Fideo: Croeso i Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2020: Y Sgwrs - Syr Ciarán Devane, cyn Prif Weithredwr y British Council, yn sôn am bwysigrwydd dysgu iaith.
Ers 2015 rydym wedi cynnal arolwg blynyddol o ysgolion yng Nghymru. Fe ofynnom i athrawon rannu profiadau a sôn wrthym am ddysgu ieithoedd tramor modern (ITM)
Eleni, blwyddyn Covid-19, rydym wedi dadansoddi Canlyniadau Lefel A a TGAU 2020. Ac am y tro cyntaf, rydym wedi gofyn i arbenigwyr a sylwebyddion rannu eu barn am addysg Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru.
Fe ofynnom iddynt edrych tua’r dyfodol a rhannu eu sylwadau am sut y gall Cymru dyfu’n begwn disglair o ran dysgu ieithoedd. Roeddem yn awyddus i ystyried y cyfleoedd y gall cwricwlwm newydd Cymru eu cynnig i addysg Ieithoedd Tramor Modern. Mae ein sylwebyddion hefyd wedi bod yn meddwl am sut y gall Cymru fynd i’r afael â dysgu Ieithoedd Tramor Modern mewn byd ar ôl Brexit.
Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn cyhoeddi eu sylwadau mewn cyfres o erthyglau a fideos. Nodwch y dudalen hon a dewch yn ôl i weld y cyhoeddiadau diweddaraf neu dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod amdanynt.
Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2020
Mae’r adroddiad yma’n dangos y tueddiadau diweddaraf o ran y nifer sy’n dewis dysgu ieithoedd ar gyfer TGAU a Lefel A yng Nghymru yn ogystal â dadansoddiad o’r ffigurau hynny.
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i lawer ac mae’r ffigurau diweddaraf yma’n parhau i amlygu pa mor isel yw’r nifer sy’n dysgu ieithoedd yn gyffredinol mewn ysgolion yng Nghymru.
Ond, mae’r cwricwlwm newydd, a’r potensial am gymwysterau newydd a ddaw yn ei sgil, yn creu cyfle i ddiwygio’r gydnabyddiaeth a roddir i addysg ieithoedd a’r ffordd y caiff hynny ei feincnodi yma yng Nghymru.
Mae prif ganfyddiadau’r adroddiad yn cynnwys:
• Mae nifer y dysgwyr sy’n cofrestru ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yn parhau i ddisgyn yng Nghymru gyda gostyngiad o 10% ar gyfer TGAU a gostyngiad o 16% ar gyfer Lefel A ers 2019
• Er bod y ffigurau ar gyfer Ffrangeg ac Almaeneg wedi sefydlogi rhywfaint, gwelwyd gostyngiad o 19% ar gyfer TGAU Sbaeneg ac 15% ar gyfer Lefel A ers y llynedd
• Gwelwyd y dirywiad mwyaf rhwng 2019-2020 mewn cofrestriadau ar gyfer ‘ieithoedd eraill’ - gyda gostyngiad o 54% ar gyfer TGAU a 34% ar gyfer Lefel A.
Gallwch lawrlwytho'r adroddiad isod