Dydd Llun 23 Ionawr 2017

 

Mae Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â British Council Cymru i gynnig ysgoloriaeth ymchwil newydd a fydd yn gwerthuso effeithiolrwydd unig raglen allgymorth ieithoedd Cymru.

Mae'r ysgoloriaeth wedi'i hariannu gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, ac mae'r ceisiadau'n agored ar gyfer astudiaeth PhD o waith Llwybrau at Ieithoedd Cymru; prosiect allgymorth sy'n cefnogi ieithoedd modern mewn ysgolion ledled Cymru.

Sefydlwyd Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn 2008, a'r ysgoloriaeth gydweithredol hon fydd y gwerthusiad manwl cyntaf o'r prosiect, sydd â'r nod o gynyddu nifer y disgyblion sy'n dewis ieithoedd tramor modern drwy eu gwneud yn fwy gweladwy a hybu eu proffil a'r nifer sy'n eu hastudio.

'Ysgoloriaeth gydweithredol' yw'r ysgoloriaeth ymchwil hon, a bydd yn golygu interniaeth gyda British Council Cymru.

Bydd y ddoethuriaeth yn canolbwyntio ar y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Sut mae gweithgareddau Llwybrau at Ieithoedd wedi cael effaith ar ysgolion a disgyblion? Pa rai o'u gweithgareddau sydd wedi bod fwyaf perthnasol yn ystod cylch bywyd y prosiect?
  • Beth fu swyddogaeth Llwybrau at Ieithoedd o ran dylanwadu ar agweddau at ieithoedd modern yng Nghymru?
  • Ble a sut y gellir mesur ac asesu'r manteision hyn?
  • I ba raddau y mae polisi addysg datganoledig Cymru wedi cynnig cyfleoedd i Lwybrau at Ieithoedd ymgysylltu?
  • Ble a sut mae prosiect Llwybrau at Ieithoedd wedi bwydo'n effeithiol i mewn i benderfyniadau polisi?
  • Sut mae Llwybrau at Ieithoedd yn cymharu ag ymyraethau eraill ar lefel ryngwladol, a beth all yr ymchwil hon ei ddweud wrthym am ymyraethau cynaliadwy ar gyfer ieithoedd modern yn y cyfnod ar ôl y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am yr ysgoloriaeth ymchwil yw 1 Chwefror 2017. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth gyfeillgar rhwng pobl y DU a gwledydd eraill. Gan ddefnyddio adnoddau diwylliannol y DU, rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, meithrin cysylltiadau ac ennyn ymddiriedaeth.

Rydym yn gweithio gyda dros 100 o wledydd ledled y byd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, yr iaith Saesneg, addysg a chymdeithas sifil. Bob blwyddyn, rydym yn cyrraedd dros 20 miliwn o bobl wyneb yn wyneb a dros 500 miliwn o bobl ar-lein, drwy ddarllediadau a chyhoeddiadau.

Wedi'i sefydlu yn 1934, rydym yn elusen yn y DU a lywodraethir gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y DU. Caiff y rhan fwyaf o'n hincwm ei godi drwy ddarparu amrywiaeth o brosiectau a chontractau addysgu ac arholiadau Saesneg, contractau addysg a datblygu ac o bartneriaethau â sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae 18 y cant o'n cyllid yn dod o lywodraeth y DU.

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon