Mae’r adroddiad, Strategaeth Arddangos Celfyddydau Cymru yn Rhyngwladol, yn galw am wella dulliau hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru i farchnadoedd rhyngwladol.
Fe ddaw yn sgil ymchwil i’r dulliau gorau o ffeindio cynulleidfaoedd rhyngwladol newydd ar gyfer diwylliant Cymru, gan gynnwys ei hartistiaid, ei pherfformwyr a’i sgwennwyr.
Prif ffocws yr adroddiad yw dulliau arddangos sy’n cynnig cyfleoedd i artistiaid a sefydliadau diwylliannol i gyflwyno eu gwaith i hyrwyddwyr ar draws y DU a ledled y byd.
Mae’r adroddiad yn ystyried sut y gellir gwella cyfleoedd arddangos ar gyfer celfyddydau gweledol, crefftau, cerddoriaeth, theatr, llenyddiaeth, dawns, ffilm a theledu o Gymru yn ogystal â chyfryngau newydd a’r sector amgueddfeydd.
Gwahoddwyd cynrychiolwyr o sectorau’r celfyddydau yng Nghymru i leisio’u barn ar sefyllfa gyfredol y cyfleoedd i arddangos celfyddydau o Gymru. Hefyd, holwyd barn cynhyrchwyr, hyrwyddwyr a churaduron rhyngwladol a chyfarwyddwyr gwyliau celf am gelfyddydau Cymru a sut y gellir bwrw gwell golau ar yr hyn sydd ganddi i’w gynnig.
Prif neges yr adroddiad yw bod gan Gymru gelfyddydau o’r radd flaenaf i’w cynnig, ond ‘mae’i llais yn rhy dawel’ ac ‘mae angen bod yn fwy eglur a beiddgar’.
Daeth pum pwynt allweddol i’r amlwg yn sgil y gwaith ymchwil:
- Mae angen mwy o fuddsoddiad yng Nghymru mewn arbenigeddau a sgiliau arddangos, gan gynnwys sgiliau marchnata.
- Mae angen i sefydliadau o Gymru sy’n gweithio’n rhyngwladol i weithio’n agosach gyda’i gilydd, rhannu adnoddau ac osgoi dyblygu.
- Mae angen creu mwy o gyfleoedd arddangos ar garreg ein drws yng Nghymru.
- Mae angen cryfhau presenoldeb Cymru mewn digwyddiadau arddangos rhyngwladol o bwys.
- Mae angen llais unigryw a rhyngwladol ar gelfyddydau o Gymru.
Mae’r adroddiad yn dangos bod diddordeb pendant gan sefydliadau celfyddydol a diwylliannol o Gymru mewn arddangos yn rhyngwladol:
- Dywedodd 64% o’r rhai a holwyd bod arddangos yn rhyngwladol yn bwysig iawn a/neu’n flaenoriaeth uchel ganddynt.
- Roedd 70% o’r rhai a holwyd wedi mynychu hyd at ddeg o ddigwyddiadau arddangos rhyngwladol a gynhaliwyd yn y DU yn ystod y pum mlyneddd diwethaf.
- Roedd 61% o’r rhai a holwyd am weld datblygu pellach ar y digwyddiadau rhyngwladol a gynhelir eisoes yng Nghymru, er mwyn cynyddu’r cyfleoedd arddangos.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad isod