Dydd Mawrth 21 Chwefror 2017

 

Aelodau Cynulliad yn galw am strategaeth i greu cysylltiadau â’r diaspora Cymreig

Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir i gysylltu â’r diaspora Cymreig.

Mae grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol yn dymuno gweld camau pellach i gysylltu Cymru â chymunedau ac unigolion dramor sydd naill ai â gwreiddiau yng Nghymru neu gysylltiadau â Chymru, er mwyn creu rhwydwaith byd-eang i hyrwyddo Cymru ar lefel economaidd a diwylliannol.

Yn ôl Cadeirydd y grŵp, Rhun ap Iorwerth AC: “Fel cenedl, nid ydym wedi bod yn ddigon strategol nac yn ddigon penderfynol i fanteisio ar y diaspora Cymreig. Yn ogystal â chreu cysylltiadau â’r rheini sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru, fe ddylem fod yn gwneud mwy i fanteisio ar ewyllys da amrywiaeth eang o bobl dramor, fel cyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru a busnesau sydd wedi gweithio â chwmnïau o Gymru, neu’r rheini sy’n ymddiddori yn niwylliant Cymru. Byddaf yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i holi sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu datblygu strategaeth i Gymru er mwyn creu cysylltiadau rhyngwladol.”

Trafododd y grŵp y gwaith rhagweithiol y mae llywodraethau Iwerddon a’r Alban yn ei wneud i greu cysylltiadau â’u diaspora hwythau ledled y byd.

Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru, sy’n darparu cefnogaeth i’r grŵp trawsbleidiol: “Gall Cymru ddefnyddio’i harbenigedd a’i chysylltiadau sydd wedi’u creu drwy addysg, y celfyddydau a chwaraeon i feithrin ei phŵer meddal ledled y byd, a gall ei diaspora chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adeiladu cysylltiadau rhyngwladol.”

Ffurfiwyd grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol er mwyn helpu i ddatblygu syniadau ar hyrwyddo Cymru a chysylltiadau rhyngwladol y Cynulliad. Cynhaliwyd cyfarfod diwethaf y grŵp ar 14 Chwefror 2017.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon