Two artists looking at a ceramic work in progress at a workshop.

Roedd cynaliadwyedd yn thema ganolog yng Ngŵyl Rhyngwladol Serameg Aberystwyth 2025. Un o uchafbwyntiau'r ŵyl oedd prosiect preswyl ac arddangosfa 'Dim Gwastraff: Creu drwy uwchgylchu yng Nghymru' / 'Waste Not Want Not – Upcycled in Wales'. Cafodd ei gynnal gyda chefnogaeth y British Council a'i drefnu gan ICF mewn partneriaeth â Chrochendy Nantgarw a Chanolfan Grefft Rhuthun.

Daeth y prosiect â'r artist o Dwrci Elif Ağatekin a'r artistiaid o Gymru Bonnie Grace a Sally Stubbings at ei gilydd yng Nghrochendy Nantgarw ger Caerdydd. Bu'n gyfle iddynt archwilio dulliau o uwchgylchu deunydd serameg, gan gyfuno ugain mlynedd o arfer greadigol Ağatekin gydag arfer greadigol Grace o ail-ddehongli traddodiadau Cymreig fel casglu jygiau ac arddangos yn y cartref. Cafodd darnau o waith a grewyd ar y cyd ganddynt yn ystod y preswyliad eu dangos yn arddangosfa Ail: Greu: Wedi’u huwchgylchu a’u cydosod yng Nghymru yn yr Oriel Serameg yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Roedd yr arddangosfa'n cyflwyno'r gweithiau ochr yn ochr â darnau serameg hanesyddol a chyfoes o Gymru o gasgliad y Brifysgol. Roeddent hefyd yn ffocws i weithdai i ysgolion a phobl ifanc.

Yn ystod yr ŵyl, bu Grace yn arwain gweithdy darlunio dwyieithog yn ogystal â chynnal cyflwyniadau. Cafodd prif anerchiad yr ŵyl ei draddodi gan Elif - cyflwyniad eang ei gwmpas ar uwchgylchu ym maes serameg. Bu'r ddwy ohonynt hefyd yn ymgysylltu ag ymwelwyr â'r arddangosfa drwy gyfres o sgyrsiau a sesiynau ymarferol. Yn ogystal, cafodd y gwaith a grewyd ar y cyd ganddynt ei arddangos yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, lle cynhaliodd Grace weithdy a gafodd ymateb gwresog.

Wrth edrych yn ôl ar y prosiect, dywedodd Elif: "Roedd yr ŵyl a'r rhaglen breswyl yn fendigedig...Roedd y deg diwrnod a dreuliais yno'n brofiad gwirioneddol gofiadwy...ac fe wnes i fwynhau cwrdd â Bonnie a Sally'n enwedig, roedden nhw'n arbennig o gefnogol, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am eu help."

Rhannu’r dudalen hon