Y Rhaglen
Mae’r cynllun grantiau yma’n gyfle i adeiladu ar lwyddiant rhaglen India Cymru – rhaglen ariannu ar y cyd rhwng y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae hefyd yn gyfle i fanteisio ar gyfraniad Cymru i weithgareddau Blwyddyn Diwylliant y Deyrnas Unedig ac India yn 2017 - rhaglen o ddigwyddiadau yn dathlu 70 mlynedd o annibyniaeth yn India. Roedd India-Cymru yn rhaglen uchelgeisiol a roddodd gefnogaeth i dros 2000 o gyfranogwyr ar draws 13 o brosiectau ym meysydd theatr, dawns, ffilm, llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol a chymhwysol. Cafodd dros 80,000 o bobl yng Nghymru ac India eu denu i ddigwyddiadau India-Cymru, ac fe lwyddodd gweithgareddau’r rhaglen i gyrraedd mwy na 4.9 miliwn o bobl drwy gyfryngau cymdeithasol.
Gwyliwch y ffilm fer yma - sy’n dathlu’r cysylltiadau a’r perthnasoedd hynny; y cydweithio rhwng ein dwy wlad, y cyfnewid diwylliannol a’r datblygu artistig, a phŵer cysylltiadau rhwng pobl drwy gyfryngau digidol.
Dyma’r prosiectau cydweithio sy’n derbyn cefnogaeth gan raglen ‘Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru’ ar hyn o bryd:
2022-2023
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Dream a Dream
Mae ‘A Thriving Future for Us’ yn brosiect cydweithio creadigol rhwng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, canolfan gelfyddydau aml-bwrpas yng ngorllewin Cymru, a Dream a Dream, menter yn Bangalore, India sy’n gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau. Mae’r prosiect yn darparu platfform i bobl ifanc rhwng 12 – 18 oed o’r ddwy wlad i gydweithio ar brosiect celf ddigidol sy’n ffocysu ar greu dyfodol cynaliadwy a ffyniannus.
Mae artistiaid o Bangalore (sy’n gweithio drwy ArtFlute) ac Aberystwyth wedi bod yn cydweithio i ddyfeisio rhaglen o weithdai rhyngweithiol i bobl ifanc sy’n defnyddio dulliau creadigol o adrodd straeon, animeiddio a thechnoleg ddigidol i archwilio eu perthynas bersonol â’r syniad o ddyfodol cynaliadwy.
Yn 2022 bydd y prosiect yn ffocysu ar gynhyrchu gwaith – drwy weithio ar ffilm dan adain teitl cyffredinol - ‘Time to Change’. Bydd y cyfranogwyr yn defnyddio dulliau a thechnegau a ddysgwyd yng nghymal cyntaf y prosiect. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgyrsiau mwy cyffredinol a ddeilliodd o’r prosiect cyntaf gan ddefnyddio thema ganolog ‘Amser’ a sut mae’n berthnasol i ni, a’r effaith yr ydym yn ei gael ar yr amgylchedd.
Jonny Cotsen ac Access For ALL
Mae’r perfformiwr byddar a’r ymgynghorydd creadigol o Gymru, Jonny Cotsen, yn cydweithio gydag Access For ALL, ymgynghoriaeth ar gyfer hygyrchedd yn y celfyddydau yn India i ddatblygu ‘Maniffesto ar Gyfer Celf Hygyrch’ (Manifesto for Accessible Art - MAAF) a fydd yn gwneud hygyrchedd yn brif flaenoriaeth wrth gynllunio gŵyl gelfyddydau, gynhwysol i bawb sy’n dathlu artistiaid a chynulleidfaoedd ag anableddau.
Nod y prosiect oedd symud i ffwrdd o ddiwylliant sy’n ffafrio pobl abl ym myd y celfyddydau (sydd yn aml yn cael ei lywio gan bobl nad ydynt yn anabl) a grymuso pobl sydd ag ableddau amrywiol.
Preswyliad digidol i chwech o artistiaid ag anableddau o’r ddwy wlad oedd prif ffocws y prosiect. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw greu pecyn cymorth i fynd i’r afael â’r ystyriaethau cymleth sy’n codi wrth sgowtio am dalent anabl, darparu llwyfan i artistiaid ag anableddau a chynrychiolaeth ar eu cyfer, a chynllunio mannau hygyrch (ffisegol a digidol) ar gyfer cynulleidfaoedd ag anableddau. Yn 2022, bydd y prosiect yn datblygu a churadu fersiwn beilot o’r Ŵyl Gelfyddydau Hygyrch / The Accessible Arts Festival (TAAF).
Kaite O’Reilly a Navtej Singh Johar
Mae Kate O’Reilly yn ddramodydd, dramodydd radio, ysgrifennwr a dramatwrg o Gymru sy’n gweithio ym maes celfyddydau a diwylliant anabledd a diwylliant prif ffrwd yn cydweithio gyda’r coreograffydd nodedig o India, Navtej Johar.
Mae prosiect ‘The Land is calling through the body’ yn gyfrwng i rannu ymarfer greadigol, traddodiadau a phrosesau drwy archwilio’r cysylltiadau rhwng diwylliant, y corff, y llais, traddodiad a’r tir clwyfedig gydag artistiaid o India a Chymru.
Mae artistiaid o India a Chymru wedi bod yn archwilio’r cysyniadau hyn drwy rannu barddoniaeth a chaneuon Sufi Pwnjabeg, offerynnau traddodiadol o India (y sarod a’r tabla), a chaneuon ac offerynnau traddodiadol o Gymru (y delyn a’r crwth).
Nawr, wedi cyfnod llwyddiannus o ymchwil a datblygu bydd partneriaid creadigol y prosiect yn creu cyfres o ffilmiau dawns/cerddoriaeth/symudiad byr rhyng-gysylltiedig a fydd yn cael eu dangos mewn gwyliau digidol rhyngwladol.
Wales Arts Review a Meta Arts
Roedd Intercut Labs yn fenter ymchwil a gynhaliwyd dros 10 mis - ar y cyd rhwng Wales Arts Review, gwefan adolygu’r celfyddydau, a Meta Arts, sefydliad celfyddydol yn India sy’n arbenigo mewn gwaith rhyngwladol. Drwy’r prosiect cafodd chwe artist o Gymru ac India eu paru i gydweithio mewn tri labordy diwylliannol rhithwir i greu cynhyrchiad celfyddydol rhyngddisgyblaethol i bobl ifanc i’w deithio i wyliau a chanolfanau celf allweddol yn y ddwy wlad.
Yn 2022, bydd y prosiect yn cael ei ail-enwi yn ‘Intercut Tales’ – prosiect celfyddydau digidol rhyngddisgyblaethol ar gyfer pobl ifanc 13-17 oed yng Nghymru ac India. Bydd ‘Intercut Tales’ yn addasu a rhoi gwedd newydd ar chwedlau gwerin a’u gosod yn y presennol gan greu cynhyrchiad celf i gyffroi’r holl synhwyrau - i’w ddangos mewn gwyliau a chanolfannau yn y ddwy wlad.
Prosiectau 2021-2022, cyfnod ymchwil a datblygu:
Yr Athro Marc Rees a Pickle Factory Dance Foundation
Mae CRO | PAN yn fenter greadigol ar y cyd rhwng yr artist gosodweithiau o Gymru, Yr Athro Marc Rees, a Pickle Factory, canolfan ddawns yn Kolkata yn India. Maent wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Drwy gydweithio’n ddigidol, bu’r prosiect yn archwilio gwyliau yn y ddwy wlad, sef Eisteddfod Genedlaethol Cymru - gŵyl ddiwylliannol; a Durga Puja – gŵyl grefyddol gymdeithasol-ddiwylliannol gymunedol yn Kolkata.
Mae CRO | PAN yn sgwrs rhwng artistiaid sy’n ystyried a thrafod ein hoes hybrid a’r dyfodol yr ydym yn ei ddychmygu. Mae’r sgwrs yn digwydd mewn dau o strwythurau dros dro: CROMEN yng Nghymru a PANDAL yn India. Bydd y GROMEN yn cael ei chodi ar safle’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yng Ngorllewin Cymru. Yno, bydd artistiaid o Gymru yn ymateb i daith ddigidol drochol i BANDALAU Durga Puja yn India.
Bydd y prosiect yn cyrraedd penllanw gyda gosodwaith wedi’i gynllunio ar y cyd gan nifer o artistiaid o Gymru ac India. Bydd hwn yn cael ei droi’n fflach-ganolfan mewn parc yn Kolkata yn ystod gŵyl Durga Puja - i gyflwyno cymysgedd o raglenni byw a digidol gydag artistiaid a chynulleidfaoedd yn y ddwy wlad. Wedi hynny, bydd CRO | PAN yn cael ei ail-greu ar gyfer ‘Season Three: Take The City’ - digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan y Pickle Factory ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd o’r ddwy wlad.
Oriel Gelf Glynn Vivian a’r Oriel Wyddoniaeth yn Bengaluru
Roedd y prosiect yma’n archwilio celfyddyd a diwydiant yn India a Chymru. Bu Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, De Cymru, yn cydweithio gyda sefydliadau ac unigolion yn India - Oriel Wyddoniaeth Bengaluru, canolfan i danio diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a’r celfyddydau; Cymdeithas Amgueddfeydd Mumbai (dan ofal Pheroza Godrej); a’r hanesydd celf, Zehra Jumabhoy.
Mae’r cysylltiadau diwydiannol rhwng India a Chymru yn ymestyn o’r cyfnod ymerodrol hyd heddiw. Gwnaeth teulu Glynn Vivian ei ffortiwn drwy weithgynhyrchu copr a’i allforio ledled yr Ymerodraeth Brydeinig.
Erbyn heddiw, y teulu Tata o India yw perchnogion y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot yn Ne Cymru. Bu’r prosiect yn gyfrwng i archwilio’r hanes diwydiannol cordeddog yma yn ogystal ag edrych ar y sefyllfa bresennol drwy gyfres o ddigwyddiadau digidol rhyngddisgyblaethol yn dadansoddi’r rhyng-berthynas rhwng celfyddyd, gwyddoniaeth a diwydiant gan ddod ag artistiaid, curaduron, ysgrifenwyr, haneswyr celf, haneswyr, gwyddonwyr ac economegwyr o India a Chymru at ei gilydd.