Dydd Mawrth 10 Tachwedd 2020

 

Yn ystod dathliadau Diwali eleni bydd artistiaid o Gymru ac India’n dod at ei gilydd i rannu eu profiadau am weithio mewn partneriaethau i greu gwaith newydd.

Yn 2017 lansiodd British Council Cymru gynllun India-Cymru, rhaglen o brosiectau diwylliannol sydd wedi galluogi artistiaid o’r ddwy wlad i groesi’r byd i weithio gyda’i gilydd.

Ers lansio’r rhaglen, mae artistiaid yng Nghymru ac India wedi parhau i gydweithio ar brosiectau ym meysydd llenyddiaeth, dawns, theatr a’r celfyddydau gweledol.

Eleni roedd mwy o bartneriaethau ar y gweill, ond oherwydd Cofid-19 mae’r artistiaid wedi gorfod cydweithio ar-lein yn bennaf.

Fel yr esboniodd Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru, Rebecca Gould: “Ar gefn llwyddiant rhaglen India-Cymru, llynedd fe wnaethom ni lansio cynllun grantiau newydd sef, ‘Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru’.

“Cafodd pump o grantiau eu dyfarnu i bartneriaethau rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol o’r ddwy wlad.

“Yn anffodus, gan nad oedd yr artistiaid yn gallu teithio i weithio gyda’i gilydd, bu’n rhaid iddynt symud llawer o weithgarwch eu prosiectau arfaethedig ar-lein.

“Yn deyrnged i’w hymroddiad a’u hysbryd rydym wedi penderfynu creu digwyddiad ar-lein, sef Gŵyl Ddigidol India-Cymru: Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant.                

“Byddwn yn dod â cherddorion, artistiaid celf weledol, artistiaid tecstilau, sgwenwyr, ymarferwyr theatr, arweinyddion ym maes y celfyddydau a choreograffwyr o India a Chymru at ei gilydd i drafod y gwaith y maent wedi ei greu gyda’i gilydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Y peth gorau am raglen India-Cymru yw’r ffordd y mae’r holl artistiaid gwych yma wedi dod at ei gilydd i ffurfio cysylltiadau artistig newydd ac wedi bod mor hael wrth rannu eu gwaith a’u profiadau gyda’i gilydd a gyda gweddill sector y celfyddydau yng Nghymru ac India.

“Er nad oeddem ni’n gallu cynnwys pob un o brosiectau’r rhaglen yn yr ŵyl yma, rydym wedi ceisio cyflwyno croestoriad o’r gwaith anhygoel sydd wedi cael ei gyflawni.”

Bydd digwyddiadau’r ŵyl yn cael eu cynnal ar-lein dros gyfnod o bythefnos i gyd-fynd â dathliadau Diwali yn India a Chymru. Mae’r cyfan yn dechrau ar 12 Tachwedd.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o drafodaethau panel a digwyddiadau byw ar Instagram. Gallwch weld rhaglen yr ŵyl gyfan ar wefan British Council Cymru.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru, Jane Hutt:  “Mae Gŵyl Ddigidol India-Cymru yn ychwanegiad i’w groesawu i ddathliadau Diwali Llywodraeth Cymru eleni. Mae rhaglen India-Cymru wedi helpu i gryfhau’r berthynas ddiwylliannol rhwng y ddwy wlad ac mae’n dda gweld artistiaid o’r ddwy wlad yn parhau i weithio gyda’i gilydd er gwaethaf y rhwystrau a achoswyd gan y pandemig.”

Dywedodd Barbara Wickham OBE, Cyfarwyddwr British Council India: “Mae’r cysylltiadau diwylliannol rhwng India a Chymru ym meysydd y celfyddydau ac addysg wedi gwreiddio ers cryn amser. Mae’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng y British Council, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Telangana yn Ne India yn dysteb i’r etifeddiaeth gadarn yma ac i’n huchelgais i sicrhau cysylltiadau diwylliannol cadarnhaol yn y dyfodol.

“Mae Gŵyl Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant India-Cymru yn gyfrwng i gryfhau’r cydweithio creadigol ymhellach - rhwng artistiaid blaengar ym maes theatr, cerddoriaeth, dawns, ffilm a chrefftau. Bydd hefyd yn galluogi darpar arweinyddion ym maes celfyddydau a diwylliant yn y ddwy wlad i sicrhau bod y cydweithio’n parhau er gwaethaf yr amodau anodd presennol.” 

Mae croeso cynnes i bawb ymuno â’r digwyddiadau ar-lein yma – yn rhad ac am ddim. Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru yma: Gwefan British Council Cymru

Nodiadau i olygyddion

AMSERLEN YR ŴYL

Digwyddiad Lansio mewn partneriaeth gyda Diwali Digidol Llywodraeth Cymru #DiwaliCymru

Mentrau ar y cyd mewn llenyddiaeth

Iau 12 Tach 2020 10.00 (GMT) 15.30 (IST)

Hyd: 1 awr 15 munud

Cyflwynir gan Barbra Wickham OBE, Cyfarwyddwr British Council India. Bydd y digwyddiad yma’n bwrw golwg ar y mentrau ar y cyd niferus diweddar ym maes llenyddiaeth rhwng India a Chymru. Bydd Clare Reddington, un o Ymddiriedolwyr y British Council a Phrif Swyddog Gweithredol y Watershed yn cadeirio. Yn ystod y digwyddiad byddwn yn lansio cyfrol newydd y cyhoeddwr o Gymru, Parthian Books: ‘Modern Bengali Poetry’ - casgliad o gerddi sy’n dathlu dros ganrif o farddoniaeth o’r ddwy Bengal – y dalaith yn Nwyrain India a gwlad Bangladesh. Mae’n cynnwys cerddi gan dros hanner cant o feirdd gwahanol a myrdd o ffurfiau ac arddulliau. Cafodd y cerddi eu dewis a’u cyfieithu gan Arunava Sinha.

Arweinyddiaeth ym maes y celfyddydau yn India a Chymru yn ystod Cofid-19

Mawrth 17 Tach 2020 14.00 (GMT) 19.30 (IST)

Hyd: 1 awr 15 munud

Wrth i sectorau’r diwydiannau celf a’r diwydiannau creadigol yn India a Chymru ddechrau goresgyn y pandemig byd-eang, dyma gyfle i glywed gan arweinwyr o faes y celfyddydau yn India a Chymru am sut y mae mentrau cydweithredol a dyfal barhad yn galluogi ac annog y sectorau hyn i ddychmygu dyfodol newydd i’r celfyddydau. Cadeirydd: Rashmi Dhanwani, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr The Art X Company.

Mentrau ar y cyd ym maes y celfyddydau gweledol

Iau 19 Tach 2020 14.00 (GMT) 19.30 (IST)

Hyd: 1 awr 15 munud

Cyfle i deithio drwy naratifau diwylliannol a rennir ym maes y celfyddydau gweledol; mentrau ar y cyd ar draws ffiniau a diwylliannau yn India a Chymru. Cadeirydd – Karen MacKinnon, Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, De Cymru.

Mentrau ar y cyd ym maes cerddoriaeth

Sadwrn 21 Tach 2020. 12.30 (GMT) 18.00 (IST)

Hyd: 1 awr 15 munud

Archwilio mentrau cerddorol ar y cyd gydag artistiaid a chynhyrchwyr gwyliau o India a Chymru – ar draws ffiniau, rhywedd a thirluniau digidol. Cadeirydd – Tom Sweet, Rheolwr Rhaglen Gerddoriaeth y British Council.

Cydweithio ym maes crefftau

Sul 22 Tach 2020 9.30 (GMT) 15.00 (IST)

Hyd: 1 awr 15 munud

Golwg ar fentrau ar y cyd ar draws ffiniau ym maes crefftau gyda chrefftwyr o India a Chymru yn rhannu eu profiadau.

Cydweithio ym maes theatr a dawns

Llun 23 Tach 2020 14.00 (GMT) 19.30 (IST)

Hyd: 1 awr 15 munud

Cyfle i archwilio rhai o’r mentrau ar y cyd niferus ac amrywiol yn India a Chymru ym maes theatr a dawns. Cadeirydd – Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau Cymru’r British Council.

Diwali

Ystyr ‘Diwali’, yr ŵyl Hindŵaidd sy’n cael ei dathlu yn yr Hydref, yw ‘rhes o lampau wedi’u goleuo’. Mae’r ŵyl yn dathlu buddugoliaeth y da dros y drwg, golau dros dywyllwch a gwybodaeth dros anwybodaeth. Mae’n nodi dechrau’r Flwyddyn Newydd Hindŵaidd. Enw arall ar yr ŵyl hon yw ‘Deepavali’, sef ‘Gŵyl y Goleuadau’.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Llynedd, gwnaethom ymgysylltu â thros 80 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 791 miliwn o bobl i gyd - gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r gwledydd yr ydym yn gweithio gyda nhw - yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon