brown man with grey beard performing in a production called Tanashah
 Navtej Singh Johar performing in Tanashah (2018)  ©

Simrat Dugal 

Dydd Mawrth 15 Mehefin 2021

 

Mae artistiaid, sefydliadau celfyddydol a gwyliau o Gymru yn cydweithio gyda chymheiriaid yn India i greu chwech o brosiectau celf newydd.

Bydd y prosiectau’n rhannu £60,000 o ariannu drwy gynllun grantiau British Council Cymru, Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India Cymru,sy’n cael ei gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Nod y cynllun yw datblygu sgiliau creadigol a meithrin gallu ar gyfer artistiaid a gwyliau yn India a Chymru yn ogystal â chreu perthnasoedd hir-dymor rhwng y ddwy wlad.

Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe yn cydweithio gyda’r Oriel Wyddoniaeth (Science Gallery) yn Bengaluru a Chymdeithas Amgueddfeydd Mumbai i archwilio’r cysylltiadau diwydiannol rhwng Cymru ac India. 

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a sefydliad Dream a Dream sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn Bangalore yn cydweithio ar brosiect celf digidol lle bydd pobl ifanc o Gymru ac India yn defnyddio gwahanol ffurfiau celf i greu gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy a ffyniannus.

Bydd y cynhyrchydd theatr o Gaerdydd, Jonny Cotsen, a Siddhant Shah o ymgynghoriaeth Access For All yn India yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu maniffesto ar gyfer celf hygyrch a fydd yn arwain at greu gŵyl gelfyddydau holl-gynhwysol yn dathlu artistiaid a chynulleidfaoedd ag anableddau.

Bydd cylchgrawn Welsh Arts Review a chwmni cynhyrchu Meta Arts o Bangalore yn cydweithio ar fenter lle bydd chwech o artistiaid o Gymru ac India yn cael eu paru i ddatblygu cynhyrchiad celf i bobl ifanc a fydd yn teithio i wyliau a chanolfannau allweddol yn y ddwy wlad.

Bydd y dramodydd, Kaite O’Reilly, a’r coreograffydd, Navtej Singh Johar, yn cydweithio ar gynhyrchiad yn archwilio dau gysyniad canolog: y gair Cymraeg, ‘hiraeth’ -  dyhead ac ymdeimlad dwfn am gartref a mamwlad; a’r gair Pwnjabeg, ‘biraha’ - galwad y galon sydd wedi cael ei gwahanu.

Bydd yr artist o Gymru, Marc Rees, yn gweithio gyda’r Pickle Factory Dance Foundation o Kolkata, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gŵyl Durga Puja yn Kolkata. Byddant yn creu canolfan rithwir gydag artistiaid o’r ddwy wlad.

Mae cynllun Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen India Cymru, sef rhaglen ariannu ar y cyd rhwng y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru a oedd yn nodi dathlu saith deg o flynyddoedd o annibyniaeth yn India.

Fe gefnogodd rhaglen India Cymru dros 2000 o gyfranogwyr ar draws 13 o brosiectau ym meysydd theatr, dawns, ffilm, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol a chymhwysol. Cafodd dros 80,000 o bobl eu denu i weithgareddau’r rhaglen yng Nghymru ac India.

Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae rhychwant a dyfeisgarwch y prosiectau newydd yma’n dysteb i greadigrwydd yng Nghymru ac India ac i’r cynydd mewn cydweithio a chryfder y cysylltiadau a gafodd eu meithrin ers cychwyn ein gwaith gyda rhaglen India Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weld datblygiad a ffrwyth llafur pob un o’r prosiectau.”

Dywedodd Barbara Wickham OBE, cyfarwyddwr, British Council India: “Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi enwau’r prosiectau sy’n derbyn grantiau rhaglen Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant India a Chymru. Wedi derbyn nifer o geisiadau gwych, rydyn ni’n teimlo’n gyffrous am weld y casgliad o brosiectau celfyddydol a diwylliannol rhagorol yma’n datblygu a dwyn ffrwyth.”

“Nod y grantiau yw adeiladu pontydd llawn dychymyg rhwng India a’r Deyrnas Unedig a chryfhau datblygiad diwylliant a’r economi greadigol, yn enwedig rhwng artistiaid a gwyliau celfyddydau. Wrth i ni edrych ymlaen at ddathliadau 75 mlynedd o annibyniaeth yn India yn 2022, bydd y prosiectau yma’n galluogi artistiaid, sefydliadau celfyddydol a gwyliau yn y ddwy wlad i gysylltu, creu a chydweithio.”

Mae’r British Council yn arddangos y gorau o gelfyddydau a diwylliant y Deyrnas Unedig dramor. Mae grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant yn adlewyrchu uchelgais y British Council i hybu cydweithio cyfartal rhwng India a Chymru er budd y naill a’r llall, ac i ddarparu platfformau newydd i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd y ddwy wlad i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

Nodiadau i olygyddion

 Navtej Singh Johar yn perfformio mewn Tanashah (2018) © Simrat Dugal 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Llynedd, gwnaethom ymgysylltu â thros 80 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 791 miliwn o bobl i gyd - gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r gwledydd yr ydym yn gweithio gyda nhw - yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon