Mae ymweliadau tramor a drefnwyd ar gyfer 2020/21 wedi cael eu gohirio yn sgil cyfyngiadau teithio’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Yn y cyfamser, rydym yn archwilio cyfleoedd dysgu rhithwir i athrawon yn seiliedig ar Feysydd Dysgu a Phrofiad a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Beth yw Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol?
Ariennir Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol gan Lywodraeth Cymru ac fe'u gweithredir gan British Council Cymru.
Mae Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol wedi’ halinio â blaenoriaethau addysgu Llywodraeth Cymru, ac yn rhoi cyfle i weithwyr addysg proffesiynol gydweithio ag ysgolion, mudiadau a rhwydweithiau mewn gwledydd eraill.
Drwy gyfrwng Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol, mae athrawon o Gymru'n cael cyfle i ymweld â gwlad dramor er mwyn dysgu gan gydweithwyr rhyngwladol wrth arsylwi dulliau cynnal gwersi, methodolegau addysgu, dulliau cyflwyno cynnwys a safonau dysgu disgyblion.
Mae ymweliadau cyfnewid dysgu yn y gorffennol wedi cynnwys cymhwysedd digidol yn Hong Kong, arfer mynegiadol ac arfer sy’n cysylltu’n gymdeithasol ym maes y celfyddydau yn India, lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn Efrog Newydd, ac yn fwyaf diweddar, y defnydd o fodel Ysgolion Partneriaeth Cymunedol (Community Partnership Schools™) yn Fflorida.
Nod y rhaglen yw i
- ddarganfod methodolegau a ffyrdd newydd o gyflwyno DPP
- sbarduno syniadau ar gyfer Arweinyddiaeth athrawon a gwella DPP athrawon yng Nghymru
- gasglu gwybodaeth, syniadau a mewnwelediadau newydd trwy drafodaethau gyda chydweithwyr rhyngwladol mewn amgylchedd sy'n cefnogi ei gilydd