Gan Claire Gorrara, Athro Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Cyngor y Prifysgolion ar gyfer Ieithoedd Modern (UCML)

28 Medi 2020 - 14:53

Rhannu’r dudalen hon
Y gair 'Croeso' mewn llawer o ieithoedd
©

Shutterstock

Dro ar ôl tro dywedir bod sefyllfa astudio ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru yn ‘argyfyngus’  Mae adroddiadau Tueddiadau Ieithoedd Cymru, a gyhoeddwyd gan y British Council ers 2015, yn dangos hanes o ddirywiad flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae adroddiad eleni’n nodi bod ‘dirywiad o bron i 10% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Tramor Modern yn 2020 o’i gymharu â 2019. Mae hyn yn dilyn tueddiad o flwyddyn i flwyddyn sydd wedi arwain at gwymp o 64% yn nifer y cofrestriadau ers 2002’.

Nid yw’r ‘argyfwng’ mewn dysgu ieithoedd yn unigryw i Gymru

Nid yw’r darlun yma’n unigryw i Gymru o bell ffordd. Caiff yr ‘argyfwng’ mewn dysgu ieithoedd yn y Deyrnas Unedig ei amlygu yn nheitl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch yn 2020.

Ond pa mor ddefnyddiol yw’r penawdau a’r straeon yma am ofid a gwae ym maes dysgu ieithoedd? Wrth edrych y tu hwnt i’r naratif am ddirywiad addysgu’r tair prif iaith Ewropeaidd (Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg) mewn ysgolion, fe welwn straeon eraill yn ymddangos.

Mae data’r cyfrifiad yn dangos fod Cymru a gwledydd y Deyrnas Unedig yn genhedloedd hynod o amlieithog

Mae Cymru a gwledydd y Deyrnas Unedig yn genhedloedd hynod o amlieithog. Mae data’r cyfrifiad yn dangos fod cymunedau sylweddol o drigolion sy’n siarad ieithoedd heblaw ieithoedd brodorol y DU wedi gwreiddio yma ers tro. Y mwyaf niferus ymhlith y rhain yw siaradwyr Pwyleg, Pwnjabeg ac Wrdw. Byth er sefydlu’r syniad bod holl drigolion Ynysoedd Prydain yn un, mae hanes yn dangos mai gwlad amlieithog fuom ni erioed.

Fel y dywed yr Athro Neil Kenney mewn erthygl yn y British Academy Review (Gwanwyn, 2019: 13), ‘mae gan y Deyrnas Unedig y potensial i fod yn bwerdy ieithyddol‘. Y cwestiwn yw, sut y gallwn roi’r adnodd ieithyddol yma, sydd heb ei gyffwrdd i raddau helaeth, ar waith heddiw?

Annog ein holl ddysgwr i fod yn ddinasyddion byd-eang sy’n gallu siarad ieithoedd eraill

Un ffordd o roi ein cyfoeth amlieithog ar waith yw dod ag ieithoedd i mewn i’r ystafell ddosbarth mewn dulliau newydd sy’n tanio brwdfrydedd dysgwyr yng Nghymru. Wrth gymryd camau i gefnogi’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio’i gynllun ar gyfer ieithoedd modern - Dyfodol Byd-eang (2020-22) – a gosod amlieithrwydd wrth galon y strategaeth.

Mae gan y strategaeth estynedig yma, a gyhoeddwyd yn 2020, genhadaeth eang i ‘gefnogi ein holl ddysgwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang sy’n gallu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill, deall a gwerthfawrogi eu diwylliant eu hunain yn ogystal â diwylliannau eraill, a chael mynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd yma yng Nghymru a ledled y byd’. https://gov.wales/global-futures-plan-improve-and-promote-modern-foreign-languages-wales-2020-2022 

Ysgolion cynradd i gyflwyno o leiaf un iaith ryngwladol

Mae’r weledigaeth yma’n trosi’n gyfres o gamau gweithredu strategol sy’n ymrwymo ysgolion cynradd i gyflwyno o leiaf un ‘iaith ryngwladol’ fel rhan o Gwricwlwm newydd Cymru o 2022 ymlaen, ac addewid penodol i ddelio â’r tueddiad i ‘wthio ieithoedd i’r ymylon’. Mae’r strategaeth yn cydnabod arwyddocâd difaterwch tuag at ieithoedd o ran rhieni a dysgwyr iau yn ogystal â diffyg ymrwymiad uwch arweinwyr, sef yr union rai a allai sicrhau bod awyrgylch ieithyddol gyfoethog yn ffynnu yn ein hysgolion.

Paradocs dwyieithrwydd yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yw bod ieithoedd ym mhobman a ddim yn unman. Mae ‘amlieithrwydd creadigol’ o’n cwmpas ym mhobman – o seiniau ac arwyddion ein strydoedd i’r bwyd yr ydym yn ei fwyta, y gemau ar-lein yr ydym yn eu chwarae a’r ffilmiau a’r cyfresi teledu yr ydym yn eu gwylio. Mae angen i ni weithio’n galetach i sicrhau fod yr amlieithrwyddd yna’n fwy gweladwy a gwerthfawrogi’r modd y mae’n agor drysau i fydoedd eraill i ni a’n plant.

Athro Claire Gorrara

Claire Gorrara

Athro Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Cyngor y Prifysgolion ar gyfer Ieithoedd Modern (UCML)