Dydd Mawrth 12 Mawrth 2024

Mae disgyblion yng Nghrughywel wedi bod yn cymryd rhan mewn arbrawf fideo arloesol fel rhan o ymgais i gynyddu'r nifer sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru.

Cafodd y fideo ei gyfarwyddo a'i gynhyrchu gan y British Council ac mae'n dangos sut y gall athrawon ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (D.A.) i ysgogi dysgwyr drwy ddangos iddynt sut y byddent yn edrych a swnio petaent yn siarad mewn ieithoedd gwahanol.

Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan ymchwil newydd a ffeindiodd bod athrawon o gwmpas y byd wedi bod yn defnyddio adnoddau D.A. i wella sgiliau siarad, ysgrifennu a darllen Saesneg.

Nododd bron i ddwy ran o dair o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd i adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru diweddaraf Brtish Council Cymru bod llai na 10 y cant o'u disgyblion yn astudio iaith ryngwladol. Ac mae'r ganran o ysgolion uwchradd lle nad yw disgyblion yn gallu astudio iaith ryngwladol oherwydd heriau amserlennu wedi cynyddu o 31 y cant i 51 y cant ers 2022.

Dywedodd Keri Bosley, Cyfarwyddwr Dysgu a Chyflawniad ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol a Chymraeg yn Ysgol Uwchradd Crughywel (sydd hefyd yn ymddangos yn y fideo) bod athrawon yn edrych am ffyrdd i ymgorffori technoleg newydd yn y cwricwlwm drwy'r amser.

Wrth ymateb i'r cyfieithiadau D.A., dywedodd: "Gall dysgwyr fod yn amharod i siarad, ac yn aml maen nhw'n credu bod dysgu ieithoedd yn rhy heriol, ac felly does dim hyder ganddyn nhw. Mae hynny'n aml yn rheswm pam nad yw ein pobl ifanc yn dewis astudio iaith ar gyfer TGAU. Dydyn nhw ddim yn gallu dychmygu sut y byddai hynny'n edrych, neu sut y bydden nhw'n teimlo wrth siarad iaith arall.

“Dw i'n credu os gallwch chi weld beth yw'r canlyniad yn y pendraw, gallwch weithio'n ôl o hynny a meddwl, 'Reit, dyna be dw i eisiau gwneud!' Mae'n rhoi nod i chi."

Dywedodd Eliza, disgybl Blwyddyn 10 sy'n cymryd rhan yn y fideo: "Dw i'n credu y bydd [y D.A.] yn ddefnyddiol, ond dyw hynny ddim yn golygu y dylai pobl beidio ceisio dysgu iaith; bydd cysylltu wyneb yn wyneb wastad yn fwy pwysig na defnyddio D.A."

Dywedodd Gethin, disgybl ym Mlwyddyn 9: "Er bod D.A. yn copio eich llais yn dda iawn, dyw e ddim yr un peth; ac mae [dysgu iaith] yn sgil bwysig ar gyfer eich hunan hyder."

Wrth sôn am y fideo, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae wedi bod yn ymarfer gwych i weld ymateb y disgyblion i'r dechnoleg newydd yma; ac rydyn ni wedi gweld y gall fod yn arf gwerthfawr o ran galluogi disgyblion i weld eu hunain yn gwneud rhywbeth, eu hysbrydoli a hybu hunan hyder. Ond mae hefyd yn galonogol i glywed disgyblion yn dweud er bod y D.A. wedi creu argraff, ni all gymryd lle dysgu iaith.

"Mae dysgu ieithoedd rhyngwladol fel math o bŵer aruthrol. Nid yn unig gall fod yn basbort i'r byd, cysylltiadau byd-eang a dealltwriaeth ddiwylliannol werthfawr, mae hefyd yn gwella eich cof, eich gallu i ganolbwyntio a'ch creadigrwydd. Heddiw, mae gan bobl ifanc yng Nghymru a'r D.U. gymaint o ddewis pynciau, ac rydyn ni'n edrych am ffyrdd i'w hysbrydoli i ddal ati gydag ieithoedd. Ar gefn ein hymchwil, rydyn ni'n gwybod y gall dysgu ieithoedd rhyngwladol gael effaith anferth ar lwybrau gyrfa pobl ifanc ac ar greu dinasyddion byd-eang."

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion

Dilynwch y ddolen yma i wylio'r fideo.

Dilynwch y ddolen yma i ddarllen adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2023: https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/tueddiadau-iaith-cymru

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Anna Christoforou, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, y D.U., British Council

E:  anna.christoforou@britishcouncil.org

Rosalind Gould, Rheolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, Gwledydd y D.U., British Council

E: rosalind.gould@britishcouncil.org 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon