- Digwyddiad Cerdd Iaith yn Neuadd Hoddinot y BBC i ddathlu dysgu ieithoedd rhyngwladol.
- Daeth dros 100 o ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru at ei gilydd i berfformio caneuon yn Gymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg a Ffrangeg.
- Perfformiad cyntaf gan Lleuwen Steffan & Brieg Guerveno yn Gymraeg a Llydaweg o gân Lleuwen ‘Aderyn / Lapous’ i ddathlu Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru.
Heddiw, daeth British Council Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC at ei gilydd yn Neuadd Hoddinot yng Nghaerdydd gyda disgyblion pedwar o ysgolion o wahanol rannau o Gymru i ddathlu Cerdd Iaith, rhaglen dysgu ieithoedd sy’n dod â’r byd i’r ystafell ddosbarth drwy gerddoriaeth iaith.
Cafodd y digwyddiad ei lywio gan yr artist cerddorol, Lily Beau, a chafwyd anerchiad arbennig gan y Prifardd, Yr Athro Mererid Hopwood hefyd. Roedd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan British Council Cymru ar y cyd â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Daeth dros gant o ddisgyblion ysgol at ei gilydd i berfformio detholiad o ganeuon Cerdd Iaith – o Ysgol Gynradd Sili, Ysgol Gynradd Wirfoddol Myfenydd, Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant.
Cafodd rhaglen Cerdd Iaith ei lansio yn 2016. Mae’n adnodd pwerus sy’n helpu disgyblion cynradd i ddysgu ieithoedd – Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg a nawr, Ffrangeg. Cafodd y rhaglen ei datblygu gan British Council Cymru mewn cydweithrediad agos ag athrawon ysgolion cynradd a’r Athro Mererid Hopwood. Mae rhaglen Cerdd Iaith yn rhan allweddol o waith y British Council i hybu dysgu ieithoedd mewn ysgolion ledled Cymru, ac i helpu meithrin cysylltiadau, gwybodaeth a dealltwriaeth ryngwladol.
Wrth gyflwyno’r digwyddiad, soniodd yr artist cerddorol Lily Beau am ei phrofiad gydag ieithoedd a phwysigrwydd dysgu drwy ddulliau creadigol:
“Ro’n i’n lwcus iawn achos roedd theatr a pherfformio yn rhan o fy mywyd o oedran cynnar. Fe wnaeth fy sbarduno i, tanio fy chwilfrydedd a rhoi hyder i fi. Rydyn ni’n dysgu mewn ffordd wahanol drwy’r celfyddydau a chreadigrwydd, ac rydyn ni’n credu mai dyma pam mae Cerdd iaith yn gweithio.
“Roedd gweld y plant ar y llwyfan heddiw yn wych, ac mae wedi bod yn wych hefyd i ddysgu am sut mae’r athrawon yn defnyddio adnoddau Cerdd Iaith. Mae’r sesiynau’n gymaint o hwyl a dych chi’n gweld yn glir mor gyflym mae’r plant yn dysgu. Mae’n ffordd ardderchog i ddod â Chymraeg ac ieithoedd rhyngwladol i’r dosbarth”.
Wedi’r cyflwyniad, daeth 100 o ddisgyblion (rhwng saith ac un ar ddeg oed) i’r llwyfan – yng nghwmni Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – i berfformio caneuon newydd sbon a symudiadau y maent wedi bod yn dysgu yn ystod sesiynau Cerdd Iaith yn eu hysgolion. Dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd, Tim Riley, cafodd y plant rannu eu sgiliau iaith newydd a dangos pwysigrwydd addysgu a dysgu amlieithog.
Y cyfansoddwr Tim Riley yw Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Cerdd Iaith. Mae wedi bod yn gweithio gyda dosbarthiadau mewn ysgolion ledled Cymru, ac ef oedd yn arwain y perfformiad heddiw:
“Bydd y perfformiad yma gyda Cherddorfa’r BBC yn gyfle gwych i ddangos sut rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i helpu hybu dysgu ieithoedd drwy raglen Cerdd Iaith.
Rydyn ni wedi bod yn symud drwy’r ieithoedd, gan ddechrau gyda’r un caneuon yn Saesneg a Chymraeg ac yna symud i ddefnyddio Sbaeneg ac Almaeneg - gan edrych ar sut maen nhw’n wahanol a sut maen nhw’n debyg. Drwy ychwanegu symudiadau dawns reit ffynci a chael y plant ar eu traed ac yn symud, rydyn ni wedi dangos sut mae Cerdd Iaith yn help go iawn gyda’r broses ddysgu”.
Y Prifardd, yr Athro Mererid Hopwood oedd yn cyflwyno prif anerchiad y digwyddiad. Wrth sôn am ddysgu amlieithog dywedodd:
“Fe ddechreuodd y rhaglen gyda chydweithwyr mewn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Ein gobaith o’r dechrau oedd galluogi athrawon ledled Cymru i fagu hyder wrth arwain eu dysgwyr ar siwrne amlieithog. Bydd hwn yn gyfle bendigedig i blant o wahanol rannau o Gymru ddod at ei gilydd i ddathlu’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu wrth wrando ar ieithoedd”.
Roedd o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Sili yn perfformio yn y gyngerdd. Maen nhw wedi bod yn defnyddio adnoddau Cerdd iaith ers y llynedd ac wedi gweld cynnydd trawiadol yn niddordeb eu disgyblion mewn ieithoedd.
Dywedodd Andrea Waddington, Pennaeth Ysgol Gynradd Sili:
“Dw i mor falch o bob un o’n disgyblion sydd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad cyffrous yma heddiw. Roedd yn ddathliad gwych o holl ymdrech ein disgyblion a’n hathrawon i hybu ieithoedd rhyngwladol a meithrin cysylltiadau byd-eang. Drwy gymryd rhan yn rhaglen Cerdd Iaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni gweld cariad go iawn at ieithoedd yn blodeuo yn yr ysgol, ac rydyn ni’n gwybod fod y dysgu yma’n chwarae rhan fawr o ran ehangu gorwelion y disgyblion a’u helpu i ddeall mwy a derbyn diwylliannau eraill.”
Blwyddyn Cymru yn Ffrainc
Heddiw hefyd, cyhoeddodd British Council Cymru fod Ffrangeg yn cael ei hychwanegu at raglen hyfforddi Cerdd Iaith. Ac i ddathlu treftadaeth gyffredin Cymru a Llydaw ymhellach yn ystod Blwyddyn Cymru yn Ffrainc, cyflwynodd Lleuwen Steffan a Brieg Guerveno y perfformiad cyntaf yn Gymraeg a Llydaweg o gân Lleuwen, ‘Aderyn / / Lapous’.
Meddai Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Wales:
“Dyma ffordd ardderchog i ddathlu Cerdd Iaith, rhaglen sydd wrth galon yr hyn y mae’r British Council yn ei wneud. Rydyn ni’n angerddol am weld pobl yn dysgu ieithoedd rhyngwladol achos rydyn ni’n sylweddoli eu pwysigrwydd wrth feithrin cyfeillgarwch a dealltwriaeth rhwng diwylliannau, ac rydyn ni’n credu fod gallu pobl ifanc i siarad a deall ieithoedd rhyngwladol yn allweddol i hyn. Mae rhaglen Cerdd Iaith yn unigryw gan ei bod yn dod â Chymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol Modern at ei gilydd drwy gerddoriaeth a drama - sy’n ffordd hwyliog a difyr o danio diddordeb mewn dysgu ieithoedd.
“Rydyn ni hefyd yn falch iawn i gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar Flwyddyn Cymru yn Ffrainc sy’n anelu i ddatblygu a dyfnhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad drwy ein hieithoedd, digwyddiadau diwylliannol a phrosiectau. Ac yn ddiweddar, rydyn ni wedi ychwanegu adnoddau yn Ffrangeg i raglen Cerdd Iaith i gefnogi hyn.
Roedd heddiw’n achlysur cofiadwy, ac roedd yn wych i ddod â phawb at ei gilydd i ddathlu addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol”.
~Diwedd~