Mae British Council Wales yn dymuno comisiynu ymchwil ar ddysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
Hoffai British Council Cymru gomisiynu astudiaeth o ysgolion cynradd penodol sydd wedi cyflwyno ieithoedd rhyngwladol fel rhan o'u cwricwlwm eisoes, gyda'r nod o gael gwell dealltwriaeth o'r sail resymegol a'r methodolegau a ddefnyddiwyd a chael tystiolaeth o unrhyw effaith ar gyrhaeddiad er mwyn sicrhau bod modd rhannu arferion gorau
Rydym yn rhagweld y bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar yr elfennau canlynol:
- Dadansoddiad o'r sail resymegol ar gyfer penderfyniad y pennaeth i gynnwys ieithoedd tramor modern yn eu cwricwlwm.
- Dadansoddiad o'r modd y cafodd y gwaith o gyflwyno ieithoedd tramor modern ei gynllunio a'i weithredu. Bydd hyn yn cynnwys penderfyniadau ar ba ieithoedd i'w cyflwyno; y gofynion iaith ar staff a'u lefelau; unrhyw ddatblygiad proffesiynol parhaus yr oedd gofyn amdano; datblygu a gweithredu'r cwricwlwm; yr adnoddau angenrheidiol.
- Asesiad ansoddol a meintiol o'r rôl mae ieithoedd tramor modern wedi'i chwarae o ran gwella cyrhaeddiad. Bydd hyn yn cynnwys adborth ansoddol gan benaethiaid, athrawon a llywodraethwyr (ac unrhyw adborth o'r ysgolion uwchradd sy'n cael eu bwydo lle bo hynny'n berthnasol) yn ogystal ag unrhyw effaith feintiol e.e. ar brofion llythrennedd / rhifedd ac ati.
- Cyfres graidd o argymhellion ar y modd y gellid gweithredu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd a sut y byddai modd olrhain dadansoddiad o ganlyniadau tymor hwy o ran cyrhaeddiad.