Bydd addysg uwch yng Nghymru o dan y chwyddwydr pan fydd cynrychiolwyr o Brifysgolion o Frasil yn ymweld â Chymru rhwng 21 a 23 Medi.
Mae'r ymwelwyr yn uwch academyddion sydd â chyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol mewn 10 o brifysgolion gorau Brasil ac yn aelodau o FAUBAI sef Cymdeithas Addysg Ryngwladol Brasil.
Dywedodd Chris Lewis, pennaeth addysg yn British Council Cymru sy'n cynnal y digwyddiad: “Nod yr ymweliad yw dechrau sgwrs rhwng sectorau addysg uwch Cymru a Brasil ynglŷn â sut y gallant gydweithio yn y dyfodol.
Mae gan Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe 200 o israddedigion o Frasil eisoes, sy'n nifer anhygoel. Mae'r myfyrwyr yn mynychu'r brifysgol fel rhan o raglen 'Gwyddoniaeth heb Ffiniau' llywodraeth Brasil, sy'n sicrhau bod ymchwilwyr a myfyrwyr gorau Brasil yn datblygu eu sgiliau yn y prifysgolion gorau ledled y byd.''
Bydd y grŵp o Frasil yn ymweld â'r Coleg Peirianneg ac yn dysgu mwy am y car supersonig Bloodhound sydd wrthi'n cael ei ddatblygu yno.
Bydd Addysg Uwch Cymru yn siarad â'r ymwelwyr am addysg uwch yng Nghymru a'r hyn y gall ei gynnig. Bydd cynrychiolwyr o Brifysgolion Cymru hefyd yn clywed am sector prifysgolion Brasil.