Cyfranogwyr y seremoni 2014
Cyfranogwyr y seremoni 2014 ©

Hawlfraint British Council Cymru

Mae'r Wobr Ysgolion Rhyngwladol yn anrhydedd i ysgolion sy'n gwneud gwaith rhagorol mewn addysg ryngwladol, er enghraifft drwy feithrin cysylltiadau ag ysgolion partner dramor. Mae meithrin dimensiwn rhyngwladol yn y cwricwlwm wrth wraidd gwaith y British Council gydag ysgolion, a'r nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn magu'r ddealltwriaeth ddiwylliannol a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw a gweithio fel dinasyddion byd-eang.

Mae'r wobr ar gael yng Nghymru a gwledydd eraill gan gynnwys Gwlad Groeg, Nigeria, Bangladesh a Sri Lanka.

Mae tair lefel i'r Wobr Ysgolion Rhyngwladol, sef: Sylfaen, Canolradd ac Achrediad.

Bydd lefel eich ysgol yn ddibynnol ar faint o waith rhyngwladol rydych chi eisoes wedi'i wneud - rhagor o wybodaeth

Mae'r Wobr Ysgolion Rhyngwladol yn annog ac yn cefnogi ysgolion i ddatblygu:

  • Ethos rhyngwladol sydd wedi'i wreiddio ledled yr ysgol
  • Mwyafrif y disgyblion yn yr ysgol yn ymwneud â gwaith rhyngwladol ac yn profi ei effaith
  • Gwaith yn seiliedig ar y cwricwlwm ar y cyd â nifer o ysgolion partner rhyngwladol
  • Gwaith cwricwlaidd ar draws ystod o bynciau
  • Gweithgarwch rhyngwladol gydol y flwyddyn
  • Cynnwys y gymuned ehangach
  • Gwerthfawrogiad ehangach o amrywiaeth a gwledydd a diwylliannau eraill
Rhannu’r dudalen hon