Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer ein rhaglen Grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant.
Mae grantiau o rhwng £5,000 i £10,000 ar gael i hybu cysylltiadau, cyfnewidiadau a phrosiectau cydweithio rhyngwladol rhwng y DU a'r gwledydd canlynol:
Awstralia, Armenia, Azerbaijan, Bangladesh, tir mawr Tsieina, Georgia, Indonesia, Kazakstan, Malaysia, Myanmar, Nepal, Seland Newydd, Ynysoedd y Philipinau, Sri Lanca, Gwlad Thai, Twrci, Fietnam, Wcráin ac Uzbekistan.
Rydyn ni'n arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan brosiectau sy'n adlewyrchu themâu amrywiaeth, cynhwysiant a newid yr hinsawdd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 23 Mehefin 2025.
Sesiwn Wybodaeth Benodol i Gymru:
Dyddiad: Dydd Mercher 14 Mai 2025
Amser: 13:00 BST
Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
Rydyn ni'n cynnal sesiwn wybodaeth ddwyieithog ar-lein yn benodol ar gyfer ymgeiswyr o Gymru. Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Trosolwg o raglen Grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant 2025
- Cyflwyniad i dîm British Council Cymru
- Cyfle i glywed am brofiad derbynnydd grant o raglen flaenorol
- Sesiwn Holi ac Ateb