Mae Calum Barron, o Benarth, sydd yn dweud bod gwirfoddoli wedi newid ei fywyd, wedi cael ei ddewis gan y Comisiwn Ewropeaidd i ymddangos mewn fideo i ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd yn 20 oed.
Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd yn rhan o’r rhaglen Erasmus+ sydd yn cefnogi pobl ifanc i dreulio amser mewn gwledydd gwahanol fel gwirfoddolwr, gan helpu'r rheiny sydd yn cymryd rhan i ehangu eu gorwelion ac ennill sgiliau newydd yn ogystal â gwneud gwahaniaeth go iawn i’r cymunedau sydd yn eu croesawu.
Bydd 2016 yn nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd yn 20 oed, ac mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynhyrchu dau fideo, un i annog pobl ifanc i gymryd rhan, ac un arall i annog sefydliadau groesawu ac anfon gwirfoddolwyr. Dim ond un o dri pherson ar draws Ewrop a gafodd eu dewis i ymddangos yn y fideos yw Calum - ac ef yw’r unig un o’r DU i gymryd rhan. Bydd y ddau fideo yn cael eu lansio'r wythnos hon yn dilyn rhagolwg ohonynt yn Strasbwrg fel rhan o Wythnos Pobl Ifanc Ewrop ar 20/21 Mai.
I nifer, mae gwirfoddoli dramor yn brofiad sydd yn newid eu bywydau. I eraill, fel Calum, gall y profiad fod yn un all achub bywyd.
Cafodd Calum ei enwebu ar gyfer y fideo gan Asiantaeth Genedlaethol y DU Erasmus+, sef partneriaeth rhwng y British Council a Ecorys UK, gan fod ei stori’n dangos yr effaith ddofn y gall y rhaglen Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd ei gael ar berson ifanc.
Yn 2010, teithiodd Calum i’r Eidal, gyda chefnogaeth y Gyfnewid UNA yng Nghaerdydd, mudiad ieuenctid sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned; yng Nghymru a ledled y byd. Fel person ifanc gyda chefndir cythryblus a dyfodol heb lawer o obaith, doedd gan Calum ddim syniad o’r effaith ddofn y byddai’r profiad yn ei gael arno.
“Rwy’n meddwl mai’r Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd yw’r driniaeth orau ar gyfer iechyd meddwl - gwell nag unrhyw gyffur, therapydd neu ddoctor,’ dywedodd Calum. “Ers yn blentyn, roeddwn yn mynd i helynt, ac yn mynd i fwy o helynt ar ôl troi’n 16 oed - helynt gyda’r heddlu, cyffuriau, y bobl anghywir. Oherwydd hyn, fe wnaeth fy ngweithwyr ieuenctid drefnu i mi fynd i weithio ar brosiect yn yr Eidal - er mwyn fy nghadw allan o’r carchar. Roedd y profiad yn agoriad llygad a sylweddolais fod pobl mewn gwelydd eraill yn debyg i mi. Fe ddysgais am barch a ffyddlondeb. Petawn i heb fynd, mae’n debyg y byddwn i wedi marw neu wedi mynd i’r carchar,”
Mae Calum wedi mynd ymlaen i gymryd rhan mewn ac arwain gweithgareddau gwirfoddoli eraill gyda’r Cyfnewid UNA - yng ngwlad Pwyl, Cymru a Lithuania. Bu’n cymryd rhan mewn rhaglen wyth mis Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd ac fe wnaeth ddarganfod ei fod wrth ei fodd a’r awyr agored yn ogystal â gyrfa newydd mewn tirlunio. Mae’r parhau i weithio fel gwirfoddolwr ac yn helpu plant gyda ADHD ac yn gweithio mewn lloches i’r digartref.
Ers 1996, mae dros 100,000 o bobl ifanc ar draws Ewrop wedi elwa o wirfoddoli dramor drwy’r Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd, dros 5,000 ohonynt o’r DU.
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae’r rhan fwyaf o staff yr Asiantaeth Genedlaethol y British Council wedi’u lleoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd, felly mae’n werthfawr i ni glywed bod rhywun lleol o fudiad ieuenctid o Gymru wedi cael ei ddewis gan y Comisiwn Ewropeaidd.”
“Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd yn gyfle gwych i bobl ifanc yng Nghymru brofi diwylliant ac iaith arall, ac ennill profiad bywyd gwerthfawr ar yr un pryd. Rydym yn annog sefydliadau eraill yng Nghymru i wneud cais am gyllid ar gyfer eu prosiectau rhyngwladol ar wefan Erasmus+ erbyn 4 Hydref 2016.”
Dywedodd Leila Usmani, Cydlynydd Gwasanaeth Gwirfoddoli Ewropeaidd o’r Gyfnewid UNA: “Rydym wedi bod wrthi’n rhedeg rhaglenni’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Ewropeaidd am fynyddoedd maith erbyn hyn, ac wedi gweld yr effaith bositif y mae hyn wedi ei gael ar nifer o bobl ifanc, pa bynnag eu cefndir neu sefyllfa, felly rydym wrth ein bodd bod Calum wedi cael ei gydnabod yn y modd yma ac y bydd ef yna’n rhannu’r neges am effaith y rhaglen hon.”