Mae Cerdd Iaith yn adnodd pwerus newydd sy’n defnyddio cerddoriaeth a drama i helpu disgyblion cynradd ddysgu Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg. Mae’n llawn dop o weithgareddau unigryw a chyffrous, gan gynnwys nifer o ganeuon gwreiddiol a gafodd eu cyfansoddi’n arbennig ar gyfer Cerdd Iaith.
Cafodd yr adnodd dysgu creadigol yma ei ddatblygu gan ieithyddion, cerddorion ac ymarferwyr drama mewn cydweithrediad agos gydag athrawon ysgolion cynradd yng Nghymru.
Mae Cerdd Iaith yn cefnogi athrawon i adeiladu ar sgiliau Cymraeg a Saesneg eu dysgwyr wrth gyflwyno trydedd iaith yn y dosbarth, gan ateb gofynion Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’r Cwricwlwm Newydd i Gymru. Nod Cerdd Iaith yw ysgogi a thanio brwdfrydedd plant i ddysgu’n weithredol a dechrau siarad ieithoedd newydd.
Cafodd yr adnodd yma ei lunio i’w ddefnyddio gyda disgyblion cynradd rhwng 7-11 oed. Bydd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 sy’n paratoi i symud ymlaen i’r ysgol uwchradd. Yn bwysicaf oll, ein nod yw ysgogi plant i ddysgu’n weithredol a dechrau siarad ieithoedd newydd mewn ffordd hwyliog sy’n tanio eu dychymyg.
Gallwch weld adnodd Cerdd Iaith yma: https://www.cerddiaith.com/
Dechrau gydag ymadroddion syml, fel I like / Me gusta / Dwi’n hoffi
Dechreuodd y rhaglen fel prosiect peilot gyda chymorth ariannol gan Gronfa Datblygu Athrawon Sefydliad Paul Hamlyn. Bu’n gyfrwng i ieithyddion a cherddorion weithio gydag athrawon ac uwch arweinwyr mewn deg o ysgolion cynradd yn ne a gorllewin Cymru i archwilio dulliau newydd o ddefnyddio cerddoriaeth wrth addysgu a dysgu ieithoedd. Nod y prosiect oedd datblygu sgiliau, gwybodaeth, hyder a rhyng-gysylltedd yr athrawon i fanteisio’n llawn ar effaith y celfyddydau wrth ddarparu ar gyfer pobl ifanc.
Roedd y prosiect yn bartneriaeth rhwng British Council Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Yr Athrofa (Addysg i Gymru) – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ERW (un o bedwar consortiwm addysg rhanbarthol Cymru). Bu ieithyddion o’r brifysgol ac ERW a cherddorion o BBC NOW yn arwain sesiynau mewn ysgolion gan ddefnyddio Patagonia fel thema. Bu athrawon ac uwch arweinyddion yn mynychu cyfres o ddiwrnodau hyfforddi Datblygiad Proffesiynol Parhaus i ddod yn gyfarwydd â’r adnoddau a’r fethodoleg, ac i ddatblygu’r ‘rhwydwaith o addysgu a dysgu’ a roddodd gyfle i’r holl athrawon, cerddorion ac ieithyddion rannu eu profiadau o ddefnyddio’r adnoddau.
Gan ddechrau gydag ymadroddion syml fel I like / Me gusta / Dwi’n hoffi, roedd yr athrawon yn defnyddio cyfuniad o odli, rhythm ac ailadodd i gyflwyno geirfa yn y tair iaith. Fe ymatebodd y disgyblion yn rhyfeddol o gyflym i hyn ac felly symudodd yr ieithyddion ymlaen yn fuan, gyda chymorth cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig, i ychwanegu ymadroddion mwy cymleth (nad ydynt yn cyfieithu’n uniongyrchol bob tro) - I am hungry / Mae eisiau bwyd arnaf i / Tengo hambre (Mae gen i eisiau bwyd).
Bu’r cyfansoddwr, Gareth Glyn, a’r ieithydd, Yr Athro Mererid Hopwood, yn cydweithio i greu’r gerddoriaeth a’r geiriau, a rhoi cyfarwyddid am ba eiriau yr oedd angen i’r disgyblion eu pwysleisio yn y brawddegau i adlewyrchu patrwm siarad naturiol rhywun sy’n siarad Cymraeg/Sbaeneg/Saesneg fel iaith gyntaf.
Mae gweithio fel tîm yn golygu bod llai o bwysau ar yr unigolyn
Nid dim ond yn yr ystafell ddosbarth yr oedd y dysgu’n digwydd. Nododd athrawon fod disgyblion yn defnyddio eu sgiliau iaith newydd ar iard yr ysgol yn ogystal â gydag aelodau eraill o’r staff. Dywedodd un athrawes fod nifer o ddisgyblion o’i dosbarth wedi dod yn llysgenhadon iaith ar ôl iddyn nhw symud i’r ysgol uwchradd. Yn wir, o blith y dysgwyr a ddaeth yn llysgenhadon iaith o’r pedwar (o leiaf) o ysgolion cynradd yn yr ardal, roedd dros hanner ohonynt yn gyn-ddisgyblion o’i dosbarth hi.
Dywedodd un disgybl “Roedd defnyddio cerddoriaeth a rhythm yn gwneud dysgu’n haws ac yn fwy o hwyl i fi na phetawn i’n gorfod eistedd mewn stafell ddosbarth yn dysgu iaith newydd. Nawr, pan dw i’n dysgu geiriau newydd neu eiriau anodd yn Saesneg neu Gymraeg, dw i fel arfer yn defnyddio’r dacteg o glapio’r rhythm, sy’n help mawr i fi gofio. Dw i hefyd yn defnyddio hyn i helpu fy ffrindiau sydd ddim wedi gwneud Cerdd Iaith - i’w helpu nhw i ddysgu a chofio geiriau newydd”.
Roedd ei hathrawes hefyd yn canmol dull y prosiect. Dywedodd: “Mae’r dull yma’n agor yr iaith ac yn creu man cychwyn cyfartal i’r holl ddisgyblion. Mae yna lawer o waith tîm sy’n golygu bod llai o bwysau ar unigolion, ond mae cyfle hefyd i ddisgyblion ddisgleirio’n unigol os ydynt eisiau. Mae’r prosiect yn agor y drws ar fyd cyfan o ieithoedd a diwylliannau eraill ac yn fachyn da ar gyfer dysgu”.
Ers cychwyn y prosiect, mae Cerdd Iaith wedi esblygu. Mae British Council Cymru wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr addysgu creadigol ac animateurs cerddoriaeth i ddatblygu’r wefan a oedd, ar y dechrau, yn ddim mwy na chyfrwng syml i storio’r holl adnoddau a grewyd gan y partneriaid ar gyfer y prosiect.
Cynnwys ieithoedd fel rhan o fathemateg neu wrth ddysgu am amser a’r gofod
Ein nod wrth ailwampio adnodd Cerdd Iaith yw cynnig cefnogaeth i athrawon ysgolion cynradd sy’n cyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a galluogi disgyblion i ddysgu am ieithoedd a meithrin sgiliau yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg.
Mae’n cynnwys set o weithgareddau corfforol ar gyfer ‘y corff cyfan’ sy’n helpu dysgwyr ifanc i brosesu a dysgu ieithoedd newydd. Rydym wedi datblygu themâu newydd hefyd fel y gall athrawon benderfynnu sut i ddefnyddio’r gweithgareddau yn y dosbarth - boed hynny’n brosiect tymor ar thema ‘Patagonia’, neu’n ffordd o gynnwys ieithoedd fel rhan o weithgareddau eraill yn y dosbarth fel mathemateg neu wrth ddysgu am amser a’r gofod. Mae prosiect Cerdd Iaith wedi cael benthyg rhai adnoddau newydd drwy garedigrwydd yr animateur cerddoriaeth Tim Riley – a oedd yn un o aelodau tîm y prosiect gwreiddiol. Bu’n gweithio gyda staff a disgyblion Ysgol Llansannor gan ddefnyddio rhai o’r gweithgareddau gwreiddiol fel man cychwyn.
Annog dysgwyr i fod yn ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng ieithoedd
Un gwahaniaeth allweddol rhwng Cerdd Iaith ar ei ffurf bresennol o’i gymharu â man cychwyn y prosiect a’r hyn y mae prosiectau iaith eraill yn ei wneud, yw nad ydym yn defnyddio caneuon i gynyddu geirfa’n unig. Bellach, mae’r prosiect yn manteisio ar holl rychwant y celfyddydau mynegiadol gan ddefnyddio technegau dysgu creadigol arbrofol a chinesthetig. Mae prawf bod y dull yma’n cynyddu cwmpas, dyfnder ac effaith hirdymor y profiad dysgu. Anogir dysgwyr i fod yn ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng ieithoedd a datblygu gwerthfawrogiad o batrymau ieithoedd a chwilfrydedd am sut mae ieithoedd yn gweithio.
Rydym wedi cynllunio’r adnodd newydd i gyd-fynd â rhaglen hyfforddi newydd sy’n cael ei gynnig i athrawon gan y British Council (ar gael ar-lein). Mae’r rhaglen yn cyflwyno’r prosiect i athrawon ac uwch arweinyddion, eu helpu i ddod yn gyfarwydd â’r adnoddau sydd ar gael ar y wefan. Mae hefyd yn eu hannog a’u cefnogi i ddatblygu cynlluniau gwersi a gweithgareddau y gallant eu defnyddio’n hyderus yn eu dosbarthiadau yn yr ysgol neu mewn dosbarthiadau rhithiol ar-lein.
Gall unrhyw athrawon fanteisio ar ein rhaglen hyfforddi - waeth beth fo’u profiad gyda cherddoriaeth a/neu ieithoedd rhyngwladol. Rydym yn darparu canllawiau cam wrth gam a fideos fel y gall athrawon heb brofiad blaenorol yn y meysydd yma i ddod yn gyfarwydd â holl gynnwys yr adnodd. Mae croeso hefyd i athrawon cerddoriaeth ddefnyddio’r ffeiliau sain a nodiant y caneuon i ddatblygu ac ychwanegu eu penillion eu hunain; a gall athrawon sy’n siarad Sbaeneg yn barod gael hwyl wrth ychwanegu geirfa i’r gemau a’r gweithgareddau.
Os hoffech fanteisio ar y rhaglen hyfforddi yma, cysylltwch â British Council Cymru drwy ebost: TeamWales@britishcouncil.org