Dathliad o hud Roald Dahl
Bydd City of the Unexpected yn ddathliad llawn hwyl a sbri o ganmlwyddiant un o feibion enwocaf Caerdydd, yr awdur Roald Dahl.
Bydd y penwythnos arbennig yn cynnwys cast o filoedd o berfformwyr o bob rhan o'r ddinas a golygfeydd anhygoel - y cyfan wedi ei lwyfannu ar strydoedd Caerdydd, mewn mannau cyhoeddus, siopau ac arcedau, adeiladau a pharciau.
Mae Cymru wedi gwneud enw i'w hun fel theatr safle-benodol o'r radd flaenaf, gyda chwmnïau megis National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi perfformiadau gwych fel {150} a Mametz.
Bydd y British Council yn dod â grŵp o hyrwyddwyr celfyddydau a threfnwyr rhyngwladol i Gaerdydd i weld Dinas yr Annisgwyl ac i arddangos arbenigedd Cymru mewn perfformiadau safle-benodol. Bydd y daith yn rhoi'r cyfle i'r grŵp ddysgu sut mae sefydliadau celfyddydol Cymreig yn datblygu ac yn rheoli'r fath berfformiadau ac i feithrin cysylltiadau â sector creadigol Cymru. Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn cael eu mentora drwy weminarau a chyfarfodydd ar-lein i ddatblygu eu digwyddiadau eu hunain yn eu gwledydd nhw.