Hyrwyddwyr celfyddydau rhyngwladol ar eu ffordd i Gaerdydd i weld City of the Unexpected
Bydd grŵp o hyrwyddwyr, trefnwyr a pherfformwyr celfyddydau rhyngwladol o bob cwr o'r byd yn teithio i Gaerdydd ar gyfer City of the Unexpected i weld arbenigedd Cymru yn yr hyn a elwir yn theatr safle benodol, lle mae perfformiadau yn ymddangos ym mhobman heblaw mewn theatr draddodiadol.
Bydd City of the Unexpected yn cynnwys cast o filoedd ynghyd â golygfeydd anhygoel wedi eu hysbrydoli gan waith un o feibion enwocaf Caerdydd, yr awdur Roald Dahl. Cynhelir y digwyddiad ar benwythnos 17-18 Medi ar draws strydoedd, mannau cyhoeddus, siopau ac arcedau, adeiladau a pharciau Caerdydd.
Mae British Council Cymru yn dod â chynrychiolwyr o lefydd mor bell â Korea, India, De Affrica ac Awstralia i Gaerdydd.
Eglurodd Rebecca Gould, pennaeth y celfyddydau yn British Council Cymru:
"Mae gan Gymru draddodiad rhagorol o theatr safle benodol o'r radd flaenaf. Mewn blynyddoedd diweddar, mae cwmnïau yn cynnwys ein dwy theatr ryngwladol, National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru, wedi cynhyrchu perfformiadau a gafodd ganmoliaeth gan adolygwyr a'r cyhoedd megis {150}, a gyflwynwyd yn storfeydd y Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr a Mametz, a gyflwynwyd mewn coedwig ger Brynbuga. Mae City of the Unexpected yn gyfle gwych i'n hymwelwyr rhyngwladol weld y sector creadigol Cymreig yn gwneud yr hyn y mae'n ei wneud orau.
"Bydd y cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau a fydd yn eu helpu i ddeall sut mae sefydliadau celfyddydau Cymreig yn creu ac yn rheoli'r perfformiadau arbennig hyn, yn artistig ac yn ymarferol."
Byddant hefyd yn cwrdd â rhai o brif ymarferwyr a threfnwyr y perfformiadau, ac yn gallu rhannu syniadau a chwestiynau, yn ogystal â gwneud cysylltiadau newydd a datblygu eu rhwydweithiau o fewn sector creadigol Cymru.
Rhestr o Gynrychiolwyr
Hye Ran Hwang Korea
Un o aelodau sefydlol ac Arweinydd Gweithdy Grŵp Perfformio TUIDA
Kenneth Uphopho Nigeria
Cyfarwyddwr Gŵyl ar gyfer Gŵyl Theatr Lagos y British Council l
Jacob Boehme Awstralia
Cyfarwyddwr Artistig IDJA
Krzysztof Bielaszka Gwlad Pŵyl
Cydlynydd Prosiectau Rhyngwladol, Rhaglen Artistiaid Preswyl A-i-R WRO
Jakub Kulasa, Gwlad Pŵyl
Pennaeth yr Adran Lenyddiaeth yn Swyddfa Gŵyl Krakow: http://en.biurofestiwalowe.pl/
Anurupa Roy India
Pypedwr, dylunydd pypedau a chyfarwyddwr y theatr bypedau Kat Katha
Yo Sup Bae Korea
Cyfarwyddwr Grŵp Perfformio TUIDA
Sudip Chakraborthy Bangladesh
Cadeirydd ac Athro Chynorthwyol, Adran Astudiaethau Theatr a Pherfformio, Prifysgol Dhaka
Jake Oorloff Sri Lanka
Sylfaenydd Cwmni Theatr Floating Space http://www.floatingspace.org/
Ambra Floris Yr Eidal
Sardegna Teatro http://www.sardegnateatro.it/
Yusrah Bardien De Affrica
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata ASSITEJ De Affrica http://www.assitej.org.za/
Anahera Higgins Seland Newydd
Rhaglennwr Māori, Celfyddydau a Diwylliant, Gŵyl Matariki http://www.matarikifestival.org.nz/
The British Council is the UK’s international organisation for educational opportunities and cultural relations. We create international opportunities for the people of the UK and other countries and build trust between them worldwide.
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.
Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.
Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.
Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy
http://twitter.com/bcwales
https://www.facebook.com/BritishCouncilWales