From left: Angharad Davies and Megan Elias will spend the next 10 months in Patagonia, Argentina
Dydd Gwener 13 Chwefror 2026

 

Mae dwy athrawes ifanc o Gymru'n paratoi i deithio dros 7,000 o filltiroedd i Batagonia yn yr Ariannin, i ddysgu Cymraeg a rhannu eu cariad at iaith a newidodd eu bywydau. 

Bydd Megan Elias o Hen Golwyn yng Ngogledd Cymru, ac Angharad Davies o Bont-y-clun yn Rhondda Cynon Taf, yn treulio'r deg mis nesaf yn gweithio ym Mhatagonia fel rhan o Gynllun yr Iaith Gymraeg y British Council. Byddant yn cefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith yn rhanbarth Chubut lle mae dros 6,000 o bobl yn dal i siarad yr iaith, dros 150 mlynedd ers i'r Cymry cyntaf ymsefydlu yno. 

Er nad ydynt wedi cwrdd â'i gilydd eto, drwy dyd-ddigwyddiad, fe wnaeth y ddwy ohonynt syrthio mewn cariad â'r Gymraeg pan roeddent yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, ac maent yn awyddus i rannu'r angerdd hwnnw gydag eraill. 

Ac roedd profiad y ddwy wrth dyfu i fyny'n debyg hefyd gan nad oedd llawer o gyswllt â'r Gymraeg ganddynt. 

Dywedodd Angharad: "Ro'n i'n siarad Cymraeg yn yr ysgol a gyda fy nhad a'i ochr e o'r teulu, ond Saesneg ro'n i'n siarad fwyaf wrth gymdeithasu, er mod i wedi mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Roedd yr ardal lle ces i fy magu yn ddylanwad mawr ar hynny. 

"Pan es i Brifysgol Bangor, roedd pobl o fy nghwmpas yn siarad Cymraeg yn naturiol â'u ffrindiau, a'i ddefnyddio bob dydd. Bu hynny'n agoriad llygad. Nid rhywbeth ar gyfer yr ysgol neu'r gwaith yn unig oedd y Gymraeg, roedd yn iaith gymunedol fyw. Cafodd y profiad yna effaith enfawr arna i" 

I Megan, bu ei thrip cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd gyda'r ysgol yn brofiad a newidodd lwybr ei bywyd yn llwyr a thanio ei hangerdd dros yr iaith.  

Dywedodd: "Ym Mlwyddyn 13, yn ystod fy wythnos olaf, roedd yr ysgol wedi trefnu trip i Eisteddfod yr Urdd yn y Bala. Er mai trip i ddisgyblion Blwyddyn 9 ydoedd, gan fod seddi sbâr ar y bws gofynnodd fy athrawes Gymraeg os oeddwn i eisiau mynd. Do'n i erioed wedi bod i Eisteddfod o'r blaen. Do'n i erioed wedi gweld cymaint o bobl yn siarad Cymraeg a rhannu diwylliant mor arbennig - doedd gen i ddim syniad fod byd o'r fath yn bodoli! Y diwrnod hwnnw, penderfynais fy mod eisiau siarad Cymraeg yn rhugl. Fe wnes i newid fy nghynlluniau i astudio Cyllid ym Mhrifysgol Lancaster a rhoi galwad munud olaf i Brifysgol Bangor i ofyn a gawn i astudio Cymraeg yno. A dyna wnes i. Ac fe newidiodd fy mywyd yn llwyr. 

“Mae popeth dw i wedi'i gyflawni ers hynny wedi digwydd am fy mod i wedi dysgu Cymraeg.” 

Bellach, mae'r ddwy ohonynt wedi graddio a chymhwyso'n athrawon, ac maent yn awyddus iawn i rannu eu hangerdd dros y Gymraeg gydag ysgolion a chymunedau Patagonia.  

Dywedodd Angharad: "Dw i'n gwybod fod llai o bobl yn siarad Cymraeg yno nag yma yng Nghymru, ond ro'n i eisiau cyfrannu, a hefyd profi i fi fy hun y gallwn wneud gwahaniaeth. Ro'n i wedi cael profiad uniongyrchol o ba mor anodd yw cynnal yr iaith mewn ardal lle mae pobl yn siarad Saesneg yn bennaf. Roedd hynny'n ysgogiad mawr i fi wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun." 

"Mae'n fwy na dim ond dysgu - mae'n fater o ysbrydoli pobl i fwynhau'r Gymraeg a'i defnyddio yn eu bywydau bob dydd a chysylltu â'r diwylliant a'r gymuned. Dw i'n teimlo'n gyffrous am fynd â cherddoriaeth, drama, a phrofiadau diwylliannol i mewn i'r stafell ddosbarth, a chefnogi'r gymuned Gymraeg ym Mhatagonia ym mha bynnag ffordd dw i'n gallu." 

Mae siwrnai Megan fel athrawes eisoes wedi mynd â hi'n bell o adref. Ar ôl graddio, treuliodd gyfnod yn dysgu yn Awstralia - profiad sydd wedi rhoi hwb i'w hyder a'i gallu i addasu i ddosbarthiadau a diwylliannau newydd. 

Dywedodd: "Dair blynedd yn ôl ar ôl Covid, fe es i Awstralia. Ar hap a damwain, fe wnes i ail-gydio mewn dysgu yno - er nad oeddwn i'n dysgu Cymraeg. 

"Ar ôl tair blynedd, roedd fy fisa'n dod i ben, a do'n i ddim yn gwybod beth ro'n i am wneud nesaf. Fe welais i'r cyfle i fynd i Batagonia. Ac ar ôl bod yn teithio ar fy mhen fy hun am dair blynedd, dyma fi'n meddwl - dyma'r cyfle perffaith. Ac mae ymweld â Phatagonia, neu fynd yno i ddysgu, wedi bod yn freuddwyd gen i ers dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Felly, roedd yn teimlo mod i'n gwneud y cylch yn gyflawn." 

Dechreuodd Cynllun yr Iaith Gymraeg yn 1997. Mae'n rhoi cefnogaeth i gymunedau sy'n siarad Cymraeg ym Mhatagonia, lle mae disgynyddion y sefydlwyr cyntaf a laniodd yno yn y 19eg Ganrif yn dal i gynnal yr iaith. Drwy'r rhaglen, mae'r athrawon yn gweithio mewn ysgolion gydag oedolion lleol i hybu'r Gymraeg - yn yr ystafell ddosbarth, a thu hwnt. Mae hynny'n digwydd drwy gyfuniad o wersi ffurfiol a gweithgareddau diwylliannol, cerddoriaeth, a gweithgareddau yn y gymuned leol.  

Bydd Angharad yn gweithio mewn sawl lleoliad gwahanol ar draws y rhanbarth. Bydd yn dysgu disgyblion cynradd yn ystod y dydd, ac oedolion gyda'r hwyr - yn Nhrelew, Gaiman a Dolavon, gydag ymweliadau misol i Puerto Madryn. Bydd Megan yn gweithio'n bennaf yn yr ysgol leol yn Nhrevelin, a hefyd yn teithio i Esquel i ddysgu oedolion yn y ganolfan iaith yno. 

Yn ogystal â'u gwaith dysgu ffurfiol, bydd y ddwy ohonynt yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cymunedol. Maen nhw'n bwriadu dogfennu eu profiadau drwy gyfres o flogiau ac ar-lein - i rannu darlun o fywyd yn Nyffryn Chubut gydag ysgolion a chymunedau nôl adref yng Nghymru. 

Dywedodd Angharad: "Mae gen i ddiddordeb gwirioneddol yn y syniad o ddatblygu neu addasu cwricwlwm mewn cyd-destun cwbl wahanol. Mae'n sgil yr hoffwn ei datblygu dros amser. Dw i'n bwriadu mynd yn ôl i fyd dysgu pan fyddaf yn dychwelyd i Gymru, ond dw i hefyd yn gweld sut y gallai profiad fel hwn agor drysau eraill i fi ym maes addysg a datblygu'r iaith Gymraeg. 

"Mae'n gyfle unwaith mewn oes. Ac ar y pwynt yma yn fy mywyd, os na wna i fynd nawr, dw i ddim yn gwybod pryd y byddwn i'n mynd. Mae bod yn rhan o gynllun fel hwn yn rhoi cyfle i chi gael effaith go iawn, a dyna pam y gwnes i ddod yn athrawes yn y lle cyntaf. Mae gallu gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, hanner ffordd rownd y byd, yn beth arbennig iawn. Beth bynnag sy'n digwydd, dw i'n gwybod y bydd yn fy newid i ac ehangu fy ngorwelion." 

Ychwanegodd Megan: "Bydda i'n angerddol dros y Gymraeg am byth. A gobeithio y bydda i'n gallu parhau i'w hybu - dramor, yn ddigidol neu unrhyw le arall. Mae hwn yn teimlo fel cyfle anhygoel - i dyfu, i ddysgu ieithoedd, i ddatblygu fel athrawes a phrofi diwylliant hollol newydd." 

Wrth sôn am y cyfle mae'r cynllun yn ei gynnig, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn rhywbeth gwirioneddol arbennig; yn cysylltu siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a chymunedau ym Mhatagonia drwy iaith, addysg a diwylliant. Mae angerdd Angharad a Megan dros y Gymraeg a'u brwdfrydedd i'w rannu ag eraill yn eu gwneud yn llysgenhadon gwych dros y cynllun. Wrth iddynt deithio i Batagonia, maen nhw'n dod yn rhan o draddodiad hir a balch o siaradwyr Cymraeg sydd wedi meithrin cyfeillgarwch a chryfhau cysylltiadau diwylliannol â chymunedau ar ochr draw'r byd sy'n rhannu cariad dwfn at iaith a diwylliant Cymru. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar y siwrnai gyffrous hon." 

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer Cynllun yr Iaith Gymraeg 2027 yn agor yn ddiweddarach eleni i athrawon sydd am weithio ym Mhatagonia'r flwyddyn nesaf. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen ar gael yma: Cynllun yr Iaith Gymraeg  

Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a thramor drwy'r celfyddydau, addysg ac addysgu a dysgu ieithoedd.

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau'r cyfryngau - cysylltwch â:   

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council:  

+44 (0)7542268752             E: Claire.McAuley@britishcouncil.org      

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2023-24, ymgysylltodd y British Council â 589 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon