Dydd Mawrth 23 Awst 2016

 

Mae’r adroddiad diweddaraf ar Brosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia yn dangos bod y nifer y dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth yn parhau i gynyddu. 

Yn 2015, roedd cyfanswm o 1220 o Batagoniaid yn dysgu Cymraeg o’i gymharu â 1174 yn 2014 - y nifer uchaf o ddysgwyr ers dechrau’r prosiect yn 1997 gyda 537 o ddysgwyr.

Mae Adroddiad Monitro Blynyddol Prosiect yr Iaith Gymraeg 2015, sy’n cael ei redeg gan British Council Cymru, hefyd yn nodi bod y nifer y gwersi Cymraeg yn y rhanbarth wedi cynyddu i 104; o’i gymharu â 90 yn 2014, 83 yn 2013 a 79 yn 2012. 

Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Yn ogystal â pharhau i reoli’r Prosiect ar ran Llywodraeth Cymru yn 2015, fe wnaethom hefyd gydlynu Patagonia 150, sef y dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers i'r ymsefydlwyr cyntaf o Gymru gyrraedd Patagonia. Adeiladwyd cysylltiadau newydd rhwng sefydliadau yng Nghymru a Patagonia. Ar ôl blwyddyn lwyddiannus o ddigwyddiadau rydym yn falch fod yr adroddiad yn dangos bod y gwaith o ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg yn y Wladfa yn gryfach nag erioed.”

Dywedodd Clare Vaughan, cydlynydd dysgu sydd wedi’i lleoli ym Mhatagonia: “Cyn i’r flwyddyn ddechrau fe wnaethom drafod y dathliadau i nodi’r ymsefydlwyr cyntaf gyrraedd Patagonia, ond nid oeddem yn disgwyl blwyddyn mor brysur o waith a gweithgareddau. Mae wedi bod yn wych cael croesawu gymaint o bobl i’r cymunedau yma ac rwy’n gobeithio y cafodd pawb a fu’n ymweld â ni deimlo’r wefr o gael siarad iaith eu hunain a hynny mor bell o adref. Roedd y flwyddyn yn bwysig iawn i adfywiad yr iaith a’r diwylliant yn y Wladfa ac rydym wir yn gobeithio y cafodd y dathliadau yr un math o effaith ar ein hymwelwyr.”

Dywedodd Rhisiart Arwel, monitor academaidd y prosiect: “Mae’r ffaith fod y Prosiect yn parhau i ddenu dysgwyr Cymraeg ar ôl bron i 20 mlynedd yn arwydd glir bod aelodau’r Wladfa yn dal i deimlo cysylltiad cryf a’r iaith. Yn ogystal â’r cynnydd yn y nifer o ddysgwyr, gwelwyd cannoedd o bobl leol yn cymryd rhan yn nathliadau Patagonia 150 yn 2015. Fe wnaethom hefyd ddathlu agoriad adeilad newydd Ysgol Gymraeg y Gaiman ac agoriad ysgol newydd yn Nhrevelin, Ysgol y Cwm.”

Bydd blwyddyn nesaf yn nodi 20 mlynedd ers dechrau Prosiect yr Iaith Gymraeg. 

Nodiadau i olygyddion

Ers 1997 mae Prosiect yr Iaith Gymraeg (WLP) wedi bod yn hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut, Patagonia, Yr Ariannin. Bob blwyddyn mae tri Swyddog Datblygu Iaith o Gymru yn treulio cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr yn dysgu ym Mhatagonia. Maent yn datblygu'r iaith mewn cymunedau sy'n siarad Cymraeg drwy ddysgu ffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol anffurfiol.

Mae Cydlynydd Dysgu parhaol o Gymru hefyd wedi'i leoli ym Mhatagonia. Nhw sy'n gyfrifol am ansawdd y dysgu. 

Mae'r prosiect hwn sy'n cynnwys ymweliadau cyfatebol, addysgu a hyfforddiant wedi ennill cydnabyddiaeth a llwyddiant yn rhyngwladol. Am ragor o fanylion ar gwmpas, dulliau a llwyddiant y prosiect, lawrlwythwch yr adroddiad blynyddol diweddaraf. 

Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Cymru-Ariannin a British Council Cymru yn ariannu'r prosiect hwn, sy'n rhan o'r Rhaglen Addysg Rhyngwladol. Er nad yw llywodraeth Chubut wedi darparu cyllid uniongyrchol, mae wedi cefnogi'r gwaith o ddysgu Cymraeg a'r gymuned Gymraeg ehangach.

 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon