Myfyrwyr yn ymchwilio
Myfyrwyr yn ymchwilio ©

Hawlfraint British Council

Rydym yn cefnogi cydweithio gwyddonol drwy gyfnewid syniadau a gwybodaeth. Rydym yn adeiladu partneriaethau drwy ein rhwydwaith gwyddoniaeth fyd-eang. Rydym hefyd yn annog cysylltiadau a chydweithio rhwng gwyddonwyr, peirianwyr a rheolwyr ymchwil.

EURAXESS

Mae EURAXESS yn darparu gwybodaeth a chyngor i ymchwilwyr sy'n chwilio am swyddi newydd a chyllid o fewn neu'r tu allan i'r DU, ac i sefydliadau ymchwil y DU. 

Mae'r rhaglen yn cefnogi ymrwymiad yr Undeb Ewropeaidd i oresgyn y rhwystrau er mwyn hwyluso symud gwybodaeth yn Ewrop. 

Menter Addysg ac Ymchwil y DU ac India (UKIERI) 

Mae UKIERI yn atgyfnerthu cysylltiadau addysgol rhwng India a'r DU gan gefnogi partneriaethau a datblygu rhaglenni symudedd myfyrwyr a datblygu sgiliau. 

Mae Rhaglen Astudio India UKIERI hefyd yn cefnogi pobl ifanc sydd am astudio a datblygu eu gyrfa yn India drwy gynnig ysgoloriaethau yn India am dair wythnos dros yr haf.