Mae yna air yn y Cwricwlwm i Gymru 2022 sydd wedi ennyn fy chwilfrydedd. Lluosieithrwydd yw’r gair hwnnw. Ond beth mae’n ei olygu i ni yma yng Nghymru?
Lluosieithrwydd ac amlieithrwydd
Bwriedir rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith mewn ysgolion yng Nghymru o 2022. Mae’r cwricwlwm newydd yn cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Un o’r rhain yw’r Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ar gyfer dysgu Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol. Yn y maes hwn defnyddir dau air: lluosieithrwydd ac amlieithrwydd.
Efallai eich bod wedi clywed y gair ‘amlieithrwydd’ neu ‘amlieithog’ yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun y gallu i ddefnyddio mwy na dwy iaith. Mae’r cwricwlwm newydd yn ei ddiffinio fel ‘y wybodaeth am sawl iaith neu bresenoldeb sawl iaith o fewn cymdeithas benodol’.
Os yw amlieithrwydd yn cyfeirio at fwy na dwy iaith, sut mae ‘aml-’ yn wahanol i ‘lluos-’? Yn y cwricwlwm newydd, mae bod yn lluosieithog / lluosieithrwydd yn cyfeirio at yr amrywiaeth yng ngallu unigolion i ddefnyddio eu gwybodaeth o wahanol ieithoedd, a’r gallu i wneud cysylltiadau rhwng yr ieithoedd hynny, gwerthfawrogi’r berthynas rhyngddynt ac ymarfer eu defnyddio yn unigol neu gyda’i gilydd’.
Felly, wrth edrych drwy lens luosieithog ar y Cwricwlwm i Gymru 2022 mae gofyn i ni edrych ar y Gymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol gyda’i gilydd fel ieithoedd, yn hytrach nag fel pynciau ar wahân heb ddim yn gyffredin rhyngddynt.
Wedi cynnig diffiniadau cryno o amlieithrwydd a lluosieithrwydd, rwyf nawr am droi at fy ymchwil doethurol sy’n archwilio’r cysyniad o luosieithrwydd o fewn addysg ieithoedd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Yn yr erthygl hwn, byddaf yn canolbwyntio ar drydedd thema fy ymchwil doethurol cymwysterau a allai asesu sgiliau lluosieithog.
Beth ydw i’n ei olygu wrth ‘gymwysterau a allai asesu sgiliau lluosieithog’?
Trafodaf gymwysterau yn fy ymchwil yng nghyd-destun asesiad ffurfiol ar gyfer cymwysterau i ddysgwyr 16 oed yng Nghymru. Yn wir, dan arweiniad Cymwysterau Cymru, mae cymwysterau ar gyfer dysgwyr 16 oed yng Nghymru yn newid. Bydd y cymwysterau newydd hyn yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf yn Haf 2027. Felly, yn yr erthygl hwn byddaf yn trafod y potensial i gydnabod sgiliau lluosieithog fel rhan o drefn dyfarnu cymwysterau iaith i ddysgwyr 16 oed yng Nghymru.
Pam yn union y byddem ni eisiau i gymwysterau asesu sgiliau lluosieithog?
Rheswm 1: y cwricwlwm newydd ei hunan
Yn y canllawiau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru 2022, cyfeirir at ‘sgiliau lluosieithog’, ‘dull amlieithog a lluosieithog’ a ‘gweithgareddau lluosieithog’ o ran addysgu a dysgu yn y Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Ond, ni cheir cyfeiriad penodol at sut y gellir asesu’r elfen luosieithog o’r addysgu a’r dysgu.
Efallai nad oes angen asesiad o’r fath? Ond, mae edrych ar elfen asesu’r cwricwlwm newydd yn awgrymu bod angen asesiad o’r fath. Yno, nodir bod asesu ‘yn rhan annatod o ddysgu ac addysgu’ a’i fod ‘yn rhan naturiol o ddysgu ac addysgu’. Er bod dogfen canllawiau’r cwricwlwm newydd yn nodi nad yw cymwysterau allanol yn rhan o gwmpas y ddogfen honno, mae’n nodi hefyd y bydd cymwysterau allanol ‘yn cael eu datblygu i adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru a helpu i wireddu ei uchelgais’. O safbwynt y cwricwlwm newydd, ymddengys bod dysgu, addysgu ac asesu (ysgol a chenedlaethol) yn mynd law yn llaw.
Mae’r syniad bod dysgu, addysgu ac asesu (ysgol a chenedlaethol) yn cyd-fynd a’i gilydd yn elfen rwy’n ei harchwilio’n gysyniadol yn fy ymchwildoethurol. Yn fy ymchwil, rwy’n mabwysiadu’r persbectif ecolegol ar ddysgu iaith; lle mae dysgu, addysgu ac asesu yn cael eu trin fel rhan o’r un ecosystem, fel elfennau sy’n cydberthyn ac yn effeithio ar ei gilydd.
Felly o’r safbwynt hwn, mae rhywun yn pendroni: os yw dysgu ac addysgu yn symud i gyfeiriad lluosieithrwydd, oni ddylai asesu hefyd, yn ei holl ffurfiau, wneud yr un modd?
Rheswm 2: y dirywiad parhaus o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Rhyngwladol
Fel y dengys adroddiad Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2020, gwelwyd y dirywiad mwyaf mewn cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Rhyngwladol yn 2019-20 ym maes ‘ieithoedd eraill’; roedd nifer y cofrestriadau wedi haneru ers llynedd - i gyfanswm o 264 o gofrestriadau mewn 15 o ieithoedd gwahanol (ac eithrio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg). Ond nodwyd fod bron i 30,000 o ddysgwyr 5+ oed yng Nghymru yn siarad iaith arall heblaw Cymraeg a Saesneg fel iaith gyntaf ; a nodwyd hefyd mai Pwyleg, Arabeg a Bengaleg yw’r tair iaith sydd ar frig y rhestr honno o dros 150 o ieithoedd. Felly, mae’n ymddangos bod nifer o ddysgwyr yn colli cyfle i ennill cymwysterau sy’n cydnabod eu lluosieithrwydd o ran yr ieithoedd y maent yn gallu eu defnyddio. Mae hyn yn werth ei ystyried ymhellach achos, ar sail fy ymchwil blaenorol, gwelir fod cymwysterau yn ieithoedd cartref ac ieithoedd cymuned dysgwyr 16 oed yn ffactorau pwysig o ran dilysu honiadau dysgwyr eu bod yn gallu siarad iaith benodol.
Mae’r dirywiad yn y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn ‘ieithoedd eraill’ yn 2020 yn rhan o ddarlun ehangach sy’n dangos dirywiad cyffredinol yn 2020 o bron i 10% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Rhyngwladol ers 2019. Mae’r dirywiad hwn adlewyrchu patrwm ehangach a gostyngiad o 64% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Rhyngwladol ers 2002. Mae’n ymddangos y bydd angen trafodaeth bellach am sut y gallwn wrthdroi’r dirywiad hwn.
Fel y dywed Llompart et al. , mae galw mawr am ymchwil empirig ar ddulliau asesu cymwyseddau lluosieithrwydd a ddylai adlewyrchu’r gallu i ddefnyddio amryw adnoddau yn hytrach nag un iaith yn unig. Gan fod ymchwil ac ymarfer yn dangos bod angen ail-feddwl ein gweithdrefnau asesu presennol, a allai cymwysterau sy’n cydnabod lluosieithrwydd gynnig ffordd ymlaen?
Pa ffurf allai cymwysterau sy’n asesu lluosieithrwydd ei gymryd?
Mae nifer o lwybrau posib, sy’n cael eu defnyddio’n barod mewn gwledydd eraill, y gellid eu dilyn i ddatblygu cymwysterau a gweithdrefnau asesu sy’n asesu lluosieithrwydd.
Un enghraifft yw’r Portffolio Iaith Ewropeaidd a ddatblygwyd gan Gyngor Ewrop ac sydd wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth ledled Ewrop. Gellid cynnig y portffolio hwn sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr fel dull arall o gynnal arholiadau. Mae’r portffolio’n ddogfen sy’n cael ei addasu ar gyfer pob cyd-destun yn ei dro; mae’n galluogi’r dysgwyr eu hunain i gadw a datblygu record barhaus o’u cyraeddiadau wrth ddysgu iaith yn ogystal â’u profiadau rhyngddiwylliannol o’r holl ieithoedd y maent yn eu defnyddio o fewn y drefn addysg ffurfiol a’r tu allan i’r drefn honno. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun pandemig Covid-19. Yn wir, mae Gweinidog Addysg Cymru wedi datgan na fydd arholiadau TGAU, AS a Lefel A yn cael eu cynnal yng Nghymru ddiwedd blwyddyn academaidd 2021. Bydd ‘asesiadau dan reolaeth athrawon’ yn cymryd lle’r arholiadau hynny. Felly, efallai mai dyma’r adeg i archwilio dulliau asesu a arweinir gan fyfyrwyr ac asesiadau gan athrawon ymhellach. Efallai bod menter fel y Portffolio Iaith Ewropeaidd yn cynnig cyfle i ni.
Daw enghraifft arall o Awstria. Yno cynhaliwyd cynllun peilot o arholiad llafar lluosieithog i asesu ail a thrydedd iaith dysgwyr (L2 ac L3) mewn Colegau Galwedigaethol Blynyddoedd Uwchradd Uwch yn Awstria. Yn yr arholiad rhoddwyd gwybodaeth i’r dysgwyr yn Almaeneg (iaith eu haddysg); roedd gofyn iddynt rannu’r wybodaeth yna yn Saesneg (L2) a Ffrangeg (L3) gyda’r ddau unigolyn a oedd yno i gynnal y sgwrs at ddibenion yr arholiad. Hefyd, gofynwyd i’r dysgwyr fod yn gyfryngwyr rhwng y ddau unigolyn - yn ôl ac ymlaen rhwng Saesneg a Ffrangeg. Enghraifft debyg arall yw arholiadau KPG yng Ngwlad Groeg lle mae’r ymgeiswyr yn cyfryngu rhwng y Roeg ac ieithoedd eraill - er enghraifft wrth ysgrifennu ebost yn Saesneg ar ôl darllen testun yn y Roeg. A allai rhywbeth tebyg weithio yma yng Nghymru, rhwng y Gymraeg, Saesneg ag iaith arall, neu rhwng nifer o wahanol Ieithoedd Rhyngwladol?
Neu syniad arall: cymwysterau modiwlaidd. Er enghraifft, y cynlluniau asesu Asset Languages a ddatblygwyd yn Lloegr gan OCR a Cambridge ESOL yn ystod y 2000au. Ar un adeg roedd y rhain ar gael mewn o leiaf 26 o ieithoedd. Roedd y system asesu hwn yn cyflwyno asesiadau modiwlaidd a oedd yn galluogi asesu sgiliau darllen, gwrando, ysgrifennu a siarad fel elfennau ar wahân yn ogystal ag ar draws lefelau gwahanol. O ganlyniad roedd ymgeiswyr yn gallu datblygu proffil o wahanol sgiliau mewn gwahanol ieithoedd. Roedd modd eu hasesu’n allanol ar gyfer cymwysterau ffurfiol neu eu hasesu gan athrawon ar gyfer ardystiad athrawon.
Mae Cymwysterau Llwybrau Ieithoedd CBAC yma yng Nghymru yn gysyniad tebyg i’r cynllun Asset Languages. Gall ymgeiswyr ennill cymwysterau’n seiliedig ar gredydau am sgiliau llafar ac ysgrifenedig mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Siapaneg, Mandarin a Sbaeneg. Mae’r cymwysterau hyn yn cael eu hasesu’n fewnol gan ganolfannau a’u safonni’n allanol gan CBAC.
Wrth gwrs, llwybrau posib yn unig yw’r enghreifftiau uchod. Gallai syniadau o’r fath weithio yng nghyd-destun cymwysterau Cymru-gyfan i ddysgwyr 16 oed yma yng Nghymru, ond mae’n bosib hefyd nad ydynt yn addas. Yn wir, mae nifer o enghreifftiau ar gael a allai fod yn werth eu harchwilio ymhellach.
Sylwadau wrth gloi
Mae gan ddysgwyr Cymru sgiliau iaith amrywiol a chyfoethog – maent yn lluosieithog – ac mae’r Cwricwlwm i Gymru 2022 yn adlewyrchu hynny. Yn wir, mae’r cwricwlwm newydd fel petai’n cyfeirio lens lluosieithrwydd at sawl agwedd o’r Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae’r cwricwlwm newydd hefyd yn nodi sut y dylai dysgu, addysgu ac asesu gyd-fynd â’i gilydd. Felly mae’n ymddangos, os ydyn ni’n symud tua dull lluosieithog o addysgu a dysgu ieithoedd yng Nghymru, mae angen, o bosib, i ddulliau asesu a chymwysterau wneud yr un modd.