Dydd Llun 05 Mehefin 2017

 

Mae Prosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia yn dathlu ugain mlwyddiant eleni ac mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos bod y prosiect yn mynd o nerth i nerth.

Canfu adroddiad 2016 bod 1270 o bobl yn dysgu Cymraeg yn y rhanbarth yn ystod y flwyddyn, sef cynnydd o 4.1% ers 2015, a'r nifer uchaf o bobl erioed ar gyfer y prosiect. 

Gwelwyd y cynnydd yn nifer y dysgwyr yn sgil datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach yn y rhanbarth. Mae'r adroddiad yn nodi cynnydd o 202% yn nifer y disgyblion cynradd sy'n dysgu Cymraeg a chynnydd o 14.5% yn nifer y plant yn eu harddegau sy'n dysgu'r iaith.

Diolch i'r ysgol cyfrwng Cymraeg a Sbaeneg newydd yn Nhrevelin, sef Ysgol y Cwm, a agorodd ei drysau am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2016, mae dyfodol y Gymraeg ym Mhatagonia yn fwy diogel. Croesawyd hanner cant o blant oed meithrin i'r ysgol, gyda'r gobaith o groesawu 150 o ddisgyblion pellach i'r ysgol yn y pen draw.  

Mae Ysgol Gymraeg y Gaiman, a agorwyd yn 2015, hefyd wedi gweld twf yn sgil cael adeilad newydd, ac mae'r prosiect wedi dathlu deng mlwyddiant ers sefydlu Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.

Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru, sy'n rheoli'r prosiect: "Mae'r twf parhaus yn nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia yn dyst i'r gwaith caled sydd wedi bod yn rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg dros yr ugain mlynedd diwethaf. Rydyn ni'n edrych ymlaen i weld twf pellach yn sgil datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth."

Dywedodd Rhisiart Arwel, monitor academaidd y prosiect: “Mae 2017 yn flwyddyn nodedig yn hanes Cynllun yr Iaith Gymraeg. Dyma’r flwyddyn mae’r Cynllun yn dathlu ei ben-blwydd yn ugain mlwydd oed. Ychydig a wyddai’r rhan fwyaf ohonom nôl yn 1997 cymaint byddai llwyddiant y Cynllun unigryw yma, sy’n cael ei ariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru,  British Council Cymru a Chymdeithas Cymru Ariannin.

“Nôl yn 1997, dim ond  573 o ddysgwyr oedd yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg. Bellach, oherwydd brwdfrydedd ac ymroddiad yr holl diwtoriaid a staff y Cynllun mae ‘r ffigwr hwnnw wedi codi i 1270 yn 2017. Dyma’r ffigwr uchaf erioed yn hanes y Cynllun, ac yn gynnydd o 121% ers y dechrau. Mae hon yn stori o lwyddiant mawr.”

Nodiadau i olygyddion

Ers 1997, mae Prosiect yr Iaith Gymraeg wedi bod yn hyrwyddo a datblygu'r Gymraeg yn nhalaith Chubut, Patagonia, Ariannin. Bob blwyddyn mae tri swyddog datblygu iaith o Gymru yn treulio cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr yn dysgu ym Mhatagonia. Maent yn datblygu'r iaith mewn cymunedau sy'n siarad Cymraeg drwy ddysgu ffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol anffurfiol.

Mae cydlynydd dysgu parhaol o Gymru hefyd yn gweithio ym Mhatagonia. Nhw sy'n gyfrifol am ansawdd y dysgu.

Mae'r prosiect yn cynnwys rhwydwaith o diwtoriaid Cymraeg o Batagonia sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth. Mae'r tiwtoriaid yn ymweld â Chymru, yn mynychu cyrsiau Cymraeg ac yn cymryd rhan mewn ymweliadau arsylwi ysgolion er mwyn helpu'r prosiect i gynnal safonau addysgu ac i sicrhau mai'r methodolegau diweddaraf sydd ar waith ym Mhatagonia.

Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Cymru Ariannin a British Council Cymru’n ariannu’r prosiect, sydd yn rhan o Raglen Addysg Ryngwladol y British Council. Hefyd, mae Llyowdraeth Talaith Chubut yn cyfrannu’n ariannol tuag at ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

 

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon