Lleucu Haf a'i merch Eleanor ac Anna ap Robert yn yr Eisteddfod yn Nhrevelin ©

Lleucu Haf

Dydd Llun 04 Awst 2025

Mae'r broses ymgeisio ar gyfer cyfle dysgu unigryw ar agor nawr - cyfle i ddysgu a hybu'r Gymraeg ym Mhatagonia yn yr Ariannin.

Mae'r British Council yn chwilio am ddau o athrawon neu diwtoriaid Cymraeg i gymryd rhan yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg. Cafodd y cynllun ei sefydlu yn 1997 gyda'r nod o helpu i hybu a datblygu'r Gymraeg ym Mhatagonia

Bob blwyddyn, mae swyddogion datblygu iaith yn teithio yno i helpu i gynnal a datblygu'r iaith mewn cymunedau lle siaredir Cymraeg drwy wersi ffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r athrawon yn byw yn nhalaith Chubut am 10 mis - naill ai yn y Gaiman yn nyffryn isaf Afon Camwy, neu yn Esquel a Threvelin wrth droed Mynyddoedd yr Andes.

Mae cymuned fywiog o siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia o hyd. Amcangyfrifir bod 5,000 o siaradwyr Cymraeg ymhlith y 50,000 o Batagoniaid o dras Gymreig sy'n byw yn y rhanbarth heddiw. Ym mis Gorffennaf eleni cynhaliwyd nifer o eisteddfodau a dathliadau eraill i nodi 160 mlynedd ers sefydlu'r gymuned Gymraeg gyntaf ym Mhatagonia.

Ar hyn o bryd mae dwy athrawes o Aberystwyth - Lleucu Haf ac Anna ap Robert - yn gweithio ym Mhatagonia drwy Gynllun yr Iaith Gymraeg. Maent wedi cyfnewid strydoedd cyfarwydd gorllewin Cymru am fynyddoedd dramatig yr Andes ac arfordir Patagonia i helpu dysgu a hybu'r Gymraeg mewn cymunedau sydd wedi cadw'r iaith yn fyw am 160 o flynyddoedd.

Mae Lleucu, sy'n athrawes dosbarth derbyn o Aberystwyth, yn dysgu plant iau yn Nhrevelin ger yr Andes. Dyma'i hail ymweliad â Phatagonia. Cyn hyn, yn 2023, bu'n dysgu yn y Gaiman. Y tro hwn mae wedi teithio gyda'i merch saith oed, Eleanor.

Wrth sôn am y cynllun, dywedodd: "Mae wedi bod yn gyfle gwych i ddychwelyd i Batagonia ac i gwmni'r gymuned hon sydd mor groesawgar. Dyma'r ffordd orau bosibl i deithio a dod i ddeall mwy am hanes, tirlun a diwylliant. Mae'n rhoi golwg newydd i ni ar ein diwylliant ein hunain yng Nghymru."

"Rwy'n dysgu plant ifanc yn Nhrevelin ac Esquel wrth droed y mynyddoedd. Mae'r dosbarthiadau wedi bod yn hyfryd. Mae'r profiad o glywed y Gymraeg a'r Sbaeneg gyda'i gilydd wedi bod yn un o'r uchafbwyntiau - yr holl chwilfrydedd a'r pwyslais ar rannu. Mae fy nghefndir mewn ieithoedd wedi bod yn ddefnyddiol ac rwy'n dwlu cael canolbwyntio ar wersi iaith gyda'r plant ifanc. Does dim rôl debyg yn bodoli yn y sector cynradd nôl adre."

Mae Lleucu wedi bod yn helpu i baratoi'r plant ar gyfer eisteddfodau lleol yn ogystal â'r dathliadau 'Mimosa' diweddar - yn nodi 160 o flynyddoedd ers sefydlu'r gymuned Gymraeg gyntaf ym Mhatagonia. Cymerodd Eleanor ran yn y gystadleuaeth dawnsio gwerin a chafodd lwyddiant hefyd gyda'i jocs "cnoc-cnoc" - gan ennill medal. Dywedodd: "Y peth mwya hudolus am yr eisteddfodau ym Mhatagonia yw gweld teuluoedd cyfan yn dawnsio gyda'i gilydd - mam-gu, tad-cu a'r plant. Mae'n ddathliad sy'n pontio cenedlaethau ac yn teimlo'n llai cystadleuol a seremoniol na' nôl adre."

Mae'r teulu wedi achub ar y cyfle i deithio o gwmpas Patagonia, gan gynnwys tripiau i dref enwog Bariloche ar gyfer dathliadau'r Pasg (lle cawsant gyfle i helpu torri record y byd am y slab hiraf erioed o siocled). Maent wedi ymweld â Rhaeadrau Iguazu a threulio amser ar draethau Puerto Madryn yn gwylio morfilod. Meddai Lleucu: "Mae ymweld â gwahanol rannau o Batagonia bron fel ymweld â phlanedau gwahanol - o dirluniau tebyg i'r blaned Mawrth sy'n goch a chreigiog i beithiau eang ac yna ardaloedd gwyrdd a ffrwythlon."

I Lleucu, mae'r profiad wedi cyflwyno cyfleoedd y tu hwnt i'r dysgu hefyd - gan gynnwys gweithio gyda'r cyfryngau lleol, a gweithio ar bodlediad Cymraeg a Sbaeneg ar gyfer gorsaf radio FM del Valle.

Wrth gynnig cyngor i unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan yn y cynllun yn y dyfodol, dywedodd Lleucu: "Os dewch chi yma â meddwl agored gallwch fod yn rhan go iawn o'r gymuned. Cofiwch na fydd pethau'r un peth yma, a gofynnwch am help bob tro. Ond mae'r bobl yma'n cyd-dynnu i helpu yn yr ysgol a thu allan hefyd. Does neb i weld yn mynd i banig yma! Hefyd, mae dysgu ychydig o Sbaeneg ymlaen llaw yn syniad da iawn. Mae dod nôl i Batagonia wedi bod yn fraint wirioneddol ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i fod yn rhan o'r gymuned anhygoel yma eto."

Yn y cyfamser, mae Anna, sydd hefyd o Aberystwyth ac sy'n digwydd bod yn fodryb i Lleucu, yn dod â 17 mlynedd o brofiad o fyd theatr gymunedol a maes addysg Gymraeg i'w rôl ym Mhatagonia. Dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn dysgu pobl ifanc ac oedolion yn y Gaiman.

Wrth sôn am ei phrofiad, dywedodd: "Mae bod ym Mhatagonia wedi rhoi cyfle i fi ehangu fy ngorwelion ac addasu i ffordd o fyw sy'n symlach. Rwy wedi gorfod bod ychydig yn ddyfeisgar yn y stafell ddosbarth heb allu defnyddio cymaint o dechnoleg - rydyn ni'n defnyddio byrddau gwyn a hyd yn oed byrddau du a sialc!"

"Mae'r cymunedau lle siaredir Cymraeg yma'n gyfeillgar iawn a wastad yn hapus i helpu; maen nhw wedi ein croesawu ni â breichiau agored, ac wedi gwneud yn siwr ein bod ni'n rhan bwysig o fywyd bob dydd y gymuned. Mae dysgu yma'n brofiad pleserus, a hefyd yn heriol. Dim ond ychydig o Sbaeneg sydd gen i, ond rwy wedi cofleidio'r her ac rwy'n awyddus i ddysgu siarad yn weddol cyn dychwelyd i Gymru. Rwy wedi teithio i Buenos Aires a theithio saith awr ar draws y paith i feirniadu mewn eisteddfodau, sy'n debyg iawn i'r rhai adref.

"Rwy wedi esbonio wrth y bobl ifanc rwy'n eu dysgu yma bod hunaniaeth Gymraeg yn fwy na llun o faner y ddraig goch, gwisgo cennin Pedr neu ganu 'Calon Lân'. Mae'n ffordd o fyw, yn iaith hynafol ac yn gyfoeth o ddiwylliant. Mae'n iaith leiafrifol sydd angen ei diogelu. Rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru a rhannu fy angerdd am ddawns, cerddoriaeth a theatr Gymraeg gydag ysgolion a chymdeithasau lleol, a rhannu fy mhrofiad o'r holl waith sy'n cael ei gyflawni yma ym Mhatagonia."

Y dyddiad cau i athrawon neu diwtoriaid Cymraeg sydd am ymgeisio ar gyfer Cynllun yr Iaith Gymraeg 2026 yw: 8 Medi 2025. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tâl o £750 y mis, yn ogystal â llety am ddim, costau teithio ac yswiriant iechyd.

Wrth drafod y cynllun, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'n fendigedig i glywed am brofiadau Anna a Lleucu ym Mhatagonia - maen nhw'n cyfleu amcanion ac ysbryd y cynllun i'r dim. Ers bron i 30 mlynedd mae Cynllun yr Iaith Gymraeg wedi bod yn creu'r cysylltiadau hyn rhwng ein cymunedau yng Nghymru a Phatagonia. Mae'n wych i weld sut mae'r athrawon sy'n cymryd rhan nid yn unig yn cryfhau sgiliau dysgu Cymraeg draw yno, ond hefyd yn dod â dulliau ffres o weithio yn ôl gyda nhw i Gymru. 

"Wrth ddathlu 160 o flynyddoedd o dreftadaeth Gymreig ym Mhatagonia, rydyn ni'n chwilio am athrawon Cymraeg angerddol sy'n barod am antur ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau Cymraeg eu hiaith ar ochr draw'r byd. Mae'n gyfle unigryw sy'n newid bywydau - bywydau'r athrawon a'r cymunedau y maent yn gweithio â nhw."

Mae mwy o wybodaeth am Gynllun yr Iaith Gymraeg a'r meini prawf cymhwysedd ar gael yma: British Council Cymru - Cynllun yr Iaith Gymraeg

Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd drwy addysg, celfyddydau ac addysgu a dysgu ieithoedd. Mae mwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ar gael yma: British Council Cymru

Neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â:

Rosalind Gould, Rheolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, Gwledydd y D.U. , British Council

 

Ff: 07770 934 953          E:  rosalind.gould@britishcouncil.org 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.

Rhannu’r dudalen hon