Dydd Llun 14 Ionawr 2019

 

Mis Ionawr yma, mae Kolkata yn pararoi i brofi blas amlwg theatr, iaith a llenyddiaeth Gymreig. 

Bydd y pedwar o artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru’n teithio i Kolkata, a nodir yn aml fel prifddinas ddiwylliannol India, i gyflwyno gweithiau artistig o fyd theatr, dawns a llenyddiaeth Cymru.

Mae’r criw o Gymry’n cynnwys dau gwmni – Light, Ladd and Emberton (LL&E) a Theatr Iolo – fydd yn perfformio yn y Kolkata Literary Meet, un o’r gwyliau fwyaf mawreddog yn y wlad ac mewn lleoliadau eraill.  

Yn ogystal â chyflwyno cynhyrchiadau yng ngwyliau mawr eu bri Kolkata a chynnal gweithdai gydag ysgolion lleol, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau, fe fyddan nhw hefyd yn cyfrannu i sesiynnau panel ac yn traddodi darlithoedd yng ngwmni rhai o leisiau diwylliannol mwyaf amlwg India.

Mae gŵyl Cymru yn Kolkata yn dymor o weithgareddau a chydweithio celfyddydol sy’n derbyn cefnogaeth gan y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Fe ddeilliodd o’r perthnasau a’r rhwydweithiau a sefydlwyd yn ystod tymor #IndiaCymru yn 2017-18 - rhaglen o bwys a sbardunodd gydweithio artistig rhwng Cymru ac India gan agor y drws i rwydweithiau diwylliannol parhaol rhwng y ddwy wlad.

Bydd Light, Ladd & Emberton, mewn partneriaeth gyda Pickle Factory Dance Foundation o Kolkata, yn perfformio ‘Caitlin’, cynhyrchiad dawns ymdrwythol a ddewiswyd ar gyfer Arddangosfa Caeredin y Cyngor Prydeinig yn 2017. Mae’r sioe, sydd wedi ennill clod mawr, yn olrhain perthynas dymhestlog y bardd Cymreig poblogaidd Dylan Thomas a’i wraig, Caitlin.

Cyflwynir y perfformiadau yn neuadd Goethe-Institut / Max Mueller Bhavan ar ddydd Mawrth yr 22ain o Ionawr a dydd Iau’r 24ain o Ionawr am 7pm, a dydd Gwener y 25ain o Ionawr am 6pm / 8pm. Pris tocynnau yw Rs. 500 a gellir eu prynu yma .

Yn ystod yr ŵyl bydd perfformwyr Light, Ladd & Emberton hefyd yn cynnal gweithdai i rannu eu sgiliau a’u gwybodaeth greadigol – yn gyntaf gyda myfyrwyr Kala Bhavan yn Santiniketan, ac yna mewn gweithdai agored ar gyfer mynychwyr theatr brwd yn Kolkata.

Bydd Eddie Ladd, un o artistiaid dawns a pherfformio amlycaf Cymru ac un o berfformwyr ‘Caitlin’ yn arwain trafodaeth banel, ‘Athrylithoedd Cythryblus: Dylan Thomas a Manto’, gyda Ayesha Jalal a Samantak Das yng Nghwrdd Llenyddol Kolkata yn neuadd y Victoria Memorial ar y 26ain o Ionawr am 3.20pm. Gall deiliaid tocynnau’r ŵyl fynychu’r digwyddiad yma.

Mae Theatr Iolo, sydd wedi ennill bri am greu theatr ystyrlon i gynulleidfaoedd ifanc, yn barod i hudo Kolkata gyda pherfformiad o ‘Transporter’ (wedi ei ysgrifennu a’I pherfformio gan Catherine Dyson) sy’n cario’r gynulleidfa ar daith ysgubol drwy bob math o straeon wrth ddilyn hynt a helynt merch ifanc o’r enw Maya.

Bydd Theatr Iolo yn gweithio mewn partneriaeth gyda Think Arts o Kolkata – cwmni sy’n gweithio ym maes celfyddydau ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Fe fyddan nhw’n cynnal gweithdai a chyflwyno perfformiadau yn Academi Gelfyddydau a Diwylliant Birla a’r Modern High School for Girls. Bydd Cyfarwyddwr Artistig gwobrwyedig Theatr Iolo, Lee Lyford, hefyd yn rhan o ddirprwyaeth y cwmni yn Kolkata. Perfformir Transporter ar y 23ain o Ionawr am 6pm fel rhan o Gwrdd Llenyddol Iau Kolkata, yn neuadd y Victoria Memorial. Mae’r sioe’n agored i’r cyhoedd ac yn addas i bobl ifanc 16+ oed. Ni fydd angen tocyn i fynychu’r sioe, ond bydd angen cofrestru ymlaen llaw. 

Mae’r ŵyl Cymru yn Kolkata, yn cynnwys perfformiadau, darlithoedd, darlleniadau a gweithdai i bob creadigol, myfyrwyr ysgol a phobl proffersiynol ym myd y cyfryngau.

Bydd yr Athro Daniel Williams yn traddodi darlith Dylan Thomas yn adeilad y Cyngor Prydeinig yn Kolkata. Yn yr un sesiwn, bydd cyflwyniad gan Dr Elaine Canning i Wobr Ryngwladol Dylan Thomas yn bwrw golau ar y wobr lenyddol arbennig yma i ysgrifennwyr ifanc. Fe fyddan nhw hefyd yn cynnal gweithdai ac yn traddodi darlithoedd am fywyd, gwaith ac ysbrydoliaeth Dylan Thomas mewn canolfannau gan gynnwys Llyfrgell Bolisi Kolkata ar yr 22ain o Ionawr am 4pm ac Ysgol Ryngwladol South City.

Yn ogystal, traddodir darlith am Dylan Thomas a’r tebygrwydd rhwng gweithiau Celtaidd ac Indiaidd yn Llyfrgell y Cyngor Prydeinig ar y 24ain o Ionawr am 7pm. Wedi hynny bydd yr Athro Williams a Dr Canning yn teithio i ffair lenyddiaeth fwyaf y byd, Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, i rannu gwybodaeth gyda mynychwyr yr ŵyl am Wobr Dylan Thomas.

Bydd Gary Raymond, nofelydd a golygydd nodedig Wales Arts Review, yn rhan o ddirprwyaeth Cymru yn Kolkata. Mewn cydweithrediad gyda BEE Books (cyhoeddwyr o India) a’r Cyngor Prydeinig, bydd yn lansio cyfrol newydd,‘Renegade Wales: Revolutionary New Voices in Welsh Fiction’, detholiad o straeon byrion gan awduron Cymreig. Bydd hefyd yn mynychu Gŵyl Lenyddiaeth Kolkata a Ffair Lyfrau Kolkata ar yr 2il o Chwefror. Mae nofelau Gary Raymond wedi derbyn clod mawr gan feirniaid. Dywedodd ‘The Bookseller’ fod ei nofel, ‘The Golden Orphans’ (a gyhoeddwyd yng Nghymru gan Parthian) yn “...brilliant and unnerving”. Bydd Gary hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol mewn canolfannau fel Sefydliad Cyfryngau a Rheolaeth iLead ar y 21ain o Ionawr am 1.30pm a’r Kolkata Press Club ar y 25ain o Ionawr am 1pm.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n bleser gweld y cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac India yn mynd o nerth i nerth, yn arbennig yn sgîl y gwaith ardderchog a wnaethpwyd fel rhan o’r Tymor India/Cymru 2017-18,  ac hefyd gan mai Cymru yw’r wlad nodwedd yng Ngŵyl Lenyddiaeth Kerala eleni. Unwaith eto bydd y gorau o Gymru’n cael ei arddangos i gynulleidfaoedd o’r India, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r cyfranogwyr yn yr Ŵyl.”

Dywedodd Debanjan Chakrabarti, Cyfarwyddwr y British Council Dwyrain a Gogledd-ddwyrain India: “Drwy ein gwaith yn y celfyddydau rydym yn bwriadu ysbrydoli a chyffroi pobl a gwneud cysylltiadau cynaliadwy yn y DU ac India. Mae’r pedwar sefydliad o Gymru a’u partneriaid yn India wedi cael y cyfle i weithio’n agos dros y ddwy flynedd diwethaf gyda chefnogaeth gan y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Ym mis Ionawr 2019 mae’n bleser gennym groesawu’r cwmnïau Cymreig i Kolkata ac yn gobeithio y byddant yn gwneud cysylltiadau dyfnach ac ehangach yn Nwyrain a Gogledd-ddwyrain India”.

Dywedodd Rebecca Gould. Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru: “Mae hyn yn gyfle gwych i arddangos rhai o alluoedd artistig a chreadigol o Gymru yn Kolkata. Rydym wrth ein boddau bod y pedwar sefydliad wedi creu cysylltiadau dwfn gyda Kolkata o ganlyniad i’w cysylltiad â thymor #IndiaCymru 2017/18. Mae’r fenter, sydd wedi’i chefnogi gan y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi gweld 15 o sefydliadau celfyddydau o Gymru yn gweithio ar y cyd gyda phartneriaid o India, nifer o’r rheiny wedi’u lleoli yn Kolkata, er mwyn dangos gwerth buddsoddi mewn cydweithrediadau celfyddydau rhyngwladol, a chefnogi rhyngwladoli’r sector celfyddydau yng Nghymru a’i chyfranogiad mewn gwyliau rhyngwladol.”

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Y llynedd, ymgysyllton ni â mwy na 75 miliwn o bobl yn uniongyrchol a 758 miliwn o bobl i gyd, gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – rydym yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin hyder. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig a gaiff ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon