Grŵp Inuit yn teithio o’r Arctig i Gymru i ddysgu sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo
Mae grŵp o Inuit o’r Arctig Canada yn teithio i Gymru i ddysgu sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a sut mae’r iaith wedi ffynnu fel iaith fyw.
Bydd y ddirprwyaeth sydd yn cynnwys 17 aelod o Bwyllgor Iaith Tapiriit Kanatami Inuit yn yr Arctig yn cwrdd â’r Prif Weinidog Carwyn Jones, Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws, a'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.
Bydd y grŵp yn teithio ledled Cymru (o 13 – 16 Rhagfyr) i gwrdd â grwpiau sydd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Byddant yn ymweld â Phrifysgol Bangor, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a CBAC.
Ar hyn o bryd, mae’r pwyllgor yn gweithio ar broses hanesyddol i greu un ffurf safonol o’r iaith Inuit. Mae oddeutu 60 o ieithoedd brodorol yng Nghanada, a phob un ohonynt yn dirywio, ac mae’r grŵp yn awyddus i ddysgu o lwyddiant Cymru yn amddiffyn yr iaith Gymraeg.
Fel rhan o bartneriaeth rhwng y British Council, Prince’s Charities Canada a’r Uchel Gomisiwn, fe fydd yr awdur ac academydd Cymreig, Alys Conran yn mynd gyda’r grŵp i ddogfennu eu hamser yng Nghymru.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae dwyieithrwydd yng Nghymru yn rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i’n hymwelwyr rhyngwladol. Rwy’n gwybod y bydd ein partneriaid yng Nghymru yn rhoi croeso mawr i’r ddirprwyaeth Inuit ac yn rhannu eu cariad tuag at ddiwylliant a’r iaith Gymraeg, a’u harbenigedd yn ei hamddiffyn a’i hyrwyddo. Rydym yn edrych ymlaen at ddarllen blog Alys am yr ymweliad ac i glywed mwy am y profiad iaith Inuit yng Nghanada.”
Trefnir yr ymweliad hwn gan Prince’s Charities Canada, swyddfa elusennol yng Nghanada ar gyfer Ei Ucheldir Brenhinol Tywysog Cymru.
Dywedodd Mathew Rowe, Cyfarwyddwr y sefydliad: “Mae gan Dywysog Cymru berthynas hir gyda Gogledd Canada wedi iddo ymweld â’r Tiriogaethau Gogledd-orllewin yn ystod ei ymweliad cyntaf i’r wlad yn 1970. Mae’n fraint gan Prince’s Charities Canada i gefnogi ymdrechion yr Inuit Tapiriit Kanatami i adfywio’r iaith Inuit ac rydym yn gobeithio y bydd digonedd iddynt ei ddysgu gan yr enghraifft Gymreig.”
Prince’s Charities Canada
Prince’s Charities Canada (PCC) yw’r swyddfa elusennol yng Nghanada ar gyfer Ei Ucheldir Brenhinol Tywysog Cymru.
Caiff y PCC ei lywio gan waith elusennol y Tywysog yng Nghanada, y Deyrnas Unedig ac ym mhedwar ban byd, ac mae’n cefnogi a datblygu mentrau sy’n canolbwyntio ar ddiddordebau craidd Tywysog Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys addysg a phobl ifanc, busnes cyfrifol, yr amgylchedd adeiledig a chynaliadwyedd byd-eang.
Gyda ffocws entrepreneuraidd, mae PCC yn chwilio am gyfleoedd i wireddu gweledigaeth y Tywysog yn y ffyrdd mwyaf effeithiol posibl. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau elusennol ledled Canada a drwy rwydwaith byd-eang y Tywysog i sicrhau’r dylanwad mwyaf posibl. Mae ein mentrau yn amrywio o gefnogi entrepreneuriaid milwrol ac ymgysylltu ag arweinwyr busnes ynghylch cyflogaeth ieuenctid i hyrwyddo ieithoedd a chelfyddyd gynfrodorol.
Alys Conran
Alys Conran yw awdur 'Pigeon' (Parthian Books, 2016). Mae ei gwaith ffuglen byr wedi ei gynnwys ar gyfer y Bristol Short Story Prize a’r Manchester Fiction Prize. Cwblhaodd ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Manceinion, gan raddio gydag anrhydedd, ac ar hyn o bryd - gyda chymorth ysgoloriaeth - mae’n gweithio ar ei hail nofel am waddol y Raj ym mywyd cyfoes Prydain. Mae wedi darllen ei ffuglen a’i barddoniaeth yng Ngŵyl y Gelli ac ar Radio Four ac mae ei gwaith i’w weld mewn cylchgronau, gan gynnwys Stand a The Manchester Review, a hefyd mewn blodeugerddi gan The Bristol Review of Books, Parthian, The Camden Trust a Honno. Mae hefyd yn cyhoeddi barddoniaeth, gwaith ffeithiol creadigol, traethodau creadigol a chyfieithiadau llenyddol. Mae’n hanu o Ogledd Cymru, a threuliodd flynyddoedd yng Nghaeredin a Barcelona cyn dychwelyd i’r ardal i fyw ac ysgrifennu. Mae’r siarad Sbaeneg a Chatalaneg yn rhugl, yn ogystal â Chymraeg a Saesneg. Mae hefyd wedi hyfforddi ac ymarfer mewn gwaith ieuenctid a chymunedol, ac mae wedi datblygu prosiectau i gynyddu’r cyfleoedd i bobl fedru ysgrifennu creadigol a darllen. Mae bellach yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth gyfeillgar rhwng pobl y DU a gwledydd eraill. Gan ddefnyddio adnoddau diwylliannol y DU, rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, meithrin cysylltiadau ac ennyn ymddiriedaeth.
Rydym yn gweithio gyda dros 100 o wledydd ledled y byd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, yr iaith Saesneg, addysg a chymdeithas sifil. Bob blwyddyn, rydym yn cyrraedd dros 20 miliwn o bobl wyneb yn wyneb a dros 500 miliwn o bobl ar-lein, drwy ddarllediadau a chyhoeddiadau.
Wedi'i sefydlu yn 1934, rydym yn elusen yn y DU a lywodraethir gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y DU. Caiff y rhan fwyaf o'n hincwm ei godi drwy ddarparu amrywiaeth o brosiectau a chontractau addysgu ac arholiadau Saesneg, contractau addysg a datblygu ac o bartneriaethau â sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae 18 y cant o'n cyllid yn dod o lywodraeth y DU.