Mae grŵp o Inuit o’r Arctig Canada yn teithio i Gymru i ddysgu sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a sut mae’r iaith wedi ffynnu fel iaith fyw.
Bydd y ddirprwyaeth sydd yn cynnwys 17 aelod o Bwyllgor Iaith Tapiriit Kanatami Inuit yn yr Arctig yn cwrdd â’r Prif Weinidog Carwyn Jones, Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws, a'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Bydd y grŵp yn teithio ledled Cymru (o 13 – 16 Rhagfyr) i gwrdd â grwpiau sydd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Byddant yn ymweld â Phrifysgol Bangor, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a CBAC.
Ar hyn o bryd, mae’r pwyllgor yn gweithio ar broses hanesyddol i greu un ffurf safonol o’r iaith Inuit. Mae oddeutu 60 o ieithoedd brodorol yng Nghanada, a phob un ohonynt yn dirywio, ac mae’r grŵp yn awyddus i ddysgu o lwyddiant Cymru yn amddiffyn yr iaith Gymraeg. Fel rhan o bartneriaeth rhwng y British Council, Prince’s Charities Canada a’r Uchel Gomisiwn, fe fydd yr awdur ac academydd Cymreig, Alys Conran yn mynd gyda’r grŵp i ddogfennu eu hamser yng Nghymru. Gallwch ddarllen ei blog am yr ymweliad ar Wales Arts Review.