Mae Beth Owen, Thomas Samuel and Sian Morgans yn gweithio fel athrawon ar hyn o bryd bron i 8,000 o filltiroedd oddi cartref – yn hybu’r Gymraeg yn rhanbarth Patagonia yn yr Ariannin.
Mae’r tri ohonynt yno dan nawdd Cynllun yr Iaith Gymraeg y British Council, ac ers rhai misoedd bellach maent wedi bod yn addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Nhrevelin, Gaiman a Threlew yn nhalaith Chubut.
Nod y cynllun, a sefydlwyd yn 1997, yw helpu i hybu a datblygu’r iaith Gymraeg ledled talaith Chubut lle mae 6000 o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd. Bob blwyddyn, mae’r British Council yn danfon tri swyddog datblygu iaith i Batagonia i ddatblygu’r iaith yn y cymunedau Cymraeg eu hiaith yno drwy addysgu ffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol anffurfiol.
Mae gwreiddiau’r Gymraeg ym Mhatagonia yn ymestyn ‘nôl dros 150 o flynyddoedd, pan hwyliodd mintai o Gymru ar draws Môr yr Iwerydd i sefydlu gwladfa yn Nyffryn Chubut yn 1865. Erbyn heddiw mae tua 50,000 o drigolion o dras Cymraeg ym Mhatagonia.
Daw Beth o Lannerch-y-medd yn Ynys Môn yn wreiddiol. Ar hyn o bryd mae hi ar secondiad o’i swydd fel Swyddog Iaith Gymraeg gyda Cyngor ar Bopeth a’i gwaith fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn dysgu yn Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.
Wrth sôn am y rhaglen, dywedodd: “Mae’r Gymraeg a’r gwaith o’i hybu wedi bod yn ganolog i fy ngyrfa hyd yma. Mi o’n i’n awyddus i roi cynnig ar her newydd, ac mi oedd Cynllun yr Iaith Gymraeg yn gyfle cyffrous – cyfle i wireddu breuddwyd! Mi o’n i eisiau cyfrannu i’r broses o gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg – a gweld gwireddu gweledigaeth y cynllun, yn ogystal ag ysbrydoli pobl ifanc a’r cenhedlaethau hŷn.”
“Y prif wahaniaeth o ran y gwaith addysgu fan yma yw’r prinder offer, adnoddau addysgu a thechnoleg. Mae fy niffyg Sbaeneg wedi bod yn dipyn o her hefyd; ond mae hynny’n golygu fod yn rhaid i’r plant wneud mwy o ymdrech i siarad Cymraeg â mi sy’n golygu bod eu sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg wedi cryfhau.”
“Dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru ac ymweld ag ysgolion a chymdeithasau lleol i sôn wrthynt am y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud yma yn yr Andes. Dw i’n fwy ymwybodol bellach o angenion y gymdeithas a’r ysgolion Cymraeg yma ac felly gallaf eirioli ar eu rhan. Dw i wedi manteisio ar bob cyfle a ddaeth i fy rhan yma, a gallaf ddweud ei bod wedi bod yn bleser go iawn i gymryd rhan yn y cynllun eleni.”
Mae Sian yn athrawes gynradd sy’n dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol. Iddi hi mae addysgu ym Mhatagonia yn debyg iawn i addysgu yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae hi’n addysgu disgyblion cynradd Blynyddoedd 5 a 6 yn Ysgol Gymraeg Y Gaiman yn nhref fach Gaim, yn ogystal â chynnal sesiynau bore yn Ysgol yr Hendre - ysgol gynradd yn Nhrelew. Mae hi hefyd yn cynnal gwersi Cymraeg i staff mewn ysgol uwchradd cyfrwng Sbaeneg, sef Coleg Camwy.
Dywedodd: “Mae’r gwaith fan hyn yn debyg iawn i addysgu yng Nghymru gan ‘mod i’n defnyddio dulliau addysgu iaith trochol gyda chaneuon a deunydd Cymraeg ac adnoddau gweledol. Wrth gwrs, mae’n brofiad hollol wahanol yn y dosbarth gan fod sgyrsiau’r plant yn llifo rhwng y Gymraeg a’r Sbaeneg. Mae gweld y disgyblion yn gwneud y fath ymdrech a dangos balchder yn eu dwyieithrwydd yn brofiad anhygoel.”
“Rwy’n lwcus iawn mod i wedi cael y cyfle i ddysgu yma ym Mhatagonia. Rwy wedi cwrdd â phobl angerddol ac wedi cael profiad o fyw a gweithio mewn gwlad â threfniadau a diwylliannau gwahanol sy’n gweld pwysigrwydd addysg a bod yn ddwyieithog. Rwy’n edrych ymlaen at rannu fy mhrofiadau, straeon a chysylltiadau pan ddychwelaf i ddysgu yng Nghymru, ond cyn hynny rwy’n mynd i barhau i deithio, a gobeithio gweld tipyn bach mwy o’r byd.”
Mae Thomas, sy’n dod o Flaengarw yn Ne Cymru yn diwtor Cymraeg a chyfieithydd. Mae e’n gweithio’n bennaf yn ysgol uwchradd Coleg Camwy yn Y Gaiman.
Dywedodd: “Ers pan o’n i’n ifanc bu diddordeb gen i yn y cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia. Pan wnes i gais i ymuno â’r rhaglen ro’n i’n edrych am her newydd wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Cyn gynted ag y gwelais eu bod yn hysbysebu swyddi ym Mhatagonia ro’n i’n gwybod bod yn rhaid i fi wneud cais.”
“Yn ystod fy amser yma bu mynychu Eisteddfod Chubut yn Nhrelew yn brofiad anhygoel – daeth cymaint o bobl wahanol at ei gilydd i berfformio a dathlu diwylliant Cymru. Mewn sawl ffordd, o ran y cystadlu, roedd yn debyg i’r Eisteddfod yng Nghymru, ond gyda chysylltiad cryf â diwylliant yr Ariannin. Roedd yna Noson Lawen hefyd lle’r oedd gwahanol bobl yn perfformio, ac roedd yn hyfryd i weld pobl yn mwynhau caneuon Cymraeg ac Archentaidd ac yn canu gyda’i gilydd.”
Nawr, mae’r British Council yn cynnig cyfle i dri athro arall i deithio i Batagonia i hybu’r Gymraeg rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023.
Wrth sôn am y cynllun, dywedodd Rebecca Gould, Cyfarwyddwr Dros Dro British Council Cymru: “Mae gwaith Cynllun yr Iaith Gymraeg yn sicrhau bod dyfodol hir-dymor i’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n angerddol am y Gymraeg ac addysgu’r iaith i wneud cais gan fod y cynllun nid yn unig yn parhau i gryfhau’r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia ond hefyd yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i’r rheini sy’n cymryd rhan.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i gymryd rhan yn rhaglen 2023 yw Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2022. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Cynllun yr Iaith Gymraeg
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn rhan o waith y British Council i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy’r celfyddydau, addysg, a dysgu ac addysgu ieithoedd. Am ragor o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ewch i British Council Cymru neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram.