Gŵyl Ddigidol India-Cymru: cysylltiadau drwy ddiwylliant
Mae’r digwyddiadau yma wedi dod i ben. Sgroliwch i lawr at y ddolen isod i wylio recordiad ohonynt.
Ar gefn llwyddiant Rhaglen India-Cymru a gynhaliwyd yn 2017/18, cafodd cynllun grantiau newydd o’r enw Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru ei lansio gan British Council Cymru a British Council India mewn partneriaeth gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cafodd manylion y cynllun newydd yma eu cyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Chadeirydd y British Council, Stevie Spring yn ystod dathliadau Diwali yng Nghaerdydd yn 2019. Dyfarnwyd pump o Grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant i bartneriaethau rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol o India a Chymru.
Wrth i’r byd ymdrechu i ddelio â Covid-19, bu’n rhaid i ddeiliaid grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant 2019 newid eu cynlluniau a symud llawer o weithgarwch eu prosiectau arfaethedig ar-lein. Yn deyrnged i’w hymroddiad a’u hysbryd rydyn ni wedi penderfynnu creu digwyddiad ar-lein arbennig, Gŵyl Ddigidol India-Cymru: Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant.
Yn ystod mis Tachwedd 2020, fe wnaethom ni gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau ar-lein gan gynnwys trafodaethau panel gydag artistiaid celf weledol, cerddorion, artistiaid tecstilau, sgwenwyr, ymarferwyr theatr, arweinwyr o faes y celfyddydau a choreograffwyr. Buon nhw’n trafod y corff cynyddol o fentrau ar y cyd a phrosiectau cydweithio sydd wedi cael eu rhoi ar waith rhwng artistiaid o Gymru ac India yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Amserlen yr Ŵyl
Mentrau ar y cyd ym maes llenyddiaeth
Iau 12 Tach 2020
Cyflwynwyd y digwydiad gan Barbara Wickham OBE, Cyfarwyddwr British Council India. Roedd y sesiwn yma’n bwrw golwg ar y mentrau ar y cyd niferus diweddar sydd wedi digwydd ym maes llenyddiaeth rhwng India a Chymru. Cafodd y sesiwn ei chadeirio gan Clare Reddington, un o Ymddiriedolwyr y British Council a Phrif Swyddog Gweithredol y Watershed ym Mryste. Yn ystod y digwyddiad lansiwyd cyfrol newydd gan y cyhoeddwyr o Gymru, Parthian Books: ‘Modern Bengali Poetry’ - casgliad o gerddi sy’n dathlu dros ganrif o farddoniaeth o’r ddwy Bengal – y dalaith yn Nwyrain India a gwlad Bangladesh. Mae’n cynnwys cerddi gan dros hanner cant o feirdd gwahanol a myrdd o ffurfiau ac arddulliau. Cafodd y cerddi eu dewis a’u cyfieithu gan Arunava Sinha.
Rhagor o wybodaeth a chyfle i wylio’r digwyddiad cyfan yma
Arweinyddiaeth ym maes y celfyddydau yn India a Chymru yn ystod Cofid-19
Mawrth 17 Tach 2020
Wrth i sectorau’r diwydiannau celf a’r diwydiannau creadigol yn India a Chymru ddechrau goresgyn y pandemig byd-eang, roedd y sesiwn yma’n gyfle i glywed gan arweinwyr o faes y celfyddydau yn India a Chymru am sut y mae cydweithio a dyfal barhad wedi galluogi ac annog y sectorau hyn i ddychmygu dyfodol newydd i’r celfyddydau. Cadeiriwyd y sesiwn gan Rashmi Dhanwani, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr The Art X Company.
Rhagor o wybodaeth a chyfle i wylio’r digwyddiad cyfan yma
Mentrau ar y cyd ym maes y celfyddydau gweledol
Iau 19 Tach 2020
Cyfle i deithio drwy naratifau diwylliannol a rennir ym maes y celfyddydau gweledol; mentrau ar y cyd ar draws ffiniau a diwylliannau yn India a Chymru. Cadeirydd – Karen MacKinnon, Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, De Cymru.
Rhagor o wybodaeth a chyfle i wylio’r digwyddiad cyfan yma
Mentrau ar y cyd ym maes cerddoriaeth
Sadwrn 21 Tach 2020
Archwiliwch fentrau cerddorol ar y cyd â chynhyrchwyr gŵyl a phartneriaid o India a Chymru - ar draws ffiniau, rhyw a thirweddau digidol. Cadeirydd – Tom Sweet, Rheolwr Rhaglen Gerddoriaeth y British Council.
Rhagor o wybodaeth a chyfle i wylio’r digwyddiad cyfan yma
Cydweithio ym maes crefftau
Sul 22 Tach 2020
Golwg ar fentrau ar y cyd ar draws ffiniau ym maes crefftau gyda chrefftwyr o India a Chymru yn rhannu eu profiadau.
Rhagor o wybodaeth a chyfle i wylio’r digwyddiad cyfan yma
Cydweithio ym maes theatr a dawns
Llun 23 Tach 2020
Cyfle i archwilio rhai o’r mentrau ar y cyd niferus ac amrywiol yn India a Chymru ym maes theatr a dawns. Cadeirydd – Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau Cymru’r British Council.
Rhagor o wybodaeth a chyfle i wylio’r digwyddiad cyfan yma
Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, cysylltwch â: TeamWales@britishcouncil.org