Anrhydeddu un o hyrwyddwyr y Gymraeg ym Mhatagonia yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd athrawes Gymraeg o Abermorddu ger Wrecsam yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis nesaf am ei gwaith eithriadol yn hybu a datblygu'r Gymraeg ym Mhatagonia yn yr Ariannin.
Bydd Clare Vaughan yn cael ei hurddo gan yr Orsedd am ei gwaith a'i chyfraniad dros ddegawdau yn hybu iaith a diwylliant Cymru dramor.
Dechreuodd Clare ei gyrfa fel athrawes uwchradd yng Ngogledd Cymru. Mae wedi treulio dros 20 mlynedd ym Mhatagonia, yn gweithio'n bennaf fel cydlynydd Cynllun yr Iaith Gymraeg y British Council. Drwy ei gwaith, mae wedi helpu cannoedd o bobl dros y blynyddoedd i ail-gysylltu â'r Gymraeg, gan sicrhau fod yr iaith yn ffynnu filoedd o filltiroedd o adref.
Cafodd Cynllun yr Iaith Gymraeg ei sefydlu yn 1997. Mae'r rhaglen yn anfon athrawon o Gymru draw i'r Wladfa ym Mhatagonia bob blwyddyn i dreulio deg mis yn dysgu yn nhrefi Trelew, Trevelin a'r Gaiman.
Mae'r hyn a ddechreuodd fel cyfnod gwaith o ddeg mis wedi troi'n siwrne sydd wedi newid bywyd Clare: "Ro'n i'n Bennaeth ar Adran Gymraeg. Roedd gen i swydd ddiogel, ac roedd popeth yn iawn. Yna, yn 2000 cefais wybod bod canser arnaf. Roedd yn teimlo fel bod bom wedi disgyn. Bues i'n sâl iawn am tua 18 mis, ac ar ôl gwella, doedd dim byd yn teimlo'r un fath. Ro'n i'n gwybod bod rhaid i mi wneud rhywbeth ystyrlon gyda'r amser oedd gen i ar ôl."
Wedi gweld hysbyseb yn chwilio am athrawon Cymraeg i weithio ym Mhatagonia, penderfynodd Clare fynd amdani - gan adael ei bywyd sefydlog i ddechrau pennod newydd bron i 7,000 o filltiroedd i ffwrdd.
Ei bwriad gwreiddiol oedd treulio blwyddyn yno, ond newidiodd y profiad ei bywyd am byth. "Mi wnes i ddisgyn mewn cariad â'r lle'n sydyn iawn," meddai. "Mae'r bobl yno'n byw bob dydd yn ei dro, achos dydyn nhw ddim yn gwybod beth ddaw yfory. Ar ôl popeth a oedd wedi digwydd i mi, roedd y ffordd yna o fyw'n gwneud synnwyr i mi."
Ymhen dim roedd Clare wedi ymdrochi'n llwyr mewn tirlun diwylliannol a sefydlwyd gan y mudwyr cyntaf o Gymru a laniodd ym Mhatagonia yn y 19eg ganrif, gan greu gwladfa barhaol yn Nyffryn Chubut yn 1865. Ar adeg ei hymweliad cyntaf â Phatagonia, roedd llawer o'r trigolion hŷn yno'n dal i siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
"Ond mae pethau wedi newid" mae'n esbonio. "Pan ddes i yma gyntaf, roedd llawer o bobl yn dal i siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac yn ei defnyddio bob dydd gyda'u teuluoedd. Ond yn aml, doedd eu plant ddim yn cadw'r traddodiad ar ôl priodi ag aelodau o gymunedau eraill. Mae'r Ariannin yn wlad gosmopolitan - yn bair o fewnfudwyr - ac felly fe gollon ni genhedlaeth o siaradwyr Cymraeg cynhenid.
"Ond erbyn heddiw, mae ysgolion cynradd Cymraeg wedi cael eu sefydlu yma - rhywbeth a fyddai'r tu hwnt i bob dychymyg ugain mlynedd yn ôl. Bryd hynny, roedd addysgu a dysgu Cymraeg yn gyfyngedig i glybiau ar ôl ysgol, a doedd plant ddim yn tyfu'n siaradwyr Cymraeg rhugl. Nawr, mae rhai o'r oedolion a ddysgodd Gymraeg yn hwyrach yn eu bywydau wedi dod yn athrawon, ac maen nhw'n trosglwyddo'r Gymraeg i genhedlaethau newydd."
Heddiw, er bod Clare yn dal i addysgu rhai dosbarthiadau Cymraeg i oedolion ar-lein, ei phrif rôl yw cydlynnu'r gwaith o addysgu Cymraeg ar draws Patagonia. O ystyried ehangder daearyddol y Wladfa, lle mae tua 700 o filltiroedd rhwng ysgolion yr arfordir a'i chartref yn yr Andes, mae'r dasg hon yn dipyn o her.
Meddai: "Diolch i Whatsapp, e-byst a thechnoleg amrywiol rydyn ni'n gallu cadw mewn cysylltiad, a dw i'n ceisio sicrhau fod gan yr ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Mae pob ysgol yn wynebu amodau unigryw ac yn gorfod darparu ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr - does dim un dull 'addas-i-bawb' o weithredu yma.
Mae hi hefyd yn cydweithio'n agos ag addysgwyr yng Nghymru gan rannu'r datblygiadau diweddaraf ym maes addysg gynradd. "Dyna pam mae mor bwysig fod y cynllun yn rhoi cyfle i athrawon ddod draw o Gymru - maen nhw'n dod â'r wybodaeth a'r arferion diweddaraf gyda nhw."
Y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mae Clare yn agor drws ei chartref i groesawu ymwelwyr ac yn gwneud gwaith gwirfoddol yn gyson. Mae'n cefnogi digwyddiadau lleol ac yn gweithio'n ddi-flino gyda'r eisteddfodau - fel hyfforddwr a beirniad, a hefyd yn cystadlu fel aelod o sawl côr a pharti cyd-adrodd. Mae'n gwneud popeth y gall i hybu'r diwylliant a'r iaith bob dydd.
A beth yw barn Clare am ddyfodol yr iaith Gymraeg ym Mhatagonia?
Meddai: "Rydyn ni ar bwynt tyngedfenol - mae disgwyl y bydd dros hanner y 7,000 o ieithoedd a siaredir ledled y byd wedi diflannu erbyn diwedd y ganrif. Does dim byd yn sicr. Ond mae'r Cymry'n bobl ddygn. Ers 1282, er gwaethaf pwysau o'r tu allan, maent wedi cadw eu hiaith a'u traddodiadau'n fyw. Tra bod yna Gymry a Phatagoniaid sy'n poeni am eu gwreiddiau, bydd yr iaith Gymraeg yn parhau."
Mae Clare yn ymuno â detholiad o newyddiadurwyr, gwleidyddion, artistiaid ac addysgwyr sy'n cael eu hurddo gan yr Orsedd eleni. Fel un a ddysgodd yr iaith fel ail iaith yn yr ysgol, wnaeth hi erioed ddychmygu y byddai'n derbyn y fath gydnabyddiaeth ac anrhydedd.
Meddai: "Pan ddarllenais i'r e-bost, do'n i ddim yn gallu credu'r peth. Roedd un hanner ohonof eisiau crio. Fe ddysgais i Gymraeg yn yr ysgol. Nid Cymraeg oedd iaith fy aelwyd adref - ond ces fy magu i deimlo mai Cymraes oeddwn i, nid Saesnes. Bu dysgu'r iaith yn agoriad llygad i mi - yn ffordd newydd o weld y byd. Ro'n i wastad yn meddwl am yr Orsedd fel rhywbeth i bobl eraill. Rwy'n cyflwyno'r anrhydedd yma i fy holl ddysgwyr - ddoe a heddiw - sydd wedi rhannu'r siwrne yma â mi."
Bydd Clare yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ddydd Gwener 8 Awst 2025
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer Cynllun yr Iaith Gymraeg 2026 ar agor nawr. Y dyddiad cau i athrawon Cymraeg sydd am wneud cais yw 8 Medi 2025. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael tâl o £750 y mis, yn ogystal â llety am ddim a chostau teithio ac yswiriant iechyd.
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Rydyn ni mor falch fod Clare yn cael ei anrhydeddu gan yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae ei hymroddiad, cynesrwydd a phenderfyniad wedi ysbrydoli cenedlaethau o ddysgwyr ac athrawon. Mae Clare yn ymgorffori curiad calon y cynllun yma - nid dim ond addysgu iaith, ond meithrin ymdeimlad o gymuned, cysylltiad a balchder diwylliannol ar draws cyfandiroedd."
"Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn gyfle anhygoel i athrawon gyfrannu i gyfnewid diwylliannol ac addysgu a dysgu'r Gymraeg ym Mhatagonia. Mae'r rhaglen yn parhau i gryfhau cysylltiadau Cymru a chynnig cyfle unwaith mewn oes i'r sawl sy'n cymryd rhan."
Mae mwy o wybodaeth a manylion meini prawf cymhwystra ar gael yma: https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/prosiect-yr-iaith-gymraeg
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn adlewyrchu cenhadaeth ehangach y British Council i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd drwy addysg, celfyddydau ac addysgu a dysgu ieithoedd.