Dydd Iau 25 Awst 2022
  • Nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol yn parhau i ddirywio
  • Nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg wedi dirywio o 6%, 4.6% ac 20% yn y drefn honno 
  • Mae’r canlyniadau yn dilyn patrwm tebyg i ganlyniadau Lefel A – a welodd ostyngiad o 37.6% mewn Almaeneg, 21.4% mewn Ffrangeg a 19.8% mewn Sbaeneg

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr Cymru, British Council:

“Wrth longyfarch yr holl ddysgwyr sy’n cael eu canlyniadau heddiw, mae’n ddigalon gweld fod nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru yn parhau i ddirywio – tuedd sydd wedi amlygu ei hun ers 2002. Mae’r dirywiad yn nifer y dysgwyr sy’n astudio Almaeneg a Sbaeneg yn destun pryder arbennig; mae’n dilyn patrwm tebyg i ganlyniadau Lefel A eleni, lle gwelwyd dirywiad o 37.6% yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Almaeneg a 19.8% ar gyfer Sbaeneg.

“Os bydd y dirywiad yma’n parhau, gallem weld sefyllfa lle na fydd unrhyw ddarpariaeth iaith o gwbl mewn rhai ysgolion uwchradd gan na fydd yn gynaliadwy. Mae angen gweithredu ar frys ac mae angen cydgysylltu’r ymdrech. Er ein bod yn croesawu ‘Dyfodol Byd-eang’ sef rhaglen newydd Llywodraeth Cymru i wella sefyllfa ieithoedd rhyngwladol a’u hybu, mae’n bosib ei bod eisoes yn rhy hwyr i rai ieithoedd.

“Fe y nodwyd yn ein hadroddiad Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2021 mae ieithoedd yn allweddol i ddyfodol Cymru wrth iddi adfer ar ôl y pandemig byd-eang a cheisio adeiladu a chryfhau cysylltiadau ledled y byd. Mae ieithoedd yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â heriau byd-eang, yn ogystal ag agor drysau i ddysgwyr ddarganfod llefydd, pobl a diwylliannau newydd. Mae angen mwy o siaradwyr ieithoedd arnom, nid llai, ac mae pob dysgwr yn haeddu cyfle i gael mynediad at gyfleoedd o’r radd flaenaf i ddysgu ieithoedd.”

Bydd y British Council yn cyhoeddi ei adroddiad ‘Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru’ diweddaraf yn yr Hydref.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd,  Rhanbarth y Deyrnas Unedig -  claire.mcauley@britishcouncil.org. Ffôn symudol: +447856524504

Gallwch ddarllen ein harolwg ‘Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2021’ yma

 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgiadol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2021-22 fe wnaethom ymgysylltu â 650 miliwn o bobl.  www.britishcouncil.org  

Rhannu’r dudalen hon