Dydd Iau 22 Tachwedd 2018

 

Bydd cynllun newydd yn cynnig cyfle i brifathrawon ledled Cymru i ddysgu am systemau addysg mewn gwledydd tramor a rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth gyda phartneriaid rhyngwladol.

Mae ‘Deialogau Addysg Byd-eang’ yn rhan o fenter newydd Llywodraeth Cymru i sicrhau arweinyddiaeth addysgol o’r ansawdd uchaf yng Nghymru - yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (AGAA).

Mae British Council Cymru wedi datblygu rhaglen ryngwladol newydd ar gyfer yr Academi sydd eisoes wedi helpu carfan o 12 o benaethiaid ysgolion i ddatblygu eu rhaglenni eu hunain a phennu ffocws ac amcanion ar gyfer eu hymweliadau rhyngwladol.

Bydd y ‘cymdeithion’ hyn yn rhannu arferion gorau gydag addysgwyr yn y wlad y maent yn ymweld â hi. Wedi iddynt ddychwelyd i Gymru fe fyddan nhw’n cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau amrywiol er mwyn rhannu’r hyn a ddysgwyd. Hefyd, bydd disgwyl iddynt ddatblygu cynlluniau gweithredu i wella darpariaeth addysg yng Nghymru.

Esboniodd Dr Christopher Lewis, pennaeth addysg British Council Cymru, “Mae’r British Council am weld Cymru sydd â chysylltiadau byd eang ac sy’n agored i ysbrydoliaeth ryngwladol. Rydym ni’n cefnogi’r amcanion hyn drwy weithio ar draws sectorau’r celfyddydau ac addysg i feithrin cyfleoedd cyfnewid uniongyrchol rhwng pobl o Gymru a phobl o bob rhan o’r byd.”

“Gwelwn fod hyn yn gweithio orau pan fod gan arweinwyr (ym maes polisi, mewn sefydliadau diwylliannol, mewn prifysgolion ac mewn ysgolion) ethos eangfrydig sy’n eu cymell i greu cywair rhyngwladol o fewn i’w sefydliadau, eu cymunedau a’u rhwydweithiau proffesiynol ehangach.”

“Mae arweinwyr o’r fath yn gwerthfawrogi’r posibiliadau y gall cysylltiadau rhyngwladol eu cynnig i’w gwaith eu hunain a gwaith y sefydliadau y maent yn eu harwain. I lawer, fe ddaeth ‘yr eiliad o oleuni’  yn ystod ymweliad tramor - mewn seminar bolisi yn Helsinki efallai, neu ystafell ddosbarth yn Chongqing.”

“Dyma pam fod cyflwyno elfen ryngwladol i Raglen Cymdeithion yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn gyfle mor bwysig. Gall profiadau rhyngwladol o’r radd flaenaf arfogi arweinyddion ysgolion yng Nghymru â’r adnoddau, cyferbwyntiau, rhwydweithiau proffesiynol a phersonol a’r hyder i baratoi ysgolion Cymru ar gyfer dyfodol byd-eang.”

Dywedodd Huw Foster Evans, prif weithredwr AGAA, “Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn croesawu’r cyfle i Gymdeithion yr Academi weithio ar y cyd gyda’r British Council i gasglu tystiolaeth uniongyrchol o arfer gorau rhyngwladol ym maes datblygu arweinyddiaeth. Rhan o’r gwaith yma yw llywio comisiwn y Cyfoedion a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried: ‘Sut gall arweinwyr greu cyfleoedd dysgu proffesiynnol o’r radd flaenaf a fydd yn gwella lles pawb a sicrhau gwell canlyniadau?’. Bydd hefyd yn cefnogi a helpu i ddatblygu swyddogaethau’r Cymdeithion fel arweinyddion systemau’n seiliedig ar ofynion lleoliadau penodol fel y gallant ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd i ddylanwadu ar gyfeiriad gwaith yr Academi yn y dyfodol.”

Mae British Council Cymru wedi bod yn darparu’r rhaglen ‘Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol’, dan nawdd Llywodraeth Cymru, ers 2010. Bu’r rhaglen yn gyfrwng i dros gant o athrawon o Gymru i deithio dramor i weld yr arfer gorau rhyngwladol ar waith ac i greu effeithiau pwysig ledled Cymru.

Yn ddiweddar, mae British Council Cymru wedi defnyddio’r profiadau hyn wrth gefnogi’r grŵp sy’n datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru yn y maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Bu rhannu’r profiadau uniongyrchol hyn o fodelau rhyngwladol yn fodd i lywio eu gwaith pwysig. Yn ystod 2018, mae gwahanol grwpiau wedi treulio amser yn Ontario yng Nghanada a Jyvaskyla yn y Ffindir yn edrych ar ddulliau gweithio arloesol gyda chwricwla ysgolion ac ym maes dysgu. 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Y llynedd, ymgysyllton ni â mwy na 75 miliwn o bobl yn uniongyrchol a 758 miliwn o bobl i gyd, gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – rydym yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin hyder. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig a gaiff ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon