- Gwelwyd cynnydd calonogol o 8.5% yn nifer y ceisiadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru. Mae hynny'n gyfanswm o 4,292 o geisiadau, sy'n newyddion cadarnhaol ar gefn y gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch a welwyd yr wythnos ddiwethaf.
- Ffrangeg yw'r iaith ryngwladol fwyaf poblogaidd o hyd yng Nghymru gyda 2,269 o geisiadau - cynnydd o 6.7% ers 2024 (a welodd 2,126 o geisiadau).
- Gwelwyd cynnydd o 17% yn nifer y ceisiadau ar gyfer TGAU Sbaeneg - 1,591 o geisiadau eleni o'i gymharu â 1,359 yn 2024.
- Ond bu gostyngiad o 7% yn nifer y ceisiadau mewn Almaeneg - gwelwyd 432 o geisiadau eleni, o'i gymharu â'r cynnydd sylweddol i 468 o geisiadau yn 2024.
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Llongyfarchiadau mawr i bawb yng Nghymru sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae'r myfyrwyr hynny sydd wedi dewis astudio ieithoedd rhyngwladol yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig am groesawu'r her o ddysgu ffyrdd newydd o gyfathrebu a chysylltu â'r byd.
"Ar ôl newyddion pryderus yr wythnos ddiwethaf am ddirywiad o 25% yn nifer y ceisiadau Safon Uwch mewn ieithoedd rhyngwladol, mae'n galonogol gweld bod mwy o bobl ifanc yn dewis ieithoedd rhyngwladol ar yr adeg hollbwysig yma yn eu gyrfa.
"Ond mae'n rhaid sicrhau bod y myfyrwyr hyn yn parhau eu siwrneiau ieithyddol. Yr wythnos ddiwethaf, gwelom fod nifer y ceisiadau ar gyfer Safon Uwch mewn Almaeneg wedi gostwng i 42 yn unig o fyfyrwyr yng Nghymru, ac mae'r nifer sy'n dewis Almaeneg ar gyfer TGAU wedi gostwng eleni wedi'r cynnydd a welwyd yn 2024. Gan fod yr Almaen yn un o bartneriaid masnach allweddol y DU, mae'r dirywiad yn y nifer sy'n dysgu ieithoedd yn codi pryderon am ein gallu i feithrin cysylltiadau cryf ac ystyrlon yn y dyfodol.
"Mae ein hymchwil Tueddiadau Ieithoedd Cymru yn dangos fod y nifer sy'n astudio iaith ar gyfer TGAU yn ddangosydd allweddol ar gyfer nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Safon Uwch a thu hwnt. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo addysgu a dysgu ieithoedd yng Nghymru, ac yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, ysgolion ac addysgwyr i hybu pwysigrwydd aruthrol ieithoedd rhyngwladol.
"Dylid dathlu pob myfyriwr sydd wedi ennill cymhwyster mewn iaith ryngwladol heddiw am ddewis ymgysylltu â'r byd. Mae gallu ieithyddol yn hollbwysig i helpu meithrin cysylltiadau - o ran gyrfaoedd unigol, o ran Cymru ac o ran meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth mewn byd cynyddol ranedig."
--Diwedd--