Mae British Council Cymru yn chwilio am weithwyr llawrydd, athrawon ac unigolion brwdfrydig a chreadigol sy’n teimlo’n angerddol am iaith a cherddoriaeth i fod yn hyfforddwyr athrawon ar gyfer ein rhaglen, Cerdd Iaith.
Mae Cerdd Iaith yn adnodd pwerus a gafodd ei ddatblygu gan British Council Cymru sy’n defnyddio cerddoriaeth a drama i helpu plant cynradd i ddysgu ieithoedd gan gynnwys Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg.
Rydym wrthi’n creu tîm bach o hyfforddwyr drama a cherddoriaeth ‘ar-lein’ o bob rhan o Gymru. Bydd aelodau’r tîm o hyfforddwyr yn cael eu hyfforddi gan y British Council a Tim Riley, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Cerdd Iaith.
Ar ôl i chi gyflawni’r hyfforddiant, bydd disgwyl i chi gyflwyno sesiynau hyfforddi deinamig a rhyngweithiol ar-lein yn ogystal â sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb i athrawon ysgolion cynradd. Mae’r British Council yn deall fod eich amser yn werthfawr, ac felly byddwn yn eich talu am gymryd rhan yn y sesiynau hyfforddi, hyn, a thalu eich costau teithio hefyd. Bydd y sesiynau hyfforddi yn eich arfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau i ddefnyddio dulliau creadigol newydd o ddysgu ieithoedd a manteisio’n llawn ar wefan ac adnoddau amlieithog Cerdd Iaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n angerddol am ganu ac sydd â phrofiad o ddysgu a/neu berfformio. Er y byddai rhywfaint o wybodaeth o ieithoedd eraill yn fanteisiol, nid oes angen bod yn rhugl ynddynt. Ond, i lwyddo yn y rôl yma bydd gofyn i chi fod yn barod i ddysgu a meistroli amrywiaeth o ganeuon mewn gwahanol ieithoedd. Mae’r ieithoedd a gyflwynir gan raglen Cerdd Iaith yn cynnwys Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg. Mae’n bwysig nodi y bydd y rhaglen hyfforddi yn canolbwyntio ar set benodol o ganeuon, ac ni fyddwn yn gwyro oddi wrth hynny.
Mae hwn yn gyfle gwych i chi ddefnyddio eich sgiliau yn ogystal ag arfogi eich hun â’r technegau y bydd eu hangen ar athrawon i ddysgu caneuon a gemau drama yn effeithiol i’w disgyblion. Mae hyder, personoliaeth ddymunol a sgiliau cyfathrebu ardderchog yn rhinweddau allweddol i lwyddo yn y rôl yma. Yn ogystal, bydd gennych barch mawr at athrawon ac amgylchedd yr ystafell ddosbarth.
Os ydych chi’n caru cerddoriaeth ac os oes gyda chi brofiad o ddysgu neu berfformio, rydym yn eich annog i wneud cais i fod yn un o Hyfforddwyr Ar-lein Cerdd Iaith. Ymunwch â’n tîm a chyfranwch i brosiect cyffrous sy’n annog athrawon a’u disgyblion i ddysgu iaith newydd gyda’i gilydd.