Adeiladau lliwgar ger yr harbwr
Yr harbwr yn Helsinki, Y Ffindir ©

Shutterstock 

Deialogau Addysg Byd-eang yn helpu prifathrawon yng Nghymru i ddod â ffocws rhyngwladol i arweinyddiaeth addysgol

Mae ein rhaglen newydd yn cynnig cyfle i brifathrawon ledled Cymru i ddysgu am systemau addysg mewn gwledydd tramor a rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth gyda phartneriaid yn rhyngwladol.

Rydym wedi datblygu rhaglen Deialogau Addysg Byd-eang er mwyn helpu prifathrawon i ryngwladoli ysgolion Cymru.

Mae Deialogau Addysg Byd-eang yn rhan o fenter newydd Llywodraeth Cymru, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (AAGA). Nod y fenter yw sicrhau arweinyddiaeth addysgol o’r ansawdd uchaf yng Nghymru.

Mae cymdeithion cyntaf yr Academi eisoes wedi nodi beth fydd ffocws eu hymweliadau rhyngwladol, yn ogystal ag amcanion a lleoliadau’r ymweliadau. Bydd eu profiadau ar yr ymweliadau hynny’n llywio’r adroddiad ar ddyfodol arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cymdeithion yn rhannu arferion gorau gydag addysgwyr yn y wlad y maent yn ymweld â hi, ac yn rhannu’r hyn a ddysgon nhw wrth gymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau wedi iddynt ddychwelyd i Gymru.

Rydym yn gobeithio y bydd profiadau rhyngwladol o’r radd flaenaf fel rhain yn arfogi arweinyddion ysgolion gyda’r adnoddau, cyferbwyntiau, rhwydweithiau proffesiynol personol a’r hyder i baratoi ysgolion Cymru ar gyfer dyfodol byd-eang.

Ymweliadau 2018

 Y Ffindir, Tachwedd 2018

  • Gillian Ellis, Pennaeth, Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Eva
  • Huw Powell, Pennaeth, Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog
  • Janet Hayward, Pennaeth, Ysgol Gynradd Tregatwg
  •  Clive Williams, Pennaeth, Ysgol Gymraeg Aberystwyth
  •  Gwyn Tudur, Pennaeth, Ysgol Tryfan

 Canada, Tachwedd 2018

  • Chris Jackson, Pennaeth, Ysgol Gynradd Glasllwch
  • Emma Coates, Pennaeth, Ysgol Gynradd Llanhari
  • Janet Waldron, Pennaeth, Ysgol Gyfun Pontarddulais
  • Jeremy Griffiths, Pennaeth, Ysgol Gwynedd
  • John Kendall, Pennaeth, Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga
  • Karen Lawrence, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymunedol, Llanfaes
  • Sue Roberts, Pennaeth, Ysgol Ffordd Dyffryn

Rydym yn cefnogi athrawon yng Nghymru mewn ffyrdd eraill hefyd

Gyda’n rhaglen Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol rydym yn mynd ag athrawon dramor i weld yr arfer gorau rhyngwladol ar waith, fel y gallant hwythau yn eu tro gael effaith bwysig ledled Cymru. Mae ymweliadau â gwahanol wledydd yn digwydd bob blwyddyn, yn ddibynol ar flaenoraethau addysg Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gefnogi grŵp a oedd yn gweithio ar ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru ym meysydd dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, gan gynnig profiad uniongyrchol iddynt o fodelau rhyngwladol a fu’n fodd i gyfoethogi eu gwaith pwysig. Yn ystod 2018, mae gwahanol grwpiau wedi treulio amser yn Ontario yng Nghanada a Jyvaskyla yn y Ffindir yn edrych ar ddulliau gweithio arloesol o ran cwricwla ysgolion a dysgu. 

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon