Yn Ionawr 2019, bydd pedwar o artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru’n teithio i Kolkata, a nodir yn aml fel prifddinas ddiwylliannol India, i gyflwyno gweithiau artistig o fyd theatr, dawns a llenyddiaeth Cymru.
Yn ogystal â chyflwyno cynhyrchiadau yng ngwyliau mawr eu bri Kolkata a chynnal gweithdai gydag ysgolion lleol, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau, fe fyddan nhw hefyd yn cyfrannu i sesiynnau panel ac yn traddodi darlithoedd yng ngwmni rhai o leisiau diwylliannol mwyaf amlwg India.
Mae gŵyl Cymru yn Kolkata yn dymor o weithgareddau a chydweithio celfyddydol sy’n derbyn cefnogaeth gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Fe ddeilliodd o’r perthnasau a’r rhwydweithiau a sefydlwyd yn ystod tymor #IndiaCymru yn 2017-18 - rhaglen o bwys a sbardunodd gydweithio artistig rhwng Cymru ac India gan agor y drws i rwydweithiau diwylliannol parhaol rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae’n bleser gweld y cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac India yn mynd o nerth i nerth, yn arbennig yn sgîl y gwaith ardderchog a wnaethpwyd fel rhan o’r Tymor India/Cymru 2017-18, ac hefyd gan mai Cymru yw’r wlad nodwedd yng Ngŵyl Lenyddiaeth Kerala eleni. Unwaith eto bydd y gorau o Gymru’n cael ei arddangos i gynulleidfaoedd o’r India, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r cyfranogwyr yn yr Ŵyl."