Ledled y byd
Cymru Fyd-eang Darganfod
Mae rhaglen Cymru Fyd-eang Darganfod yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr dreulio cyfnod byr mewn gwlad dramor, i feithrin sgiliau a hyder, i wella'u cyflogadwyedd ac i ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Cyfle i ddysgu dramor fel Cynorthwyydd Iaith Saesneg
Cyfle unigryw i fanteisio ar leoliad gwaith (gyda thâl) mewn gwlad dramor, dysgu sgiliau newydd a phrofi diwylliant gwald arall. Nid oes angen sgiliau iaith!
Connecting Classrooms
Mae rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau yn helpu ysgolion i ddysgu am y materion sy’n siapio’n byd a chydweithio ar brosiectau. Mae’n cynnig adnoddau dysgu am ddim, cyrsiau hyfforddi a chyfle i gydweithio gydag ysgolion dramor.
Rhaglen Athrawon ar Leoliad, Lesotho
Mae’r rhaglen yma’n rhoi cyfle i athrawon cymwysedig sy’n gweithio yng Nghymru i ddysgu neu fentora disgyblion yn Lesotho yng nghanol De Affrica. Mae’n gyfle i gael eich trochi mewn diwylliant arall ac i ddefnyddio a datblygu sgiliau dysgu mewn amgylchedd gwahanol.
Cynllun yr Iaith Gymraeg
Nod Prosiect yr Iaith Gymraeg yw hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia yn yr Ariannin. Mae’r prosiect yn recriwtio swyddogion datblygu iaith o Gymru i weithio fel athrawon ar leoliad mewn cymunedau lle siaredir Cymraeg ym Mhatagonia, ac i ddarparu hyfforddiant ac arweiniad i’r tîm o diwtoriaid lleol.
Yng Nghymru
Cyfle i fod yn Gynorthwyydd Iaith Fodern yn y D.U.
Dyma gyfle i ddod â’ch iaith a’ch diwylliant yn fyw i ddisgyblion a myfyrwyr yng Nghymru. Mae angen i Gynorthwywyr Iaith fod yn gallu siarad Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg neu Tsieinëeg yn rhugl.