•  Gwnaeth Cymru'n dda hefyd ym maes menter, gan gyrraedd y pedwerydd safle a gwneud yn well na rhanbarthau mwy megis Catalwnia a Hokkaido. 

•  Addysg oedd dangosydd gwannaf Cymru, a daeth yn seithfed o flaen Catalwnia, Corsica a Gogledd Iwerddon.

•  Nid oes llawer o feddwl o fwyd Cymru, a daeth yn y nawfed safle o flaen Gogledd Iwerddon, a ddaeth yn olaf.

Meddai Pennaeth Addysg British Council Cymru, Chris Lewis: "Mae globaleiddio a datganoli yn cynnig cyfleoedd mawr newydd i wledydd fel Cymru, nad oes ganddynt yr un ysgogiadau polisi tramor â chenedl-wladwriaethau, i weithredu ar lwyfan byd-eang. Rydyn ni'n falch o weld bod yr adroddiad yn dangos bod gan Gymru adnoddau cymell tawel sylweddol. Mae apêl ein diwylliant chwaraeon yn amlwg wedi'i hybu gan berfformiad Cymru yn Ewro 2016, ac mae isadeiledd digidol ac amgylchedd buddsoddi'r wlad ymhlith ei chryfderau eraill. 

"Yr her nawr, yn enwedig yng nghyd-destun Brecsit, yw adeiladu ar y perfformiad hwn a datgelu ein gwir botensial cymell tawel."

 

 Baromedr Cymell Tawel Cymru infographic

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon