• Mae mwy na thraean o ysgolion Cymru â llai na 10% o ddisgyblion Blwyddyn 10 (14-15 oed) yn astudio iaith dramor fodern erbyn hyn.
• Mae gan 44% o ysgolion lai na phum disgybl sy'n astudio iaith dramor ar gyfer safon Uwch Gyfrannol ac mae gan 61% lai na phum disgybl sy'n astudio iaith dramor ar gyfer safon Uwch
• Dim ond un neu ddau athro llawn amser sydd gan 64% o adrannau ieithoedd tramor modern, ac mae un rhan o dair yn ddibynnol ar staff sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd nad ydynt o wledydd Prydain
• Mae nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern yn parhau i ddisgyn ym mlynyddoedd 10 ac 11 sy'n awgrymu y bydd y niferoedd yn disgyn yn is eto yn 2017 a 2018
Mae'r adroddiad Tueddiadau Ieithoedd diweddaraf ar ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru wedi canfod bod athrawon yn bryderus iawn am ddyfodol ieithoedd tramor modern.
Mae canfyddiadau'r adroddiad yn dangos bod sail gref i bryderon yr athrawon ac mae'r cyhoeddwr, British Council Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys.
Bellach, mae mwy na thraean o ysgolion Cymru â llai na 10% o ddisgyblion Blwyddyn 10 (14-15 oed) yn astudio iaith dramor fodern. Priodolir y gostyngiad i'r nifer o bynciau gorfodol y mae'n rhaid i ddisgyblion eu hastudio a chyflwyno Bagloriaeth Cymru.
Mae llawer o ysgolion wedi rhoi'r gorau i gynnig ieithoedd tramor modern ym mlynyddoedd 12 a 13 (addysg ôl-16) ac fel arfer, mae'r ysgolion hynny sy'n cynnig y pwnc yn dysgu dosbarthiadau bach iawn: mae gan 44% o ysgolion lai na phum disgybl sy'n astudio iaith dramor ar gyfer safon Uwch Gyfrannol ac mae gan 61% lai na phum disgybl sy'n astudio iaith dramor ar gyfer safon Uwch. Mae athrawon yn dweud bod cael dosbarthiadau sydd mor fach yn golygu na fyddai hi'n ariannol hyfyw i'w hysgol gynnig ieithoedd tramor modern yn y dyfodol.
Mae'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio iaith dramor fodern ar lefel uwch wedi'i briodoli i'r ffaith eu bod yn cystadlu â phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) a'r gred ei bod hi'n anoddach cael graddau uchel mewn iaith dramor fodern o gymharu â phynciau academaidd eraill.
Mae dirywiad y pwnc yn golygu bod adrannau ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru yn fach iawn. Mewn 64% o adrannau dim ond un neu ddau o athrawon sy'n cael eu cyflogi ganddynt. Mae oddeutu un rhan o dair o ysgolion yn ddibynnol ar staff sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd nad ydynt o wledydd Prydain er mwyn dysgu ieithoedd tramor modern, ac mae pryder penodol ynghylch yr ansicrwydd a fydd modd i'r aelodau yma o staff aros yn y wlad ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Canfu'r adroddiad bod rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo ieithoedd tramor modern mewn ysgolion, Dyfodol Byd-eang, yn boblogaidd ymysg athrawon, ond hyd yma, nad yw wedi cael llawer o effaith ar nifer y disgyblion sy'n astudio'r pwnc.
Nawr, mae British Council Cymru yn galw am weithredu i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern.
Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Nid oes amheuaeth bod angen cenhedlaeth newydd o ieithyddion ar Gymru er mwyn helpu i gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru o greu gwlad lewyrchus ac eangfrydig. Mae'r dirywiad parhaus yn y niferoedd sy'n dysgu ieithoedd yn peri pryder, yn enwedig yn sgil Brexit, sy'n golygu y bydd mwy o fusnesau nag erioed angen sgiliau iaith er mwyn gallu cynnal busnes gyda chwsmeriaid rhyngwladol.
"Mae'r buddion mae myfyrwyr yn eu cael o weithio neu astudio dramor yn amlwg; mae profiadau rhyngwladol yn ffordd o fagu hyder, o wella rhagolygon am yrfa a hyd yn oed yn gallu arwain at well canlyniadau mewn arholiadau, ond mae diffyg sgiliau iaith yn rhwystr sy'n atal rhai pobl ifanc rhag manteisio ar gyfleoedd i weithio neu astudio'n ryngwladol.
"Rydyn ni'n llwyr gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog rhagor o ddisgyblion i astudio iaith. Mae cynllun Dyfodol Byd-eang y Llywodraeth i hyrwyddo dysgu ieithoedd tramor modern bellach yn ei ddeunawfed mis. Dangosodd ein harolwg bod y cynllun yn cyrraedd nifer o ysgolion a'i fod yn boblogaidd ymysg athrawon.
"Fodd bynnag, er bod cynnydd o 7% wedi bod yn nifer y disgyblion sy'n astudio pynciau Lefel A yn gyffredinol ers 2001, mae'n ddychrynllyd gweld gostyngiad parhaus yn y niferoedd sy'n astudio ieithoedd tramor modern. Mae ein hymchwil yn awgrymu y bydd nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU yn parhau i gwympo yn 2017 a 2018.
"Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau yn ddi-oed i atal y gostyngiad yma. Rhaid datblygu dysgu Cymraeg a Saesneg ar lefel cynradd er mwyn cefnogi dysgu ieithoedd tramor – mae'n bryderus clywed athrawon yn dweud bod disgyblion Blwyddyn 7 yn dechrau'r ysgol uwchradd gyda dealltwriaeth wan o ramadeg ac nad ydyn nhw'n gallu creu cysylltiadau rhwng geirfa a strwythur ieithoedd.
"Ar lefel uwchradd, mae datblygu cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig cyfle delfrydol i ddatblygu dyfarniad 'iaith driphlyg' – Cymraeg, iaith dramor fodern a Saesneg – gyda'r un statws a gwerth â 'gwyddoniaeth driphlyg'. Ni ddylai ieithoedd tramor modern orfod cystadlu gyda Chymraeg a Saesneg, ond yn hytrach dylid manteisio ar y gallu sydd gan y tri phwnc yma i gefnogi ei gilydd, er lles y disgyblion a ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol."