Golwg ar artistiaid a gweithwyr creadigol o Gymru sy'n cysylltu'n fyd-eang mewn cyfres o bodlediadau'n cwmpasu cerddoriaeth, llenyddiaeth, theatr a'r celfyddydau gweledol.
Bydd British Council Cymru yn lansio ail gyfres o bodlediadiadau "Breaking Boundaries" ar 11 Ebrill 2025. Cyflwynir y gyfres bedair pennod gan y cerddor gwobrwyedig, Georgia Ruth. Mae'r podlediadau newydd hyn yn rhoi sylw i artistiaid o Gymru sydd wedi meithrin partneriaethau rhyngwladol gydag artistiaid a chydweithwyr creadigol yn Seland Newydd, Ffrainc, Fietnam, Brasil a thu hwnt.
Yn y ddwy bennod gyntaf byddwn yn edrych ar fentrau cydweithio ym maes cerddoriaeth a llenyddiaeth - gan ddechrau gyda'r cerddorion, Georgia Ruth, Carwyn Ellis a'r cynhyrchydd Greg Haver yn trafod eu cysylltiadau â cherddorion a chynhyrchwyr yn Aotearoa yn Seland Newydd drwy brosiect Songhubs Māori-Cymraeg'. Hefyd yn y bennod gyntaf cawn sgwrs gyda Lleuwen Steffan am ei phrosiect 'Tafod Arian' sy'n dod â bywyd newydd i emynau angofiedig Cymraeg mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a cherddorion yng Nghanada.
Mae'r ail bennod yn troi at brosiect gwrth-theatr blaengar y dramodydd Ian Rowlands, 'Aurora Borealis' a gwaith y bardd Joshua Jones yn dathlu cysylltiadau rhwng cymunedau LHDTCRhA+ yng Nghymru a Fietnam.
Ym mhennod tri a phedwar, byddwn yn cael cwmni cwmnïau theatr Dirty Protest Theatre a Hijinx a chlywed am eu cysylltiadau â chymunedau yn Ffrainc ac ardaloedd anghysbell ym Mrasil. Bydd yr artist o fri rhyngwladol Sir John Akomfrah yn sôn am ei arddangosfa a gomisiynwyd gyntaf ar gyfer Biennale Fenis ac sydd ar fin trosglwyddo i Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd. Daw'r gyfres i ben gydag ymchwiliad Anna Falcini i etifeddiaeth yr artist o Gymru, Gwen John, a'i chysylltiadau â Ffrainc.
Gyda'i gilydd, mae'r artistiaid a sefydliadau hyn yn dangos sut mae cydweithio rhyngwladol yn cyfoethogi arfer greadigol a meithrin cysylltiadau diwylliannol hirdymor rhwng Cymru a'r byd.
Wrth sôn am y gyfres o bodlediadau, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Rydyn wrth ein bodd i ddod â 'Breaking Boundaries' yn ôl am ail gyfres, a dangos yr effaith ddofn y gall cydweithio artistig rhyngwladol ei gael. Mae'r gyfres yma'n edrych ar artistiaid o Gymru sydd wedi cysylltu ar draws ffiniau i greu gwaith newydd pwerus.
"Gan adeiladu ar waith gwych Hannah Loy, cyd-gynhyrchydd y gyfres gyntaf am y cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara, rydyn ni nawr yn teithio i Seland Newydd, Ffrainc, Fietnam, Brasil a thu hwnt. Mae'r cyfnewid creadigol yma'n creu tonnau sy'n llifo o Gymru allan i'r byd, yn ogystal â dod a'r byd i Gymru.
"Rydyn ni'n gwahodd cynulleidfaoedd i ymuno â ni i archwilio mentrau ym myd cerddoriaeth, llenyddiaeth, celfyddydau perfformio a chelfyddydau gweledol, a darganfod sut mae Cymru'n gwthio ffiniau creadigol ar y llwyfan rhyngwladol. Byddwn hefyd yn clywed am y gwersi mae gweithwyr creadigol yng Nghymru wedi'u dysgu gan eu cydweithwyr rhyngwladol, a sut mae hynny wedi dylanwadu arnyn nhw a'u gwaith. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli sefydliadau celfyddydol ac artistiaid eraill i gydweithio'n rhyngwladol."
"Mae cyflwyno 'Breaking Boundaries' wedi bod yn siwrne eithriadol o ddiddorol" meddai cyflwynydd y gyfres, Georgia Ruth. “Mae pob pennod yn ei thro'n dangos sut mae artistiaid o Gymru'n creu gwaith hynod drwy gyfnewid rhyngwladol.
“Yr hyn a darodd fi fwyaf oedd y llif ddwy ffordd o syniadau - mae ein hartistiaid yn gwneud mwy na dim ond mynd â'u gwaith dramor, maen nhw'n dod â safbwyntiau ffres yn ôl i Gymru: O gydweithio â cherddorion Māori i brofiad Joshua yn Fietnam, i waith Dirty Protest Theatre gyda chymunedau yn yr Amazon, mae'r partneriaethau hyn yn creu rhywbeth hollol newydd na fyddai'n gallu bodoli heb groesi ffiniau. Nid straeon Cymreig yn unig yw'r rhain, ond rhai rhyngwladol, sy'n dangos fod gan ein cenedl fach ni lais creadigol pwerus yn y sgwrs fyd-eang."
Bydd y gyfres bedair pennod newydd yma'n cael ei lansio ddydd Iau, 11 Ebrill, 2025, ar wefan British Council Cymru:
Mae'r gyfres yma o bodlediadau'n parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy'r celfyddydau ac addysg. Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru ar ein gwefan yma British Council Cymru neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.