- 'Mae cynnig anhygoel yng Nghymru, ond mae'n rhy dawel – mae angen iddo fod yn gliriach ac yn fwy beiddgar'.
- Dywedir bod celfyddydau a diwylliant Cymru yn 'anweledig' dramor.
- Mae galwad i wella digwyddiadau rhyngwladol presennol Cymru er mwyn darparu mwy o gyfleoedd i arddangos.
- Nid yw'r wlad yn gwneud y mwyaf o'i dwyieithrwydd fel ased diwylliannol.
Mae adroddiad newydd yn galw am hyrwyddo diwylliant a chelfyddydau Cymru yn well i farchnadoedd rhyngwladol.
Comisiynwyd yr adroddiad, sef Strategaeth Arddangos Celfyddydau Cymru yn Rhyngwladol, gan British Council Cymru, ac mae'n ben llanw gwaith ymchwil i'r ffordd orau i ddiwylliant Cymru, gan gynnwys ei hartistiaid, ei pherfformwyr a'i llenorion, ganfod cynulleidfaoedd rhyngwladol newydd.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar arddangos, sy'n rhoi cyfle i artistiaid a sefydliadau diwylliannol ddangos eu gwaith i hyrwyddwyr o bob cwr o Brydain a'r byd.
Mae'r adroddiad yn archwilio sut mae modd gwella wrth arddangos gwaith Cymru o ran celfyddydau gweledol, crefftau, cerddoriaeth, theatr, llenyddiaeth, dawns, ffilm, teledu a chyfryngau newydd a'r sector amgueddfeydd.
Gwahoddwyd cynrychiolwyr o sector celfyddydol Cymru i roi eu barn am y cyfleoedd arddangos presennol sydd i gelfyddydau Cymru. Cynhaliwyd cyfweliad â 47 o gynhyrchwyr, hyrwyddwyr, curaduron a chyfarwyddwyr gwyliau rhyngwladol am eu safbwyntiau ar gelfyddydau Cymru, a sut gall y wlad fynd ati i hyrwyddo'r hyn sydd ganddi i'w gynnig yn well.
Roedd yr ymchwil yn cydnabod bod gan Gymru lawer o asedau diwylliannol o safon fyd-eang, gan gynnwys Gŵyl y Gelli, Artes Mundi a Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Fodd bynnag, y brif neges a ddaw o'r adroddiad yw, er bod gan Gymru gynnig celfyddydol o'r radd flaenaf, 'mae'n rhy dawel' ac 'mae angen iddi fod yn gliriach ac yn fwy beiddgar'. Disgrifiodd un cyfwelai Cymru fel 'anweledig' yn y maes arddangos rhyngwladol, ac roedd eraill yn cwestiynu pam nad oedd Cymru'n manteisio ar ei dwyieithrwydd.
Amlygwyd pum pwynt allweddol yn yr ymchwil:
- Mae angen rhagor o fuddsoddiad i ddatblygu arbenigedd a sgiliau arddangos, gan gynnwys sgiliau marchnata, yng Nghymru.
- Mae angen i sefydliadau Cymru sy'n gweithio'n rhyngwladol gydweithio, i rannu eu hadnoddau ac i osgoi gorgyffwrdd.
- Mae angen mwy o gyfleoedd arddangos yng Nghymru.
- Mae angen i Gymru gryfhau ei phresenoldeb mewn digwyddiadau arddangos rhyngwladol mawr.
- Mae angen llais celfyddydol rhyngwladol arbennig ar Gymru.
Canfu'r adroddiad bod diddordeb penodol mewn arddangos yn rhyngwladol ymhlith sefydliadau celfyddydol a diwylliannol Cymru, a dywedodd 64 y cant o ymatebwyr yr arolwg ei fod yn bwysig iawn neu'n flaenoriaeth uchel, a dywedodd 70 y cant eu bod wedi mynd i hyd at ddeg digwyddiad arddangos rhyngwladol yng ngwledydd Prydain yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Hoffai 61 y cant weld digwyddiadau rhyngwladol Cymru sydd eisoes yn bodoli yn cael eu gwella i ddarparu mwy o gyfleoedd i arddangos.
Meddai Rebecca Gould, pennaeth celfyddydau British Council Cymru: "Mae arddangos yn rhyngwladol yn faes cystadleuol, ac mae angen i Gymru ddod yn fwy gweladwy er mwyn cystadlu ar y llwyfan byd-eang. Mae angen dull beiddgar a strategol newydd arnom. Gall eu diwylliant helpu i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol, gan ddatblygu ein cyrhaeddiad a'n dylanwad, wrth godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o'r wlad ymhlith cynulleidfaoedd newydd. Bydd arddangos yn well yn arwain at sector diwylliannol cryfach ac amlycach i Gymru, ac yn rhoi hwb i fasnach a thwristiaeth ar yr un pryd. Bu i ni ymgynghori'n eang â'r sectorau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn cynhyrchu'r adroddiad, gan ein bod ni'n cydnabod mai'r diwydiant, gyda'i wybodaeth, ei angerdd a'i sgiliau, sydd yn y sefyllfa orau i arwain ar ddatblygu unrhyw ddull newydd i Gymru ar gyfer arddangos yn rhyngwladol."
Cynhaliwyd yr ymchwil a lluniwyd yr adroddiad gan Yvette Vaughan Jones o gwmni celfyddydau Visiting Arts.