Dydd Mercher 07 May 2025

 

Mae grŵp o fenywod sy'n ffoaduriaid a menywod mudol yn Abertawe yn cymryd rhan mewn prosiect pwerus newydd sy'n cysylltu eu straeon personol o fudo â newid yn yr hinsawdd.

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (menter ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) mewn cydweithrediad â Gŵyl Makassar yn Indonesia gan gysylltu menywod yn Abertawe â menywod brodorol ar ochr arall y byd.

Enw'r prosiect yw 'Lleisio Argyfwng yr Hinsawdd: Straeon Menywod o Gymru' ac mae'n cael ei gynnal gyda chymorth grant gan raglen y British Council, Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant. Mae'r prosiect yn cynnwys gweithdai creadigol lle mae'r menywod yn defnyddio barddoniaeth, straeon a delweddau i archwilio effaith y newid yn yr hinsawdd ar fywydau eu ffrindiau a'u teuluoedd yn eu gwledydd cartref - a sut mae'r straeon hynny'n cysylltu â'u bywydau yma yng Nghymru heddiw.

Wrth sôn am sut cafodd y prosiect ei greu, dywedodd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Heb Ffiniau: "Cysylltodd Gŵyl Makassar â ni; roedd ganddyn nhw syniad oedd yn cyd-daro â gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud - yn archwilio ymatebion creadigol i'r newid yn yr hinsawdd. Roedden nhw am ganolbwyntio ar brofiadau menywod brodorol yn Indonesia lle mae dinistr amgylcheddol yn cael effaith ddifrifol ar eu bywydau - yn enwedig effeithiau'r diwydiant torri coed, sy'n aml yn golygu eu bod yn cael eu gyrru o'u cartrefi. Ac wrth gwrs, gan mai menywod sydd fel arfer yn gweithio'r tir a darparu ar gyfer teuluoedd mae newid hinsawdd yn cael effaith anghymesur ar eu bywydau."

Ac er bod y menywod yn Abertawe a'r menywod yn Indonesia'n byw bywydau gwahanol iawn, maent yn rhannu'r un gwytnwch a dyfeisgarwch.

Dywedodd Alexandra: "Mae'r menywod yn cario cymaint o wybodaeth a phrofiad gyda nhw - nid dim ond o ran dechrau bywyd newydd yma yng Nghymru, ond hefyd am yr hyn y maent wedi ei adael ar ôl. Mae llawer ohonynt wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd rhyfel neu ansefydlogrwydd. Ond mae newid hinsawdd wedi chwarae rhan ym mhrofiad nifer ohonynt hefyd. Mae'r prosiect yma'n gyfle iddynt rannu'r stori honno a chnoi cil ar eu profiadau, gan dynnu ar atgof, iaith a dychymyg i hawlio eu lleisiau'n ôl drwy gelfyddyd. Bydd y menywod brodorol yn Indonesia yn eiriol a lleisio eu gwrthwynebiad drwy gasglu gwybodaeth ddiwylliannol am arferion gweithio'r tir, paratoi bwyd ac iachau.

"Bu'r partneriaid yn trafod y posibilrwydd o greu cyswllt uniongyrchol rhwng y ddau grŵp, ond roedd yr heriau a rhwystrau ieithyddol a threfniadol yn anferth. Yn hytrach, bydd ffrwyth llafur y prosiect yn cael ei gyflwyno ar lwyfan yr ŵyl. Bydd hyn yn ffordd o ddod â'r menywod at ei gilydd yn rhithwir a hwyluso cyfle i ddysgu ar y cyd."

Mae'r prosiect yn Abertawe yn cael ei arwain gan y bardd ac artist o Gymru, Rufus Mufasa, a Jeni Williams, sy'n gyn-ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ac sydd hefyd yn rhedeg grŵp cymorth yn y ddinas i fenywod sy'n ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches.

Dywedodd Alexandra: "Rydyn ni wedi cynnal dau gyfarfod wyneb yn wyneb hyd yma, ac mae gyda ni fwy o rai arlein ar y gweill. Mae Jeni wedi casglu grŵp anhygoel o fenywod at ei gilydd. Mae profiad creadigol gan rai o'r cyfranogwyr yn barod tra bod eraill ond yn dechrau archwilio a ffeindio eu lleisiau. Rwy'n gobeithio y bydd y prosiect yma'n eu helpu i deimlo'n fwy hyderus am fynegi eu hunain, boed hynny'n Saesneg neu yn eu mamiaith. Gobeithio hefyd y bydd yn ffordd ystyrlon iddyn nhw bontio eu gorffennol â'u presenol, a chysylltu eu gwledydd cartref â'u bywydau yma yng Nghymru."

Bydd y prosiect yn cyrraedd penllanw wrth i waith y menywod gael ei rannu yn Abertawe ar 27 Mai, ac yna'n rhyngwladol yng Ngŵyl Ysgrifenwyr Rhyngwladol Makassar yn Indonesia ar 1 Mehefin. Bydd gweithiau creadigol y menywod yn cael eu casglu ynghyd i'w cyflwyno mewn gwaith amlgyfrwng byr.

Mae hwn yn un o nifer o brosiectau yng Nghymru sydd wedi derbyn grant gan raglen y British Council, Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant. Nod y rhaglen yw hybu cydweithio artistig rhwng y DU a detholiad o wledydd yn Asia ac Ewrop. Ymysg y mentrau eraill sydd wedi derbyn nawdd mae prosiect gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n edrych ar sut y gall technoleg foderneiddio crefft ac arfer gwehyddu â gwŷdd llaw; prosiect cydweithio rhwng cenedlaethau gyda'r artistiaid Jo Fong a George Orange ac artistiaid yn Indonesia; a phartneriaeth rhwng Trac Cymru a Sefydliad Diwylliannol Matariki yn Seland Newydd sy'n archwilio naratifau cymunedau brodorol ledled y byd.

Rydyn ni newydd gyhoeddi galwad ariannu newydd ar gyfer 2025 - yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i gefnogi partneriaethau rhyngwladol gyda 19 o wledydd. Bydd tîm British Council Cymru'n cynnal sesiwn wybodaeth arlein yn benodol i Gymru ddydd Mercher 14 Mai. Bydd yn gyfle i weithwyr creadigol yng Nghymru ddysgu mwy am yr alwad ariannu newydd a chysylltu'n uniongyrchol â thîm British Council Cymru.

Wrth sôn am grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant, dywedodd Elena Schmitz, Pennaeth Celfyddydau, British Council Cymru: "Mae'r prosiect cydweithio yma'n casglu straeon personol pwerus drwy ddefnyddio creadigrwydd i archwilio un o heriau byd-eang mwyaf ein hoes: newid hinsawdd. Yr hyn sydd mor arbennig am y prosiect yw bod lleisiau menywod yn gwbl ganolog iddo - lleisiau nad ydynt yn aml yn cael eu cynrychioli'n ddigonol. Yma, maen nhw'n cael lle a chyfle i fyfyrio, cysylltu a chael eu clywed.

"Rydyn ni'n falch iawn i gefnogi mentrau o'r fath drwy ein rhaglen, Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant, sy'n hybu partneriaethau artistig rhwng Cymru a detholiad o wledydd yn Asia ac Ewrop. Os yw'r prosiect yma wedi'ch ysbrydoli, mae galwad ariannu newydd ar agor nawr ac rydyn ni'n annog gweithwyr creadigol yng Nghymru i wneud cais a pharhau i feithrin cysylltiadau diwylliannol ystyrlon."

I gael mwy o wybodaeth am grantiau rhaglen Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant a chofrestru ar gyfer y weminar, ewch i: https://wales.britishcouncil.org/cysylltiadau-drwy-ddiwylliant-2025

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i raglen grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant 2025 yw: Dydd Llun, 23 Mehefin 2025.

Mae rhaglen grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng Y DU a'r byd drwy addysg, y celfyddydau ac addysgu'r iaith Saesneg. Mae mwy o wybodaeth am waith British Council Cymru yng Nghymru ar gael yma https://wales.britishcouncil.org/ neu drwy ein dilyn ar X, Facebook neu Instagram. 

Nodiadau i olygyddion

Cysylltiadau'r cyfryngau, cysylltwch â:   

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council:

+44 (0)7542268752        E: Claire.McAuley@britishcouncil.org   

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad 

Rhannu’r dudalen hon