Rydym yn gweithio gyda’r Senedd i hyrwyddo Cymru’n fyd-eang a meithrin cysylltiadau rhyngwladol.
Ar ddechrau’r Bumed Senedd yn 2016 gwnaethom awgrymu y dylid sefydlu Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer materion rhyngwladol. Cafodd y syniad dderbyniad gwresog ac fe gytunodd Rhun ap Iorwerth AS i gadeirio’r grŵp, gyda British Council Cymru yn darparu’r ysgrifenyddiaeth.
Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Ryngwladol yn dal i fod ar waith yn y Chweched Senedd; mae’n cael ei gadeirio bellach gan Heledd Fychan AS.
Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Ryngwladol wedi trafod amryw o faterion, gan gynnwys:
• Rhyngwladoli busnesau bach yng Nghymru
• Addysg uwch a myfyrwyr rhyngwladol
• Cymry ar wasgar
• Arddangos celfyddydau Cymru’n rhyngwladol
• Addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru