Young teacher counting with pupils
Dydd Mercher 05 Hydref 2022
  •  Mae arolwg gan y British Council ar gyfer Diwrnod Athrawon y Byd (5 Hydref) yn dangos fod y rhan fwyaf o rieni yng Nghymru a ymatebodd (79%) yn cytuno fod athrawon yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cymdeithas. Roedd 66% o’r ymatebwyr yng Nghymru hefyd yn cytuno fod gan athrawon ddylanwad arwyddocaol o ran siapio bywydau plant a phobl ifanc.
  •  Mae rhieni’n credu fod dysgu ieithoedd yn bwysig – roedd dros dri chwarter (81%) o’r ymatebwyr yng Nghymru yn cytuno fod dysgu am wahanol wledydd a diwylliannau o gwmpas y byd o fudd i’w plant.
  •  Roedd 68% o’r ymatebwyr yng Nghymru (a’r Deyrnas Unedig) yn credu ei bod yn bwysig fod plant yn dysgu ieithoedd eraill yn yr ysgol. Sbaeneg oedd y dewis mwyaf poblogaidd.

Cafodd 2,500 o rieni plant ysgol rhwng 5-16 oed ar draws y Deyrnas Unedig eu holi fel rhan o ymchwil newydd a gomisiynwyd gan y British Council. Cynhaliwyd yr arolwg gan gwmni OnePoll.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal ar gyfer Diwrnod Athrawon y Byd (Dydd Mercher 5 Hydref). Gofynnwyd cyfres o gwestiynau ‘aml ddewis’ i’r rhieni am gwricwlwm ysgolion, athrawon, a’r modd y mae ysgolion modern yn wahanol i’r ysgolion y gwnaeth y rhieni eu mynychu.

Yn ôl ein harolwg, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru yn credu fod dylanwad athrawon yn arwyddocaol o ran siapio bywydau plant a phobl ifanc. Roedd 66% yn cytuno y bydd athrawon eu plant yn cael effaith ar eu dyfodol. Roedd dros dri chwarter (79%) o’r ymatebwyr hefyd yn cytuno fod athrawon yn chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas.

Ond, yng Nghymru roedd bron i hanner (47%) o’r rhieni a holwyd yn credu fod athrawon dan fwy o bwysau heddiw na phan yr oedden nhw yn yr ysgol. Roedd yr ymatebwyr yn credu fod yr heriau mwyaf sy’n wynebu athrawon heddiw yn cynnwys diffyg ariannu ar gyfer ysgolion (43%), ymddygiad gwael gan ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth (47%), ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc (33%).

Roedd y rhan fwyaf (81%) o’r rhieni a ymatebodd i’r arolwg yng Nghymru yn cytuno fod dysgu am wledydd eraill a diwylliannau gwahanol o gwmpas y byd o fudd i’w plant - gyda 41% yn ‘cytuno’n gryf’. 

Roedd dros ddwy ran o dair (68%) o’r ymatebwyr yng Nghymru yn credu ei bod yn bwysig fod plant yn dysgu iaith arall yn yr ysgol. Nododd 69% o’r rhieni eu bod yn credu mai Sbaeneg yw’r iaith bwysicaf i’w dysgu ar gyfer y dyfodol. Ffrangeg oedd yn ail (64%), ac yna Almaeneg (31%).

Mae’r canfyddiadau hyn yn cyd-fynd â chanlyniadau Arolwg Tueddiadau Ieithoedd Cymru a gyhoeddwyd yn 2021. Yn ôl yr arolwg hwnnw, roedd dirywiad yn y nifer o ddysgwyr a oedd yn dewis astudio Ffrangeg ac Almaeneg yn 2021, tra gwelwyd twf bach yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn Sbaeneg. Bydd adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2022 yn cael ei gyhoeddi fis nesaf.

Dywedodd Rebecca Gould, Cyfarwyddwr Dros Dro British Council Cymru: “Mae arolwg Diwrnod Athrawon y Byd’ yn dangos fod rhieni yn gweld dysgu ieithoedd fel ffordd allweddol o helpu plant i ddysgu am wledydd a diwylliannau eraill, a bod hynny’n ei dro yn helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Yng Nghymru, mae cynnig cefnogaeth i athrawon wrth galon ein gwaith ym maes addysg - o ddarparu cyfoeth o adnoddau addysgu a dysgu ieithoedd i gyfleoedd i weithio gyda chydweithwyr ledled y byd. Mae ein rhaglen Cerdd Iaith yn enghraifft o adnodd grymus sy’n helpu i hybu ac ysbrydoli’r gwaith o addysgu ieithoedd rhyngwladol i blant mewn ysgolion cynradd”.

 

Mae rhai o ganlyniadau eraill ein harolwg Diwrnod Athrawon y Byd yn dangos fod 66% o’r ymatebwyr yng Nghymru yn credu y dylai ysgolion fod yn addysgu plant a phobl ifanc am faterion ariannol personol a rheoli cyllideb bersonol (o’i gymharu â 59% o ymatebwyr ar draws y Deyrnas Unedig gyfan). Y dewis mwyaf poblogaidd nesaf gan ymatebwyr yng Nghymru fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig (55%), oedd y dylai ysgolion fod yn addysgu am iechyd meddwl. Nesaf, roedd 52% o’r ymatebwyr yn credu y dylai ysgolion addysgu plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel ac ymwybodol wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, cafwyd awgrymiadau gan ymatebwyr am wersi yr hoffent eu gweld (nad oedd ymysg dewisiadau’r arolwg); roedd y rhain yn cynnwys gwersi iaith arwyddion a chymorth cyntaf.

Bob blwyddyn, mae’r British Council yn cefnogi 15 miliwn o athrawon a 100 miliwn o ddysgwyr ledled y byd drwy ein cyrsiau ar-lein a’n cymunedau. Yng Nghymru, mae’r British Council yn cynnig elfen ryngwladol i fyd addysgu a dysgu mewn ysgolion drwy gysylltiadau rhyngwladol, cyfleoedd datblygu proffesiynol, adnoddau ar gyfer y cwricwlwm, cefnogaeth yn y dosbarth a gwobrau. Mae ein hadnoddau’n cynnwys rhaglen Cerdd Iaith ar gyfer ysgolion cynradd. Cafodd yr adnodd yma ei greu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Goethe Institute, Prifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion; mae’n helpu disgyblion i ddysgu Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg drwy ddefnyddio gemau drama a chaneuon syml.

 

Nodiadau i olygyddion

Y British Council yw sefydliad mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig ar gyfer meithrin cysylltiadau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd byd-eang ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd sydd gennym ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd, cymerwch olwg ar ein gwefan: British Council Cymru a/neu dilynwch ni ar TwitterFacebook neu Instagram.

Rhannu’r dudalen hon