Mae Beth Owen, Thomas Samuel a Sian Morgans yn gweithio fel athrawon ar hyn o bryd bron i 8,000 o filltiroedd oddi cartref – yn hybu’r Gymraeg ym Mhatagonia yn yr Ariannin.
Maen nhw yno dan nawdd Cynllun yr Iaith Gymraeg sy’n danfon tri o athrawon i dalaith Chubut bob blwyddyn i hybu a datblygu’r Gymraeg. Yma, maen nhw’n sgwrsio am eu profiadau a sut y maent wedi elwa o’r rhaglen.
Dywedwch wrthon ni amdanoch eich hun, eich profiad blaenorol a beth wnaeth eich denu i’r rhaglen?
Beth: Dw i’n dod o Lannerch-y-medd yn Ynys Môn yn wreiddiol. Fe es i Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd mewn Polisïau Cymdeithasol a gweithio i Fenter Iaith Abertawe. Bellach dw i’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn gweithio fel Swyddog Iaith Gymraeg i Cyngor ar Bopeth ac fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion gyda Dysgu Cymraeg / Learn Welsh Ardal Bae Abertawe.
Mae’r Gymraeg a’r gwaith o’i hybu wedi bod yn ganolog i fy ngyrfa hyd yma. Mi o’n i’n awyddus i roi cynnig ar her newydd, ac mi oedd Cynllun yr Iaith Gymraeg yn gyfle cyffrous – cyfle i wireddu breuddwyd! Mi o’n i eisiau cyfrannu i’r broses o gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg – a gweld gwireddu gweledigaeth y cynllun, yn ogystal ag ysbrydoli pobl ifanc a’r cenhedlaethau hŷn.
Siân: Fe wnes i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod fy nghyfnod yno bues i’n swyddog elusenau gydag Undeb y Myfyrwyr Cymraeg – yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol i godi arian a chreu cyfleoedd i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Penderfynais ddilyn cwrs ymarfer dysgu ac yna symudais i Gaerdydd lle bues yn gweithio fel athrawes gynradd am bedair blynedd.
Ces fy ysbrydoli i gymryd rhan gan un o fy athrawon, Mrs Lewis, a oedd wedi bod yn diwtor allan ym Mhatagonia. Fe agorodd hi fy llygaid i fywyd ar ochr arall y byd lle mae pobl a chymunedau’n siarad Cymraeg a Sbaeneg. Ers hynny bu ymweld â Phatagonia’n freuddwyd i mi ac mae wedi bod yn fraint aruthrol i ymuno a’r tîm arbennig yma yn y Wladfa a chyfrannu i’w gwaith.
Thomas: Cyn hyn ro’n i’n gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion a phlant ac fel cyfieithydd. Roedd Cynllun yr Iaith Gymraeg wedi apelio ataf ers pan o’n i’n ifanc. Ro’dd gen i ddiddordeb yn y cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia a rhai blynyddoedd yn ôl fe welais fod swyddi penodol ar gael i athrawon Cymraeg ym Mhatagonia. Ro’n i’n chwilio am her newydd wrth i ni ddod allan o’r pandemig, a chyn gynted ag y gwelais eu bod yn hysbysebu’r swyddi ym Mhatagonia ro’n i’n gwybod bod yn rhaid i fi wneud cais.
Dywedwch wrthon ni am ddysgu ym Mhatagonia – ydy e’n wahanol iawn i’ch gwaith dysgu chi adre?
Thomas: Yma, dw i’n gweithio yng Ngholeg Camwy’n bennaf. Mae’n ysgol uwchradd cyfrwng Sbaeneg yn y Gaiman sydd hefyd yn cynnig llawer o addysg Gymraeg i’w dysgwyr. Mae tipyn o wahaniaeth rhwng gwahanol ddosbarthiadau. Gyda grwpiau lle mae’r dysgwyr yn siarad Cymraeg yn rhugl mae fy ngwaith dysgu’n canolbwyntio ar fanylion gramadeg ac ehangu geirfa; tra bod lefel Cymraeg grwpiau eraill yn fwy sylfaenol, felly mae’r gwersi hynny’n canolbwyntio ar ramadeg a geirfa sylfaenol. Un o’r gwahaniaethau amlycaf yw mai Sbaeneg yn hytrach na Saesneg yw’r iaith gyffredin. Gwahaniaeth mawr arall yw bod pobl yn dysgu cyfuniad o Gymraeg deheuol a gogleddol sy’n wahanol iawn i’r sefyllfa yng Nghymru lle byddai pobl yn fwy tueddol o ddysgu un fersiwn yn unig o Gymraeg.
Beth: Dw i’n gweithio yn Ysgol y Cwm, a elwid gynt yn Ysgol Gymraeg yr Andes. Adeiladwyd yr ysgol yn 2015 ac mae dros 85 o blant rhwng tair a ddeuddeg oed yn ei mynychu. Mae’n ysgol fawr, gyda byrddau gwyn a digon o lyfrau Cymraeg ar gyfer pob blwyddyn. Does dim technoleg – dim iPadiau na chyfrifiaduron. Ar gyfartaledd, mae disgyblion pob blwyddyn yn cael o leiaf awr o wersi Cymraeg bob dydd. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl, ond dw i’n dysgu gair Sbaeneg newydd bob dydd ac mae pawb wedi bod mor groesawgar. Y prif wahaniaeth rhwng fan yma a nôl adre yw’r diffyg adnoddau a thechnoleg! Dw i’n credu y byddai gwersi Sbaeneg yn help i unrhyw un sy’n bwriadu dod allan yma, gan mai dim ond Cymraeg a Sbaeneg mae’r plant yn siarad.
Siân: Dysgu Blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Gymraeg y Gaiman yw fy mhrif waith yma. Dw i hefyd yn ffodus iawn i gael cynnal sesiynau bore yn Ysgol yr Hendre, Coleg Camwy a chynnal gwersi Cymraeg i staff yr ysgolion yn ogystal â rhedeg clwb ar ôl ysgol yn Nhrelew. Mae’r gwaith yma’n debyg iawn i ddysgu yng Nghymru gan ‘mod i’n defnyddio dulliau dysgu iaith trochol gyda chaneuon, deunydd iaith Gymraeg ac adnoddau gweledol. O ganlyniad, does dim angen cymaint â hynny o Sbaeneg i atgyfnerthu dealltwriaeth y disgyblion. Wrth gwrs, mae’n brofiad hollol wahanol wrth ddysgu gan fod sgyrsiau’r plant yn llifo rhwng y Gymraeg a’r Sbaeneg. Mae gweld y disgyblion yn gwneud y fath ymdrech a dangos balchder yn eu dwyieithrwydd yn brofiad anhygoel.
Dywedwch wrthon ni am yr heriau - beth sydd wedi bod yn anodd am y rhaglen?
Beth: Yr her fwyaf yw fy niffyg Sbaeneg! Ond mae hynny’n golygu fod yn rhaid i’r plant wneud mwy o ymdrech i siarad Cymraeg â mi sy’n golygu bod eu sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg wedi cryfhau.
Thomas: Mae’r heriau dysgu mwyaf wedi codi wrth orfod ceisio pennu lefel dysgwyr unigol mewn amser byr a chymryd hynny i ystyriaeth wrth ddysgu grŵp o ddisgyblion sydd â lefelau gallu amrywiol.
A fuoch chi’n dathlu’r Eisteddfod ym Mhatagonia? Sut brofiad oedd hynny?
Beth: Do – wrth gwrs! Roedd yn un o uchafbwyntiau fy amser yma. Roedd Eisteddfod yr Ifanc yn wahanol iawn i Eisteddfod yr Urdd; mae’n llawer mwy ffurfiol yma. Roedd Eisteddfod del Chubut yn brofiad anhygoel – maen nhw’n dipyn gwell canwyr yma yn y Wladfa! Mae’n anodd iawn i ffeindio’r geiriau i esbonio sut brofiad ydoedd – teimlad o falchder a pharch.
Siân: Mae aelodau’r gymdeithas Gymraeg yn y Wladfa yn bobl angerddol a gweithgar. Roedd gwaith diflino’r gymdeithas wrth drefnu Eisteddfod y Plant a’r Bobl Ifanc yn y Gaiman ac Eisteddfod Chubut yn Nhrelew yn un o’r uchafbwyntiau. Agorodd Eisteddfod Chubut gyda seremoni lle’r oedd yr Orsedd yn urddo aelodau newydd – i gydnabod eu gwaith pwysig gyda’r Gymraeg. Ro’dd hi’n seremoni debyg iawn i’r un sy’n cael ei chynnal yng Nghymru. Wrth gwrs, y prif wahaniaeth rhwng Eisteddfod Cymru ac Eisteddfod Chubut oedd y cystadlaethau yn Sbaeneg; ond roedd dathliadau a thraddodiadau’r ddwy wlad yn plethu’n berffaith gyda’i gilydd. Roedd gweld pobl yn mwynhau a rhannu eu balchder yn y ddau draddodiad yn brofiad cyfareddol. Bues i’n ddigon lwcus i gael cyfle i gystadlu gyda fy nghydweithwyr a ffrindiau yn yr Eisteddfod. Roedd yn braf cael dod at ein gilydd ar gyfer y Noson Lawen lle buon ni’n canu a dawnsio i gerddoriaeth Cymraeg a Sbaeneg.
I gloi, beth oes gyda chi gynlluniau pan fydd y rhaglen yn dod i ben?
Siân: Rwy’n lwcus iawn mod i wedi cael y cyfle yma i ddysgu ym Mhatagonia. Rwy wedi cwrdd â phobl angerddol ac wedi cael profiad o fyw a gweithio mewn gwlad â threfniadau a diwylliannau gwahanol sy’n gweld pwysigrwydd addysg a bod yn ddwyieithog. Rwy’n edrych ymlaen at gael rhannu fy mhrofiadau, straeon a chysylltiadau pan ddychwelaf at fy ngwaith dysgu yng Nghymru. Ond cyn hynny rwy’n mynd i barhau i deithio, a gobeithio gweld tipyn bach mwy o’r byd.
Thomas: Rwy’n bwriadu dychwelyd i Gymru i weithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae’r cynllun wedi bod o help i fi achos mae’r holl brofiad rwyf wedi ei gael dros y misoedd diwethaf wedi fy ngwneud yn well tiwtor.
Beth: Dw i wedi methu llawer o foethau, ond dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru ac ymweld ag ysgolion a chymdeithasau lleol i sôn wrthyn nhw am y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud yma yn yr Andes! Dw i’n fwy ymwybodol bellach o anghenion y gymdeithas a’r ysgolion Cymraeg yma, ac felly gallaf eirioli ar eu rhan. Dw i wedi manteisio ar bob cyfle a ddaeth i fy rhan yma, a gallaf ddweud fod cymryd rhan yn y cynllun eleni wedi bod yn bleser pur.
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn cynnig cyfle i dri arall o athrawon i hybu’r Gymraeg ym Mhatagonia rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2023.