Mae ysgolion yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd i wrthdroi’r dirywiad mewn addysgu ieithoedd modern - mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf yn yr ardaloedd difreintiedig
• Eleni mae’r arolwg Tueddiadau Ieithoedd Cymru’n dangos mai yn y mwyafrif o’r ysgolion – mwy na dwy draean – mae llai na 25% o’r myfyrwyr yn dysgu un o ieithoedd tramor modern (ITM) hyd at lefel TGAU
• Mae’r ysgolion yn yr ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o weld nifer llai o ddisgyblion yn dysgu ITM
• Mae cefnogaeth helaeth i uchelgais Llywodraeth Cymru i ITM gael eu dysgu i ddisgyblion iau, ond mae’r ysgolion cynradd eisiau cael mwy o adnoddau a hyfforddiant.
Mae’r ail arolwg cenedlaethol yn edrych ar addysgu ITM yng Nghymru wedi darganfod bod ysgolion yn ei chael hi’n anodd i gynyddu’r niferoedd sydd yn sefyll arholiadau TGAU, gyda’r niferoedd isaf i’w gweld mewn ardaloedd difreintiedig
Mae dyfodiad Bagloriaeth Cymru wedi arwain at lai o opsiynau amserlen ar gyfer disgyblion sydd yn dysgu ITM. Mae dysgu iaith yn cael ei ystyried yn anodd gan ddisgyblion, sydd ddim wedi cael digon o amser i fagu hyder ym maes ITM, gyda llawer ohonynt yn dysgu iaith dramor ym mlwyddyn 7 ac 8 yn unig am lai na 2 awr yr wythnos, sef y cyfanswm lleiaf a awgrymir gan y llywodraeth.
Mae Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2016 wedi edrych ar y sefyllfa mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag uwchradd am y tro cyntaf, o ganlyniad i uchelgais Llywodraeth Cymru i ddysgu ieithoedd modern o flwyddyn 5 ymlaen yn yr ysgolion cynradd i ddatblygu Cymru’n wlad ddwyeithog + 1 (Cymraeg a Saesneg ac iaith fodern tramor).
Mae’r arolwg a gomisiynwyd gan British Council ac Education Development Trust yn dangos bod y mwyafrif o ysgolion cynradd yn cefnogi’r syniad o ddysgu ieithoedd modern ar y lefel cynradd, ond maent yn pryderu ynglŷn â sut gellir cyrraedd yr amcan hwnnw heb gyllid a hyfforddiant ychwanegol.
Mae’r ysgolion uwchradd yn derbyn clod yn yr arolwg am y gwaith maent yn ei wneud i ennyn diddordeb y disgyblion yn ITM a chynyddu’r niferoedd sydd yn sefyll arholiadau TGAU. Serch hynny, mae’r ysgolion sydd yn gweithio mewn cyd-destynau mwy difreintiedig yn llai tebygol o ymrwymo i hyrwyddo ITM ymhlith y disgyblion, sydd ddim yn canfod gwerth dysgu iaith dramor fel arfer.
Mae Cyfarwyddwr British Council Cymru, Jenny Scott, yn dweud: “Mae’r arolwg yn dangos bod cynllun Llywodraeth Cymru Dyfodol Byd-Eang yn gwella agweddau tuag at ddysgu ieithoedd tramor modern. Mae’n rhy gynnar i farnu a fydd effaith gadarnhaol ar y niferoedd sydd yn sefyll arholiadau TGAU a Lefel A faes o law, ond rydym yn pryderu am y diffyg diddordeb yn yr ysgolion sydd yn gweithio mewn cyd-destynau mwy difreintiedig. Rydym yn gwybod bod cyfleoedd rhyngwladol, boed hi’n brofiad gwaith, gwirfoddoli neu astudio ar lefel bellach neu uwch, yn gwella rhagolygon swyddi. Mae profiad rhyngwladol yn arbennig yn gallu trawsnewid bywyd pobl ifainc sydd ddim wedi tyfu gyda’r un manteision â’u cyfoedion. Mae sgiliau ieithyddol elfennol yn gallu rhoi person ifanc yr hyder i weithio, astudio neu wirfoddoli tramor – ni ddylem adael neb o’r genhedlaeth ifanc i golli’r cyfleoedd hyn.
Tony McAleavy, Education Development Trust, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgynghoriaeth, a ddywedodd: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos mai, er yr agweddau cadarnhaol tuag at ieithoedd tramor modern yn ysgolion Cymru, mae nifer o ffactorau’n cadw’r niferoedd yn isel. Serch hynny, rydym yn optimistaidd ym marn yr athrawon ei bod hi’n bosibl newid y sefyllfa drwy nifer o weithrediadau megis gwella cyngor gyrfaoedd a chynyddu’r nifer o ddewisiadau rhydd ar lefel TGAU. Mae ysgolion cynradd yn galw am fwy o gefnogaeth ac anogaeth i roi gofod i ITM o fewn cwricwlwm sydd yn barod yn llawn. Bydd hynny’n sail dda i ddisgyblion ddewis ITM yn hwyrach yn ystod eu haddysg.”
Mae awduron yr adroddiad yn cefnogi awgrymiadau adroddiad Donaldson i roi’r Gymraeg, Saesneg ac ITM gyda’i gilydd ar y cwricwlwm, drwy ddweud y dylai’r dulliau dysgu ddatblygu medrau ieithyddol generig a fyddai’n darparu seiliau cadarn i ddysgu ieithoedd a lleihau’r canfyddiad bod y gwahanol ieithoedd yn cystadlu yn erbyn eu gilydd.
Mae’r athrawon yn dweud y byddai tri cham yn debygol o gyfrannu at gynyddu niferoedd y disgyblion sydd yn astudio ITM ar lefel TGAU:
- Cyngor gwell ynghylch gyrfaoedd a manteision sgiliau ieithyddol yn y gweithle
- Newidiadau yn y dull asesu a marcio’r arholiadau TGAU, sydd yn cael eu hystyried yn llym ac anghyson
- Cynyddu’r nifer o ddewisiadau rhydd a gwneud yn sicr bod ieithoedd ar gael ym mhob un o’r blociau dewisiadau y mae’r disgyblion yn defnyddio ar gyfer yr arholiadau.
Mae’r arolwg yn cynnwys darganfyddiadau allweddol eraill:
- Mae 80 y cant o’r atebion o’r ysgolion uwchradd yn amlygu y bydd dechrau dysgu iaith dramor yn yr ysgol gynradd yn codi’r niferoedd sydd yn dewis gwneud ITM ar lefel TGAU
- Ffrangeg yw’r iaith a addysgu’r yn amlach yn yr ysgolion cynradd, gyda’r Sbaeneg yn ail.
- Mae ymrwymiad cryf i gefnogi’r ymdrechion i hyrwyddo ITM – ond er bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar yr agweddau tuag at ieithoedd, nid yw’r niferoedd wedi codi.
- Mae’r grwpiau sydd yn astudio ITM ar ôl 16 yn fach iawn, a’r niferoedd yn gostwng. O ganlyniad, mae’r ddarpariaeth ar ôl 16 yn dod yn anymarferol yn economaidd.
- Mae un chwarter o ysgolion cynradd Cymru’n darparu rhywfaint o addysg ITM, fel arfer er mwyn paratoi disgyblion blwyddyn 6 i symud i’r ysgol uwchrawdd.