Dydd Iau 17 Awst 2023
  •  Gwelwyd cynnydd yn y nifer sy’n ymgeisio ar gyfer ieithoedd rhyngwladol – cynnydd o 12.1% mewn Almaeneg, 8.9% mewn Sbaeneg a 1.2% mewn Ffrangeg
  •  Ffrangeg yw’r dewis mwyaf poblogaidd o hyd o iaith ar gyfer Lefel A, wedyn Sbaeneg, ac yna Almaeneg
  • Mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn gyffredinol wedi gostwng o’i gymharu â nifer yr ymgeiswyr yn 2019 yn y cyfnod cyn y pandemig.

Dywedodd Ruth Cocks, British Council, Cyfarwyddwr Cymru: “Hoffwn longyfarch y miloedd o fyfyrwyr ledled Cymru sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw yn wresog iawn. Mae canlyniadau eleni yn destun optimistiaeth, gyda nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Lefel A mewn Ieithoedd Rhyngwladol ar gynydd, yn groes i’r duedd ehangach a welwyd mewn pynciau eraill.

“Ond er ei bod yn galonogol i weld y newid cadarnhaol hwn, mae’n rhaid para i fod yn wyliadwrus gan fod nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol yn gyffredinol wedi disgyn o’i gymharu â’r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru diweddaraf yn 2022, mae ieithoedd yn rhan allweddol o ddyfodol Cymru wrth iddi geisio adeiladu a chryfhau cysylltiadau ar draws y byd a meithrin cysylltiadau masnach rhyngwladol.

“Mae ieithoedd yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd ar heriau byd-eang, yn ogystal ag agor drysau i ddisgyblion i ddarganfod pobl, llefydd a diwylliannau newydd a chysylltu’n rhyngwladol. Mae’n rhaid i ni wneud popeth posib i chwifio’r faner dros ddysgu ieithoedd, ac mae’r British Council wedi ymroi i weithio gyda Llywodraeth Cymru, ysgolion ac addysgwyr i sicrhau fod dysgu ieithoedd yn flaenoriaeth.

“Ar ran pawb yn British Council Cymru, rwy’n dymuno’r gorau i bob myfyriwr wrth gymryd camau nesaf eu siwrnai. Mae’r byd wrth eich traed!”                             

Cyhoeddir adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru nesaf y British Council yn yr Hydref. Cewch fwy o wybodaeth am adroddiadau Tueddiadau ieithoedd Cymru yma: British Council Cymru - Tueddiadau Ieithoedd Cymru

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, Rhanbarth y D.U. ar claire.mcauley@britishcouncil.org. neu Ff: +447856524504

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2021-22 fe wnaethom ni ymgysylltu â 650 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon